Mam a gwympodd 30 troedfedd yn 'lwcus i fod yn fyw'

Mae Suzie Dyer yn ofni y bydd mwy o farwolaethau oni bai bod rhai llwybrau'n cael eu cau
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a oroesodd cwymp o 30 troedfedd ger rhaeadr ym Mannau Brycheiniog yn dweud fod angen cymryd camau i wella diogelwch yno.
Cafodd Suzie Dyer, 50, anafiadau difrifol i'w chlun, ei chefn a'i phelfis ar ôl syrthio yn ystod taith gerdded yng Ngwlad y Sgydau yn y Bannau ar 1 Ionawr.
Ers 2023, mae tri o bobl wedi marw ar deithiau cerdded yn yr ardal, ac mae Ms Dyer sy'n gerddwr profiadol, yn ofni y gallai mwy o farwolaethau ddigwydd oni bai bod rhai llwybrau'n cael eu cau.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chymdeithas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (BNPA) fod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud yn yr ardal, gan gynnwys arwyddion, llwybrau a grisiau.
'Yr eiliad a newidiodd bopeth'
Mae'r BNPA, CNC a thri awdurdod lleol i gyd yn rhannu perchnogaeth y tir yn yr ardal.
Mae Suzie Dyer, sydd o Henffordd, yn wynebu cyfnod hir o wella, a dywedodd bod ei chof am y cwymp a'r "eiliad a newidiodd bopeth" yn glir iawn.
"Pan oeddwn i'n gorwedd yno, y cyfan oedd yn fy meddwl i oedd 'dwi ddim yn barod i adael fy merch'," meddai.
"Dwi'n lwcus i fod yn fyw. Dwi ddim yn credu bod neb wedi meddwl y byddwn i'n goroesi... ond am ryw reswm, fe wnes i."

Cafodd Suzie ei hachub gan dîm achub mynydd ar ôl cwympo 30 troedfedd (9m)
Roedd Suzie wedi teithio gyda ffrind ar daith gerdded Taith y Pedair Rhaeadr, llwybr cylchol sy'n mynd heibio rhaeadrau Sgwd Clun Gwyn, Sgwd Isaf Clun Gwyn, Sgwd y Pannwr a Sgwd yr Eira.
Roedd wedi ymweld â'r ardal ddwywaith o'r blaen.
Yn fuan ar ôl gweld y rhaeadr gyntaf fe ddilynodd lwybr arall a sylweddolodd yn gyflym ei fod yn llwybr cul iawn oedd wedi erydu'n wael.
"Yr eiliad nesaf, roeddwn i dros yr ymyl," meddai.
"Roedd fy ffrind yn gweiddi ac yn sgrechian – profiad hollol ofnadwy, nid dim ond i mi."
Dywedodd CNC eu bod yn credu bod cwymp Suzie wedi digwydd ar lwybr sydd ddim yn rhan o'r llwybrau swyddogol ac mae arwyddion rhybudd clir yno.
Ychwanegodd y BNPA ei bod hi'n bosibl dilyn y llwybr hwnnw ond dywedon nhw bod "arwyddion clir" yn nodi bod y llwybr wedi'i gau oherwydd amodau peryglus.
Ond yn ôl Suzie: "Doedd neb wedi fy rhybuddio, doedd dim rhwystrau, dim tâp yn dweud ei fod ar gau.
"Fyddwn i byth yn torri'r rheolau," ychwanegodd.
Daeth tri dyn - cerddwyr eraill oedd yn pasio - i helpu Suzie, ac mae'n diolch iddyn nhw, ynghyd ag aelodau o Dîm Achub Mynydd y Bannau Canolog a'r gwasanaethau brys, am achub ei bywyd.

Mae cyfnod hir o wella o flaen Suzie ond mae'n teimlo'n lwcus iawn i fod wedi goroesi
Er i Suzie gael ei hachub ar ddydd Calan, nid hi oedd y cyntaf i'r tîm achub mynydd eu hachub.
Dywedodd Huw Jones, sydd wedi bod yn rhan o'r tîm achub ers pedwar degawd, fod yr ardal fel "mynydd wyneb i waered" ac yn "ardal anghysbell, gwyllt".
"Does dim amheuaeth bod y tirfeddianwyr wedi gwneud cryn dipyn o waith dros y blynyddoedd i wella'r grisiau a'r reiliau (handrails).
"Ond rydyn ni'n gweithio gyda natur – mae'r gwaith yn parhau," meddai.
"Ac fel bodau dynol, ni'n chwilfrydig.
"Ni'n hoffi crwydro ac archwilio, a dyna pryd 'dych chi'n wynebu perygl a mynd ar hyd llwybrau sydd ddim cystal, gan gynyddu'r risg o anafiadau," ychwanegodd.

Fe gymerodd bedair awr i'r tîm achub mynydd gludo Suzie oddi yno ar ôl y cwymp
Mae'r ardal wedi gweld cynnydd enfawr mewn twristiaeth ers y pandemig, gyda 300,000 o ymwelwyr yn dod i'r ardal bob blwyddyn.
Yn dilyn marwolaethau yno yn 2023 a 2024, gan gynnwys y cwpl Rachael a Helen Patching mae mwy o alw am wella'r diogelwch ger y rhaeadrau.
Mae'r dirprwy grwner a gynhaliodd cwest i rai o'r achosion yn gofyn am arwyddion cliriach a gwell signal ffôn symudol yn yr ardal.
"Yn aml, mae trigolion lleol yn helpu pobl sydd ar goll gan eu bod yn adnabod y llwybrau yn dda," meddai Clyde Baker, sydd wedi byw ym Mhontneddfechan erioed.
"Mae'r seirenau i'w clywed bob dydd Sadwrn, bob dydd Sul, oherwydd bod y gwasanaeth achub mynydd yn cael eu galw i helpu," meddai.
"Mae hi bron fel bod yn Efrog Newydd ar y penwythnos."
Pryderon am y pwysau ar dimau achub mynydd
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
Ystradfellte: Dwy fenyw wedi boddi - cwest
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
Angen gwella diogelwch ger rhaeadrau Bannau Brycheiniog - crwner
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
Dywedodd Andrew Lamb, sy'n dywysydd cerdded, ei fod wedi ysgrifennu at CNC a BNPA yn gofyn i ran o'r llwybr o amgylch Sgwd Clun Gwyn gael ei gau yn ôl ym mis Awst 2024 – llwybr sydd bellach yno fel dargyfeiriad.
"Does dim rheswm dros hynny," meddai.
"Mae'n arwain pobl yn ddiarwybod i lwybr troed peryglus, sef y llwybr y syrthiodd Suzie ohono".
Dywedodd CNC eu bod am "sicrhau bod arwyddion clir yn y man lle mae ymwelwyr yn gadael y llwybr" yn Sgwd Clun Gwyn sy'n "egluro bod llwybr ar gau o'ch blaen sy'n beryglus".
"Mae'r arwydd hefyd yn nodi bod damweiniau angheuol a difrifol wedi digwydd ar hyd y llwybr hwn yn ddiweddar."
Dywedodd y BNPA eu bod yn gweithio ar y cyd â CNC ac awdurdodau lleol "i gynnal llwybrau, gwella arwyddion, a darparu gwybodaeth gywir sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch i ymwelwyr".
Mae'r ddau sefydliad yn pwysleisio eu bod yn "cydymdeimlo'n ddiffuant â theuluoedd ac anwyliaid" pawb sydd wedi marw yn yr ardal ac yn esbonio bod y gwaith o wella'r ardal yn parhau.
Ychwanegodd BNPA: "Rydym yn adolygu gwybodaeth ac arwyddion yn dilyn y cwestau diweddar ac mi fyddwn ni'n ystyried unrhyw argymhellion gan y crwner."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.