Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2026

Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cystadleuaeth Cân i Gymru yn dychwelyd i Ynys Môn eleni - a hynny am y tro cyntaf ers 2015

  • Cyhoeddwyd

Mae'r caneuon sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Cân i Gymru 2026 wedi cael eu cyhoeddi.

Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno'r gystadleuaeth a fydd, am y tro cyntaf ers dros 10 mlynedd, yn cael ei chynnal yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr, yw cadeirydd panel y beirniaid unwaith eto - gyda Barry 'Archie' Jones o'r band Celt, y gantores a'r gyfansoddwraig, Mali Hâf, y cyflwynydd a'r DJ radio, Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard hefyd ar y panel.

Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws a gwobr ariannol o £5,000, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.

Pwy sydd ar y rhestr fer?

1. Storm heno

Cyfansoddi a pherfformio: Rhodri Lloyd Evans

Rhodri Lloyd EvansFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Lloyd Evans wedi addo i ddisgyblion Ysgol Pentrefoelas - ble mae'n brifathro - y byddai'n prynu dau grwban i'r ysgol petai'n ennill!

2. Chwilio am ffordd adra

Cyfansoddi: Geth Tomos, Henry Priestman, John Beck, Adam Dennis ac Emlyn Gomer

Perfformio: Lowri Evans

Emlyn Gomer, Geth Tomos a Henry PriestmanFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Geth Tomos ac Emlyn Gomer benderfynu gweithio gyda'i gilydd ar ôl cwrdd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2022

3. Dalen Newydd

Cyfansoddi: Rhi Jorj a Gwynedd Maesywaun

Perfformio: Rhi Jorj

Rhi JorjFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhi Jorj yn gyn-aelod o'r bandiau Amledd ac Ust

4. Dwisho Deud

Cyfansoddi: Ruby ac Endaf

Perfformio: Ruby

Ruby ac EndafFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dyma ail brosiect Ruby ac Endaf gyda'i gilydd ar ôl rhyddhau'r gân 'To You, From Me' y llynedd

5. Byd fy hun

Cyfansoddi a pherfformio: Dan Williams

Dan WilliamsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Williams yn gyn-aelod o'r bandiau Y Promatics a Hudo

6. Hiraeth

Cyfansoddi: Lowri Clancy Davies

Perfformio: Lowri Clancy Davies a'i chwaer, Cifa

Lowri Clancy DaviesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd tad Lowri, Ryland Teifi, cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2006 gyda'r gân 'Lili'r Nôs'

7. Y Gwanwyn Bach

Cyfansoddi: Rhydian Meilir a Myrddin ap Dafydd

Perfformio: Jacob Elwy a Lleucu Gwawr

Rhydian Meilir Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Rhydian Meilir i'r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2022 gyda 'Mae Yna Le'

8. Y Gân

Cyfansoddi: Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer

Perfformio: Sara Owen

Emlyn Gomer, Geth Tomos a Henry PriestmanFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Efallai bod y llun yma'n gyfarwydd... a hynny gan fod dwy gân gan Emlyn Gomer, Geth Tomos a Henry Priestman wedi cyrraedd y rhestr fer eleni

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now