Cyfnod o dywydd sych yn achosi lefelau afonydd isel

  • Cyhoeddwyd
Afon ElwyFfynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Eleni oedd yr ail fis Mai sychaf ers chwarter canrif yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru

GanSteffan Messenger
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

Mae arbenigwyr sychder wedi symud Cymru o statws 'arferol' i 'dywydd sych estynedig'.

Daw hyn yn sgil pryderon ynglŷn ag effaith prinder glaw sylweddol ar afonydd, lefelau dŵr daear a bywyd gwyllt.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud bod y wlad wedi profi'r ail fis Mai sychaf ers chwarter canrif.

Mae cwmnïau dŵr yn dal i fynnu bod lefelau cronfeydd "mewn lle da", sy'n golygu bod cyfyngiadau ar ddefnydd dwr yn dal i fod yn annhebygol.

Sychach na'r disgwyl

Bu Grŵp Cyswllt Sychder Cymru yn cwrdd fore Iau er mwyn derbyn diweddariad ar y sefyllfa.

Mae'r pwyllgor yn cynnwys arbenigwyr o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmnïau dŵr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, undebau amaeth, cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru.

Er gwaethaf stormydd diweddar, fe ddywedodd CNC bod llif afonydd ar draws Cymru yn isel ar hyn o bryd ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn.

Mae lefelau dŵr daear hefyd wedi bod yn encilio, gyda rhai safleoedd yn eithriadol o isel a phriddoedd yn sychach na'r disgwyl.

Afon ClwydFfynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lefel dŵr Afon Clwyd i'w weld yn isel yn ddiweddar

Mae'r corff eisoes wedi cyhoeddi cyngor i bysgotwyr o ran yr effaith mae tymereddau uchel yn ei gael ar eog a sewin.

Ac mae Sefydliad Gwy ac Wysg wedi galw ar bobl i beidio â physgota ar rannau o'r afonydd tan fod tymheredd y dŵr yn disgyn.

Dywedodd CNC bod eu swyddogion hefyd yn darparu cymorth i ddiffoddwyr tân wrth fynd i'r afael â tanau gwair niferus sydd wedi gwaethygu gan y tywydd sych.

Gwaharddiad pibellau dŵr yn annhebygol

Ym mis Mai, fe dderbyniodd Cymru 41% o'i glawiad cyfartalog tymor hir, gan olygu mai dyma oedd y mis Mai sychaf ond un yn y 25 mlynedd diwethaf, gyda 2020 yn unig yn sychach.

Ond wedi gaeaf gwlyb, mae'r cwmnïau dŵr sy'n gwasanaethu Cymru'n dweud nad ydyn nhw'n poeni ynglŷn â chyflenwadau pobl ar hyn o bryd ac maent eisoes wedi dweud bod cyfyngiadau fel gwaharddiadau ar ddefnyddio pibellau dŵr yn annhebygol.

Ar 8 Mehefin dywedodd Dwr Cymru bod eu cronfeydd 92.21% yn llawn yn y gogledd ddwyrain, 84.5% yn llawn yn y gogledd orllewin, 80.74% yn llawn yn y de ddwyrain ac 87.9% yn llawn yn y de orllewin.

Afon ElwyFfynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod tywydd sych estynedig yn fwy tebygol oherwydd newid hinsawdd

Llynedd fe brofodd Cymru sawl mis o statws tywydd sych estynedig cyn i ardaloedd ddechrau symud i mewn i sychder swyddogol o ganol Awst.

Cafodd y cyfnod ei ddisgrifio yn hwyrach fel y gwanwyn a'r haf sychaf yng Nghymru ers 150 o flynyddoedd.

Dywedodd CNC bod tywydd sych estynedig yn ddigwyddiad naturiol sydd wedi dod yn fwy tebygol wrth i newid hinsawdd waethygu.

Dywedodd Natalie Hall, rheolwr dŵr cynaliadwy CNC, bod y newid statws yn golygu "cynyddu ein camau gweithredu a'n monitro ar draws Cymru i helpu lliniaru'r effeithiau ar yr amgylchedd, y tir, defnyddwyr dŵr a phobl, ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol".

Ychwanegodd: "Er mwyn sicrhau y gellir parhau i ddarparu dŵr heb niweidio'r amgylchedd, anogir y cyhoedd a busnesau ar draws Cymru i ddefnyddio dŵr yn ddoeth a rheoli'r adnodd gwerthfawr hwn."

Pynciau cysylltiedig

Trending Now