Dyn yn euog o lofruddio babi pum mis oed ei bartner

Bu farw Jensen-Lee Dougal ar 31 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Mae dyn 29 oed wedi'i ganfod yn euog o lofruddio babi pum mis oed.
Roedd Jensen-Lee-Dougal yn "fabi hapus" a oedd wedi ei garu gan ei deulu, ond bu farw ar 31 Mawrth 2024 ar ôl dioddef "anafiadau trychinebus i'w ymennydd".
Cafodd Thomas Morgan, o Gorseinon, hefyd ei ganfod yn euog o achosi niwed corfforol gyda bwriad a'i ganfod yn ddieuog o ddau gyhuddiad tebyg.
Roedd Thomas Morgan yn ddi-emosiwn wrth glywed y dyfarniad.
Roedd sŵn gweiddi yn dod o oriel y cyhoedd gan deulu Jensen-Lee wrth i'r rheithgor roi eu dyfarniad unfrydol.
Diolchodd y barnwr, Mrs Ustus Stacey i'r rheithgor am eu gwaith yn ystod yr "achos ofnadwy" gan ei ddisgrifio fel yr "achos mwyaf trist".
Talodd deyrnged unwaith eto i'r cymdogion a berfformiodd CPR ar Jensen‑Lee, gan roi "gobaith" i bobl mewn sefyllfa anodd.
Bydd Morgan yn cael ei ddedfrydu ar y 25 Chwefror.

Fe geisiodd cymdogion yng Nghlydach helpu ar ôl i Morgan ddod allan o'r tŷ gyda'r babi yn ei freichiau
Yn ystod yr achos pedair wythnos clywodd y rheithgor dystiolaeth ddirdynnol, yn ymwneud ag anafiadau Jensen-Lee, rhai fyddai wedi eu hachosi gan "ysgwyd difrifol".
Clywodd y llys sut roedd Morgan yn gofalu am Jensen-Lee tra bod ei bartner Jordan Dougal wedi mynd i'r gwaith ar 30 Mawrth 2024.
Roedd wedi gwylltio ar ôl dadlau gyda'i gyn-gariad dros y ffôn.
Fe welodd y rheithgor luniau camera cylch cyfyng "erchyll ac anghofiadwy" o gorff "llipa" Jensen-Lee yn cael ei gario allan o'u cartref ar Players Avenue, Clydach, ym mreichiau Thomas Morgan.
Roedd Morgan yn cael ei adnabod fel llysdad Jensen-Lee ar ôl iddo symud mewn i gartref y teulu ganol mis Ionawr 2024.
Dywedodd Jordan Dougal fod ei mab yn "fabi hapus iawn" ac nad oedd ganddi "erioed unrhyw broblemau" gyda Morgan yn gofalu am ei mab.
Dywedodd Ms Dougal fod Thomas Morgan yn "wych" gyda Jensen-Lee a'i ddau blentyn ei hun.
Dywedodd yr erlyniad wrth y llys fod Morgan wedi ysgwyd y babi "tra'n llawn cynddaredd" ar 30 Mawrth 2024.
'Morgan wedi creu gwe o gelwyddau'
Wrth roi ei dystiolaeth dywedodd Thomas Morgan wrth y rheithgor ei fod wedi gadael Jensen-Lee yn yr ystafell fyw i adael y cŵn allan o ddrws y gegin.
Sylwodd fod y ci wedi "gadael baw ar y llawr" felly wnaeth lanhau'r llanast gyda mop.
Wrth ddychwelyd i'r lolfa, sylwodd fod y babi wedi chwydu, felly aeth i fyny'r grisiau i ddod o hyd i ddillad glân.
Mae Thomas Morgan yn honni, pan ddychwelodd i'r lolfa, iddo sylwi bod Jensen-Lee wedi chwydu eto a'n ofni ei fod yn tagu, ceisiodd roi ei fysedd yn ei geg a'i ysgwyd yn "ysgafn" allan o banig.
Fodd bynnag, yn ôl tystiolaeth feddygol yr achos roedd anafiadau Jensen Lee yn cyfateb i'r hyn fyddai wedi eu hachosi gan "ysgwyd treisgar".
Cafodd Thomas Morgan ei holi pam na wnaeth ffonio ambiwlans ar unwaith ar ôl y digwyddiad.
Yn ôl y dyn 29 oed roedd ganddo broblemau gyda'i ffôn.
Ond fe lwyddodd i ffonio'i bartner Jordan Dougal i egluro beth ddigwyddodd.
Roedd Mrs Ustus Stacey wedi talu teyrnged i'r cymdogion a geisiodd adfer y bachgen bach wrth iddyn nhw aros am yr ambiwlans.
Dywedodd Caroline Rees CB wrth y rheithgor: "Mae Morgan wedi creu gwe o gelwyddau a thwyll mewn ymgais i guddio ei euogrwydd."
Dyn wedi'i gyhuddo o lofruddio babi yn honni iddo geisio'i achub
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
Dyn wedi lladd ei lysfab pum mis oed ar ôl colli ei dymer - erlynydd
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Dyn 28 oed yn gwadu llofruddio babi pum mis oed
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2025
Roedd anafiadau Jensen Lee yn cynnwys rhai trychinebus i'w ymennydd, sawl toriad i'w esgyrn a gwaedu y tu ôl i'w lygad.
Cafodd tystiolaeth o doriadau asennau hefyd eu canfod, tra bod niwrolawfeddygon wedi disgrifio anaf i ymennydd Jensen-Lee fel un "dinistriol".
Dywedodd tystion arbenigol wrth y llys fod yr anafiadau a gafodd Jensen-Lee Dougal ymhlith y gwaethaf y maen nhw erioed wedi gweld.
Yn ôl yr Athro Stavros Stivaros o Ysbyty Brenhinol Plant Manceinion, roedd ganddo waedu trychinebus i'r ymennydd yn ogystal â llinyn yr asgwrn cefn er nad oedd unrhyw arwyddion allanol o unrhyw anafiadau.
Dywedodd y meddyg hefyd, yn ei farn ef, y byddai Jensen-Lee Dougal wedi colli ei ymwybyddiaeth bron yn syth oherwydd difrifoldeb yr ysgwyd, ac na allai fod o ganlyniad i chwarae garw nac ymgais i'w adfywio.
Cafodd y babi ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd a chafodd ataliad ar y galon.
Bu farw ar 31 Mawrth 2024 ym mreichiau ei fam ar ôl i'r cymorth bywyd yn yr ysbyty gael ei ddiffodd.
Dywedodd ei fam Jordan Dougal wrth y llys: "Byddai'n sownd wrth beiriant am weddill ei oes," gan ychwanegu, "doeddwn i ddim eisiau ei gofio fel 'na pan oedd yn fabi mor hapus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.