RAAC: Cau marchnad dan do Pen-y-bont dros bryderon concrit

  • Cyhoeddwyd
Marchnad dan do Pen-y-bont ar OgwrFfynhonnell y llun, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad o’r llun,

Marchnad dan do Pen-y-bont ar Ogwr yn cau yn sgil RAAC yn nho yr adeilad

Mae marchnad dan do Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei chau ar unwaith oherwydd pryderon am goncrit RAAC.

Daw'r cyhoeddiad bod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cau'r farchnad ar unwaith yn dilyn archwiliad arbenigol ble daeth i'r amlwg y gall fod problem yn ymwneud â RAAC (Reinforced autoclaved aerated concrete) o fewn strwythur y to.

Mae'r farchnad, sydd wedi ei leoli yng nghanolfan siopa Rhiw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cau er budd iechyd y cyhoedd.

Mae masnachwyr wedi cael gwybod am y sefyllfa, a bydd y cyngor yn trosglwyddo'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Dywedodd Chris Pritchard, sydd wedi bod yn gweithio yng nghaffi Wheelys yn y farchnad ers 12 mis: "Clywon ni tua 14:00 prynhawn 'ma, daeth y newyddion allan o nunlle.

"Dwi wedi fy siomi, mae am effeithio cymaint o fusnesau."

"Mae pawb yng nghanol cyfarfod i drafod y sefyllfa ar hyn o bryd. Ond er bod siopau gwag ar gael, y broblem yw nid yw'r cyngor yn berchen ar nifer o adeiladau ym Mhen-y-bont ar Ogwr."

Nid yw cau'r neuadd farchnad yn effeithio ar Ganolfan Siopa'r Rhiw gerllaw, sy'n parhau ar agor fel arfer.

Trending Now