Dyn o Fôn wedi marw ar ôl anafu ei frest mewn gwrthdrawiad - cwest

Cafodd Arwyn Jones ei ddisgrifio gan ei deulu fel "gŵr, tad, mab a brawd annwyl iawn"
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth "gŵr a thad annwyl iawn" a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Ynys Môn fis diwethaf.
Cafodd Arwyn Jones, oedd yn 29 oed ac yn dod o Lanfairpwll, ei gyhoeddi yn farw yn y fan a'r lle wedi'r digwyddiad ar yr A5025 ger Pentraeth ar 25 Ionawr.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fore Mercher fod Mr Jones, oedd yn gweithio yn y maes coginio, wedi dioddef anafiadau angheuol a bod y crwner, dros dro, wedi nodi anaf difrifol i'r frest fel achos y farwolaeth.
Cafodd y cwest ei ohirio gan Sarah Riley, crwner cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru, tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5025, Ffordd Pentraeth ar ddydd Sul 25 Ionawr
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, oedd wedi apelio am luniau dashcam o'r digwyddiad, roedd Mr Jones yn gyrru car Peugeot 208.
Cafodd dyn 22 oed oedd yn gyrru car Audi A5 Quattro - a oedd hefyd yn rhan o'r gwrthdrawiad - ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad gydag anafiadau difrifol.
Cafodd Mr Jones ei ddisgrifio gan ei deulu fel "gŵr, tad, mab a brawd annwyl iawn... fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un".
"Roedd Arwyn a minnau wedi bod gyda'n gilydd ers dros 15 mlynedd ac ef oedd cariad fy mywyd. Ein merch, Lilly, oedd ei fywyd," ychwanegodd Sioned, gwraig Arwyn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
- Cyhoeddwyd25 Ionawr
