Cymro'n cael ei 'ddeffro gan fomiau' yn Qatar achos gwrthdaro'r Dwyrain Canol

Mae Rhodri Ogwen Williams yn byw yn Qatar ers tua 14 mlynedd bellach
- Cyhoeddwyd
Am y pumed noson yn olynol parhau mae'r ffrwydradau ar draws y Dwyrain Canol, gan effeithio ar nifer o wledydd ar draws yr ardal.
Un sy'n byw mewn "ansicrwydd" yn Qatar ydy Rhodri Ogwen Williams, sy'n byw yno ers tua 14 mlynedd ac mae'n rhedeg gwesty yn Doha.
Yn siarad ar Dros Frecwast ddydd Iau, dywedodd ei fod yn clywed taflegrau yn ffrwydro a bod y maes awyr wedi cau yn y brifddinas ers dydd Sadwrn.
Bu'n esbonio bod awyrgylch "od" yno ar hyn o bryd a'i bod hi'n wlad andros o saff fel arfer.
'Hunllef' criw o Wynedd sy'n sownd yn sgil gwrthdaro'r Dwyrain Canol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
'Panig, gofid ac ansicrwydd' i Gymry sy'n rhan o wrthdaro'r Dwyrain Canol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Cymro yn Qatar: 'Sefyllfa sensitif ac anodd ar hyn o bryd'
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2025
Eglurodd Rhodri nad yw'n "gwybod beth fydd yn digwydd nesaf", gan fod y maes awyr ar gau ar hyn o bryd.
"Nawr ni'n clywed bod Qatar yn mynd i ddechrau hedfan eu hawyrennau - nid allan o Qatar - ond allan o Oman, Dubai - i fynd â phobl adref i Brydain, Ewrop, neu'r UDA."
Esboniodd bod cyfarfod wedi'i drefnu fore Gwener am fwy o wybodaeth a bod "teimlad 'na o fod ynghlwm ac yn dynn i Qatar a bo' ni methu dianc".
Ond, mae yno fodd dreifio i wledydd eraill a hedfan, yn ôl Rhodri, ond bod hynny'n achosi "gwahanol fath o broblemau".
"Mae ffydd gyda fi a gan bobl Qatar yn y bobl sy'n rheoli'r wlad i gadw ni'n ddiogel a ma' rhaid i fi ddweud - ma' rhaid cael perspective - ma' bobl ddiniwed o dan fygythiad reit trwy'r rhanbarth.
"Ond, ar hyn o bryd ni dal i fod yn lwcus iawn fan hyn, mae'r system amddiffyn yn cadw ni'n ddiogel ar hyn o bryd."

Eglurodd Rhodri nad yw'n "gwybod beth fydd yn digwydd nesaf", gan fod y maes awyr ar gau ar hyn o bryd
Dywedodd Rhodri ei fod wedi bod yn clywed bomiau yn ffrwydro ac wedi bod yn "dihuno fi yng nghanol nos".
"Does dim sicrwydd o pryd maent yn dod mewn," meddai.
"Os mewn saith diwrnod - 10 diwrnod ar y mwyaf - a bod pethau wedi gwaethygu erbyn hynny, dwi'n credu bydde fe ond yn naturiol i rywun fel fi ac i bobl eraill sy'n byw yma i feddwl: 'Bois bach, falle bod hi werth symud yn ôl gartref, am damaid beth bynnag'."
'Y lle saffaf i fyw yn y byd'
Dyma'r tro cyntaf i Rhodri deimlo fel hyn ers iddo symud i Qatar yn ôl yn 2012, meddai.
"Dyna'r eironi - dyma'r lle saffa' i fyw yn y byd. Mae e'r math o le dwi ddim yn cloi'r car, ddim yn cloi'r tŷ, does dim bygythiad mynd allan gyda'r nos. Mae'n le diogel."
Ychwanegodd ei fod yn "anodd derbyn" bod gwledydd fel Qatar ac eraill ddim wedi cyfrannu at y sefyllfa ond eu bod "reit yn ei chanol hi" beth bynnag.
Diolchodd am y "negeseuon i fi a 'ngwraig" a bod hynny wedi codi ei galon.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.