Cannoedd yn protestio i gadw uned strôc Ysbyty Bronglais

Protest Bronglais
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais yn ffurfio cadwyn ddynol ar hyd un ochr o Ysbyty Bronglais

GanCraig Duggan
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl wedi cymryd rhan mewn protest yn Aberystwyth i ddangos eu cefnogaeth i uned strôc Ysbyty Bronglais.

Ar ôl cynnal rali yng nghanol y dref pan fu gwleidyddion ac arweinydd grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais (AGB) yn annerch, fe gerddon nhw i'r ysbyty a ffurfio cadwyn ddynol i lawr un ochr o'r adeilad.

Yn ôl trefnwyr y brotest y bwriad oedd rhoi 'cwtsh mawr' i Fronglais.

Roedd rhai o'r bobl ar y brotest mewn cadeiriau olwyn neu'n cerdded gyda ffyn ar ôl cael strôc.

Protest Bronglais
Disgrifiad o’r llun,

Cannoedd o bobl tu allan i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ddydd Sadwrn

Mae gofid wedi codi ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth strôc yn yr Ysbyty ar ôl i fwrdd iechyd Hywel Dda ymgynghori ar ei ddyfodol y llynedd.

Yn yr ymgynghoriad hwnnw roedd y bwrdd iechyd yn cynnig newid y gwasanaeth ym Mronglais o fod yn uned strôc aciwt i fod yn wasanaeth 'trin a throsglwyddo'.

Mae hynny'n golygu y byddai gofal strôc arbenigol yn cael ei ddarparu yn Hwlffordd a Llanelli, a chleifion strôc yn cael eu trosglwyddo i'r llefydd yna ar ôl cael triniaeth ym Mronglais.

Dydd Gwener, cyhoeddodd y bwrdd iechyd ddau ddewis amgen – Opsiynau 106 a 210 - i gael eu hystyried mewn cyfarfod yn ddiweddarach ym mis Chwefror.

Yn ôl y bwrdd iechyd cafodd y dewisiadau amgen eu hawgrymu fel rhan o'r broses ymgynghori'r llynedd.

Pe bai Opsiwn 106 yn cael ei dewis byddai Bronglais yn newid i gynnig gwasanaeth 'trin a throsglwyddo' ond fe fyddai'n cynnig uned adsefydlu wedi strôc hefyd.

Byddai cefnogi Opsiwn 210 yn golygu y byddai uned strôc yn parhau ym Mronglais – fyddai'n cynnwys gwasanaeth arbenigol 12 awr y dydd.

Lisa FrancisFfynhonnell y llun, Nest Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

"Yr elfen 'trosglwyddo' yw symud pobl lawr i Lanelli, dwy awr ar y ffyrdd sy ddim yn dda iawn o gwbl," meddai Lisa Francis

Ar ôl y brotest dydd Sadwrn dywedodd Lisa Francis cadeirydd AGB ei bod hi'n falch iawn o weld cynifer o bobl yn dangos eu cefnogaeth i'r ymgyrch.

"Anhygoel, mor lyfli gweld cymaint o bobl sy'n teimlo mor passionate am Fronglais a'r gofal maen nhw'n teimlo."

Ychwanegodd bod cynigion gwreiddiol y bwrdd iechyd wedi codi ofn ar bobl yn y canolbarth.

"Yr elfen 'trosglwyddo' yw symud pobl lawr i Lanelli, dwy awr ar y ffyrdd sy ddim yn dda iawn o gwbl."

Mewn ymateb i'r dewisiadau amgen sydd wedi'u cyhoeddi dywedodd: "Mae'n iawn i gael syniad sy'n cadw'r uned strôc ond mae'n rhaid i ni gael mwy o eglurdeb yn y geiriau.

"Mae'r geiriau yn yr opsiynau mor nebulous a pryd dwi'n gweld y geiriau 'trin a throsglwyddo' mae'n rhoi ofn i fi."

Poster

Mae Dr Phil Jones, cyn-feddyg strôc yn ysbyty Bronglais a chyn-arweinydd strôc Cymru, yn cefnogi ymgyrch AGB.

Dywedodd Dr Jones ei fod yn credu bod cynigion gwreiddiol y bwrdd iechyd wedi methu ag ystyried "mynediad cleifion, gofalwyr a pherthnasau/ffrindiau at wasanaethau strôc".

"Nid dyna'r cynllun strôc sydd ei angen. Mae'n brin o arloesedd ac mae'n anaddas at y diben. Dylid bod wedi'i dynnu'n ôl."

Arwydd Ysbyty Bronglais

Dywedodd llefarydd ar ran bwrdd iechyd Hywel Dda fod y bwrdd yn cydnabod cryfder y teimlad tuag at y gwasanaethau mae'n darparu ledled y canolbarth a'r gorllewin.

Ychwanegodd fod angen i wasanaethau strôc y bwrdd iechyd "newid i fodloni safonau clinigol ac i ddarparu gwell gofal i'n cymunedau".

Fe fydd bwrdd iechyd Hywel Dda yn cynnal cyfarfod eithriadol ar 18 a 19 Chwefror pan fydd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut fydd y naw gwasanaeth – gan gynnwys strôc – yn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn cael eu darparu yn y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol

Trending Now