Dysgu Cymraeg er mwyn cyfieithu'r Quran

  • Cyhoeddwyd
Laura JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Un o resymau Laura Jones o Gaerdydd dros ddysgu Cymraeg oedd er mwyn gallu cyfieithu testunau Islamaidd i'r Gymraeg.

Wedi ei geni a'i magu yn y brifddinas, lle'r aeth i ysgol Saesneg, roedd hi eisiau i'w ffydd Fwslimaidd fod yn rhan o'r sgwrs Gymraeg.

Er iddi astudio Cymraeg ar gyfer TGAU yn yr ysgol, aeth ati i ail-ddysgu eto fel oedolyn yn 2016.

"Un rheswm oedd i wella fy ngyrfa, i wella fy ngyfleoedd gwaith, ond y rheswm arall oedd, o'n i eisiau cyfieithu pethau Islamaidd i Gymraeg," meddai.

"Achos 'mod i'n Fwslim o'n i eisiau trio dod a Islam i'r iaith Gymraeg."

Un ffordd o wneud hynny oedd yn bwysig iddi oedd gallu mynd ar y radio i siarad am Islam yn Gymraeg.

"Ond un peth arall oedd i gyfieithu pethau fel darnau o'r Quran, neu ddywediadau'r proffwyd Muhammad i'r Gymraeg hefyd.

"Pan o'n i'n gweithio i Gyngor Mwslimiaid Cymru dwi wedi dechra gwneud rhai pethau fel hyn.

"Achos does dim cyfieithiad llawn o'r Quran yn Gymraeg felly hwn oedd y peth o'n i eisiau bod yn rhan ohono."

Addolwyr mewn mosgFfynhonnell y llun, DARUL ISRA MOSQUE
Disgrifiad o’r llun,

Addolwyr ym mosg Caerdydd yn ystod Ramadan 2019

Pam nad oes cyfieithiad llawn wedi bod o'r blaen?

"Dwi ddim yn siŵr, achos wrth gwrs mae'r Quran wedi cael ei gyfieithu i mewn i gannoedd o ieithoedd ar draws y byd ond efallai bod dim digon o Fwslimiaid eto [yng Nghymru] i fod eisiau cyfieithu'r Quran i'r Gymraeg?

"Ond dwi meddwl nawr, bod lot mwy o Fwslimiaid yn siarad Cymraeg, yn mynd i ysgol Gymraeg neu bethau fel hyn, so dwi'n meddwl bod hwn yn amser da i wneud gwaith fel hyn."

Dyddiau'r Brenin Offa

Mae Laura hefyd wedi hyfforddi fel Caplan Mwslimaidd ac mae ganddi radd uwch ar y testun Islam ym Mhrydain Gyfoes; yn ei gwaith ymchwil daeth o hyd i gyfeiriadau at Fwslimiaeth ym Mhrydain yn gysylltiedig â'r Brenin Offa, dolen allanol yn yr wythfed ganrif.

Mae hefyd wedi ymchwilio i brofiadau pobl yn ystod Ramadan ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd hi'n siarad ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg flynyddol yr orsaf rhwng 15-22 Hydref.

Wnaeth dysgu'r iaith agor drysau mewn ffyrdd eraill iddi?

"Dwi meddwl ar ôl i fi ddysgu Cymraeg dwi wedi ffeindio rhai cymunedau a grwpiau Cymraeg felly falle mod i wedi cysylltu gyda mwy o bobl nag o'n i cyn i fi ddysgu Cymraeg," meddai.

"Ro'n i'n gweithio fel enghraifft i siop lyfrau Gymraeg Cant a Mil yng Nghaerdydd am sbel felly wedi ffeindio ffrindiau yna a ffrindiau [eraill] sy'n siarad Cymraeg hefyd."

Mae Laura yn fam i fachgen tair blwydd oed bellach sydd yn mynd i feithrinfa Gymraeg yng Nghaerdydd.

Er mai Saesneg yw iaith y teulu mae hi'n ceisio gofyn cwestiynau yn Gymraeg iddo nawr ac yn y man a'i annog i ddefnyddio'r iaith, ac mae yntau'n aml yn dod adref o'r ysgol yn canu cân Gymraeg.

A'i hoff gân?

"Dau Gi Bach dwi'n meddwl!"

Straeon perthnasol

Trending Now