Ceisio 'cadw'n bositif' wrth i ganser y prostad ddod yn fwy cyffredin

Cafodd Dr Andrew Evans, sy'n Athro ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wybod bod ganddo ganser y prostad yn 2024
- Cyhoeddwyd
Wrth i ganser y prostad ddod y canser mwyaf cyffredin yn y DU, dywed un claf o ardal Aberystwyth a gafodd ddiagnosis yn 2024 bod yn "rhaid bod yn bositif".
Roedd Dr Andrew Evans o Landre eisoes yn cael triniaeth dialysis yn sgil cyflwr prin sydd wedi effeithio ar ei arennau, pan ddaeth hi i'r amlwg fod ganddo hefyd ganser y prostad.
"Mae'r cyfan wedi bod yn sioc i fod yn onest, gan bo' fi wedi bod yn arwain bywyd iach drwy fy oes," meddai wrth BBC Cymru Fyw.
"Pan ges i'r profion PSA roedd y lefelau yn uchel iawn, ond bellach maen nhw wedi gostwng yn sylweddol.
"Fy nghyngor mawr i yw, os oes yna newid yn y corff - efallai mynd i'r toiled yn fwy aml, pasio gwaed neu efallai poen yn y bol - yw ei bod hi'n hynod o bwysig mynd at y meddyg teulu."

Mae cefnogaeth teulu yn holl bwysig, medd Andrew Evans, a welir yma gyda thri o'i blant - Macsen, Dafydd ac Elen
Canser y fron oedd y mwyaf cyffredin tan yn ddiweddar, ond mae gwaith ymchwil gan elusen Prostate Cancer UK yn dangos bod 42% o gynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser y prostad yn ystod y degawd diwethaf.
Mae arbenigwyr yn dweud bod yna amryw o resymau am hyn - yn eu plith gwell profion, ond hefyd gwell ymwybyddiaeth.
Yng Nghymru mae dros 2,500 yn cael diagnosis o ganser y prostad bob blwyddyn a 640 o ddynion yn marw o'r cyflwr, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
'Ffigyrau brawychus'
"Mae'r ffigyrau yn frawychus," medd Dr Andrew Evans, sy'n Athro ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. "Ond be' sy'n bwysig yw cadw'n bositif.
"Mae lot fawr o driniaethau amrywiol ar gael nawr a be' dwi'n awgrymu yw pan bo' chi'n cael y trafodaethau 'na gydag arbenigwyr yw mynd â rhywun gyda chi.
"Dwi wedi bod yn lwcus iawn bod Sera fy ngwraig wedi bod mor gefnogol, ac mae'n neis cael rhywun i drafod yr hyn sydd wedi cael ei ddweud yn y cyfarfodydd yma.
"Ni fel teulu hefyd wedi cario mla'n 'da bywyd - fi hefyd wrth gwrs yn gorfod cael dialysis yn gyson - ac mae mynd bant am weekend, mynd mas am fwyd a chario 'mla'n 'da bywyd bob dydd yn hynod bwysig i ni gyd.
"Dwi hefyd wedi parhau i weithio cymaint ag y galla i - mae'n bwysig iawn bod yn bositif a falle peidio meddwl gormod.
"Dwi'n wyddonydd a falle yn trio deall gormod weithiau o'r hyn sy'n mynd ymlaen!"
'Bydden i ddim yma'r Nadolig hwn heb roddion gwaed'
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2025
Mari Grug: 'Fi jyst eisiau byw mor hir â phosib'
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2025
Fe gafodd y cyflwynydd tywydd Chris Jones ddiagnosis cynnar o ganser y prostad yn 2018 ac mae ef bellach yn llysgennad i elusen Prostate Cymru.
Mae'n cytuno bod angen aros yn bositif, ond hefyd angen siarad am y cyflwr a mynd am brofion.
"Yn sicr os oes unrhyw newid yn y corff, nid mynd yn hŷn o reidrwydd yw'r rheswm, ond efallai bod yna salwch.
"Gorau i gyd y cynharaf i gyd mae rhywun yn rhannu'r broblem ac yn mynd i weld y meddyg.
"Ac ydy mae'n bwysig siarad - a gorau i gyd y mwyaf o hynny sy'n digwydd er mwyn cael diagnosis cynnar."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.