Gwasanaeth iechyd yn debygol o fethu targed rhestrau aros cyn yr etholiad

- Cyhoeddwyd
Mae'n anhebygol y bydd targedau allweddol i ostwng rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, gafodd eu gosod gan Lywodraeth Lafur Cymru ychydig dros flwyddyn yn ôl, yn cael eu cyrraedd - yn ôl ymchwil gan BBC Cymru.
Maen nhw'n cynnwys addewidion i leihau rhestrau aros o 200,000, cael gwared yn gyfan gwbl ar amseroedd aros o ddwy flynedd neu ragor, a sicrhau bod neb yn aros dros wyth wythnos am brawf diagnosteg.
Mae'n gwaith ymchwil ni yn awgrymu, er bod yna welliant sylweddol wedi bod, y bydd y gwasanaeth iechyd yn debygol o fethu'r targedau gafodd eu pennu gan yr Ysgrifennydd Iechyd yn Ebrill 2025 gyda'r nod o'u gwireddu cyn etholiad y Senedd.
Fe fydd yr ystadegau swyddogol, sy'n cael eu cyhoeddi ddydd Iau 23 Ebrill, yn rhoi'r darlun olaf i etholwyr o berfformiad y gwasanaeth iechyd cyn y bleidlais.
Byddan nhw'n dangos maint rhestrau aros yn ogystal â sut mae gwasanaethau gofal brys a chanser yn parhau i fethu targedau allweddol.
Mewn araith i arweinwyr y gwasanaeth iechyd yn Ebrill 2025 - dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd mai taclo rhestrau aros fyddai "ei brif flaenoriaeth" a'i fod yn ymrwymo i "ailosod a gostwng maint y rhestr aros erbyn Mawrth 2026" gan ddod â'r niferoedd sy'n aros yn agosach at y sefyllfa cyn pandemig Covid-19.
Yn benodol fe wnaeth Jeremy Miles osod y targedau canlynol i'w cyrraedd erbyn Mawrth 2026:
gostyngiad o 200,000 o achosion, yn nifer y rhestrau aros;
cael gwared ar unrhyw achos lle bo rhywun wedi aros ddwy flynedd neu ragor;
gostwng amseroedd aros am brofion diagnosteg i lai na wyth wythnos.
Cafodd £120m o gyllid ychwanegol ei glustnodi er mwyn cyrraedd yr amcanion, gyda Miles yn addo y byddai'r arian yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer darparu mwy o apwyntiadau i gleifion allanol, rhagor o driniaethau a phrofion diagnosteg yn cynnwys mwy na 20,000 o lawdriniaethau cataract.
Ond mae ein gwaith ymchwil ni yn awgrymu y byddai angen i'r gwasanaeth iechyd gyflawni llawer mwy na'r gostyngiad misol mwyaf erioed o ran rhestrau aros er mwyn cyrraedd y targed cyntaf.
Mae'r ffaith bod cynifer o bobl yn dal i aros dros ddwy flynedd am driniaethau yng ngogledd Cymru yn golygu ei fod yn anhebygol y caiff yr ail darged ei gyrraedd.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae dros 68% o'r achosion hyn yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Yn yr Hydref, fe wnaeth pennaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru gydnabod fod "y sefyllfa yng ngogledd y wlad" yn debygol o olygu na fyddai'r targed yn cael ei gyrraedd dros Gymru gyfan.
Yn y cyfamser dangosodd yr ystadegau swyddogol diweddaraf fod 48,000 o achosion ar ddechrau'r flwyddyn lle bod rhywun wedi aros dros wyth wythnos am brawf diagnosteg.
Mae hynny 10,000 yn rhagor nag oedd pan osododd yr Ysgrifennydd Iechyd y targed i ostwng y nifer i 0.
Yn ystod Hydref 2025 penderfynodd Llywodraeth Cymru gyhoeddi ffigyrau rhestrau aros "dros dro" ar y cyd â'r ffigyrau swyddogol.
Mae'r ffigyrau dros dro yma yn amlinellu sefyllfa rhestrau aros fis yn gynt na'r ffigyrau swyddogol - a hebddyn nhw ni fyddai modd asesu perfformiad y gwasanaeth iechyd, yn erbyn y targedau diweddaraf, cyn diwrnod y bleidlais ym mis Mai.
Cyhuddiad Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr, ar y pryd, oedd mai ymgais oedd hwn gan y llywodraeth i fod mewn sefyllfa i rannu newyddion da cyn yr etholiad.
Mynnodd yr Ysgrifennydd Iechyd fod llywodraethau yn cyhoeddi data dros dro "drwy'r amser".
Ond mae ein hymchwil ni yn awgrymu y bydd y ffigyrau dros dro ar gyfer mis Mawrth yn debygol o ddangos na chafodd y targedau eu cyrraedd.
Perfformiad GIG yn ganolog i'r ymgyrch
Mae gwrthwynebwyr gwleidyddol Llafur wedi eu beirniadu am fethu â chyrraedd cyfres o dargedau blaenorol o Ebrill 2022, yn rhan o'r cynllun adfer y gwasnaeth iechyd yn dilyn Covid-19.
Roedd rhain yn cynnwys ymrwymiadau i gael gwared ar amseroedd aros o ddwy flynedd neu ragor erbyn 2023, a sicrhau fod neb yn aros mwy na blwyddyn cyn cael eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol erbyn diwedd 2022.
Ni chafodd y targedau yma eu cyrraedd.
Ac er bod maint rhestrau aros wedi bod yn gostwng am wyth mis yn olynol, gyda 28,000 o ostyngiad wedi cael ei gofnodi ym mis Ionawr - y mwyaf erioed mewn un mis - mae'r rhestrau'n dal yn uwch o gymharu â'r sefyllfa cyn y pandemig.

Ambiwlansys yn ciwio tu allan i uned frys Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd
Eto i gyd mae'n debygol y bydd y llywodraeth nesaf yn etifeddu rhestrau aros fydd fwy na thebyg yn parhau i symud i'r cyfeiriad cywir.
Mae record hirdymor Llafur ar iechyd ar ôl 27 o flynyddoedd hefyd wedi bod yn bwnc llosg yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
Mae mwy na hanner holl gyllideb Llywodraeth Cymru o ran gwariant dydd i ddydd yn cael ei wario ar iechyd a gofal cymdeithasol.
Dim syndod felly fod cyflwr y gwasanaeth iechyd yn cael cryn dipyn o sylw ym maniffestos y pleidiau.
Beth yw'r newidiadau mawr i etholiad y Senedd 2026?
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Canllaw i'r 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Etholiad 2026: Pa un yw fy etholaeth i a phwy yw'r ymgeiswyr?
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Mae Llafur yn addo cyrraedd y targed o sicrhau fod 95% o achosion yn cael triniaeth o fewn 26 wythnos erbyn diwedd y tymor Seneddol nesaf. Mae yna addewid hefyd i gyflwyno rhaglen £4bn ar gyfer ysbytai a chyfleusterau newydd.
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y byddan nhw'n datgan "argyfwng iechyd" cenedlaethol er mwyn blaenoriaethu adnoddau er mwyn clirio'r ôl-groniad mewn rhestrau aros erbyn 2030.
Mae Plaid Cymru yn addo sefydlu 10 canolfan fyddai'n caniatáu i bobl gael llawdriniaethau yn gyflymach.
Yn gynharach eleni mynnodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, nad oedd y cyhoedd yn disgwyl gweld "newid i restrau aros" o fewn 100 niwrnod - petai ei blaid mewn llywodraeth.
Yn ôl Reform UK fe fyddan nhw'n gweithredu cynllun brys i wella rhestrau aros fyddai hefyd yn gweld canolfannau llawdriniaethol yn cael eu sefydlu.
Addo gwario £300m ychwanegol ar ofal cymdeithasol i leihau'r straen ar y gwasanaeth wna'r Democratiaid Rhyddfrydol - sydd hefyd yn dweud y byddan nhw'n barod i godi ceiniog ar dreth incwm i'w gyllido.
Mae'r Blaid Werdd yn mynnu bod angen symud adnoddau tuag at wasanaethau ataliol a chymunedol er mwyn lleihau'r pwysau ar ysbytai dros y tymor hir.
Unedau brys a gwasanaethau canser
Mae'r her o leihau rhestrau aros yn digwydd pan fod gwasanaethau brys a chanser hefyd yn methu cyrraedd targedau perfformiad allweddol.
Fe wnaeth y ffigyrau diweddaraf ddangos mai 63.7% o gleifion dreuliodd lai na phedair awr mewn unedau brys cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Dyw'r targed o 95% erioed wedi cael ei gyrraedd.
Yn y cyfamser dangosodd yr ystadegau canser diweddaraf mai dim ond 57% o achosion ddechreuodd driniaeth ymhen 62 o ddiwrnodau wedi i'r afiechyd gael ei amau - sy'n is o lawer na'r targed o 75%
Mae'r corff sy'n cynrychioli llawfeddygon yng Nghymru yn dweud nad yw gwasanaethau llawfeddygol "erioed wedi adfer yn llwyr o ganlyniad i'r pandemig" a bod hyn yn golygu fod cleifion yn aros yn rhy hir a bod staff yn gweithio dan bwysau parhaus.
Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn dadlau fod angen newidiadau hir dymor ar y system gyfan er mwyn sicrhau nad yw rhestrau aros hir yn dod yn hir sefydlog.
Maen nhw hefyd yn dweud bod llawfeddygon yng Nghymru yn adrodd mwy o anawsterau o ran cael mynediad i theatrau, a lefelau uwch o straen na'u cydweithwyr yng ngweddill y DU.
Mae'r coleg am weld o leiaf pedair canolfan lawfeddygol benodol, ar safleoedd presennol, yn cael eu sefydlu ym mlwyddyn gyntaf y llywodraeth newydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.