'Eicon' Ynys Môn yn haeddu mwy nag un diwrnod o ddathlu

Marc Rees JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yr artist a dylunydd Marc Rees Jones ger Pont y Borth

GanRhodri Tomos
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Efallai fod pen-blwydd Pont y Borth wedi pasio ddiwedd mis Ionawr, ond i lawer - yn enwedig trigolion Ynys Môn - bydd y dathliadau'n mynd ymlaen am hir.

Eisoes mae nifer o ddigwyddiadau eraill wedi'u trefnu gydol y flwyddyn, gan gynnwys gŵyl ym mis Awst pan fydd pen-blwydd y peiriannydd fu'n gyfrifol am godi'r bont, Thomas Telford.

Mae arosfannau bysiau ym Mhorthaethwy bellach yn dangos dyluniad arbennig i nodi'r achlysur ac mae darnau arian coffa hefyd wedi'u dylunio.

Y dylunydd ac artist Marc Rees Jones sy'n gyfrifol am y gwaith ar y ddau beth yna, ond mae ei waith celf personol yn llawn delweddau o bont enwocaf Cymru.

Darn arian coffaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Darn arian coffa gyda dyluniad arbennig Marc arno

Dywedodd Marc wrth Cymru Fyw: "Ro'n i mewn cyfarfod gyda Chyngor Tref Porthaethwy a UK Highways A55 [y corff sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont] pan godwyd y syniad o gael darn arian i goffáu'r peth.

"Tra fod pawb yn siarad, nes i rhyw sgets bach ar ddarn o bapur a'i ddangos i'r cyfarfod ac roedd pawb wrth eu boddau gydag o.

"Hefo'r arosfannau bysiau, posteri mawr oedd y syniad gwreiddiol gan yr asiantaeth ffyrdd, ond nes i awgrymu pam ddim cael rhywbeth mwy parhaol fel gorchudd feinyl gyda dyluniad arno?

"Derbyniwyd y syniad yna hefyd, a dyma ni."

Arhosfan bws ym MhorthaethwyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Arhosfan bws ym Mhorthaethwy cyn, ac ar ôl y gweddnewidiad

Fe wnaeth Marc y gwaith dylunio yna fel rhan o waith ei gwmni, Engan Creadigol, ond ers blynyddoedd lawer mae ei waith celf ei hun yn frith o ddelweddau trawiadol o'r bont.

Yn wir mae o wedi disgrifio Pont y Borth fel "ysbrydoliaeth a her barhaus" yn ei waith. Pam hynny?

"Dwi'n gweld y bont o'r tŷ lle dwi'n byw ers dros chwarter canrif," meddai.

"Mae'n un o eiconau Cymru ac yn hawlio sylw pawb sy'n ei gweld yma.

"Ond fel un sy'n ceisio perffeithio wrth dynnu lluniau, mae'n destun andros o anodd i'w gael yn iawn.

"Mae'n her enfawr i gael yr ongl gywir... mae'r tywydd a'r golau yn newid y ffordd mae'n edrych... dyw'r lôn ddim yn llinell syth chwaith!

"Mae pawb yn meddwl am y lôn fel un syth a fflat, ond mae curve bach rhwng y tyrrau, ac mae nuances bach fel 'na ymhobman."

Pont y BorthFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Weithiau mae'r bont yn gallu edrych yn fygythiol....."- un o weithiau Marc Rees Jones

Pont y BorthFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw'r lôn ddim yn fflat...." - Pont y Borth o ben y tir mawr

Yn ôl Marc, nod ei waith celf a'i ddyluniadau yw "cyfleu ysbryd a chadernid y bont".

"Mae'n ongoing project," meddai, "ond mae'n newid bob dydd.

"Weithiau 'da chi'n edrych arni ac mae'r bont yn fygythiol. Yna daw'r haul ac mae'r lliwiau i gyd yn newid."

Fel rhan arall o ddathliadau blwyddyn i gofio codi Pont y Borth fe fydd llyfryn yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd nesaf, ac mae'n debyg y bydd cyfle i weld mwy o ddarluniau Marc Rees Jones bryd hynny.

Mae'n werth cofio am bont sydd wedi trawsnewid bywydau pobl Ynys Môn ers dros ddau ganrif.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now