Safle pwysig yn hanes theatr Cymraeg ar werth

Theatr
Disgrifiad o’r llun,

Y stabl a'r drws gwyn yn y pellter sy'n fynedfa i'r hen theatr Garthewin

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yng nghanol cefn gwlad Sir Conwy yn ystod y 1950au, roedd stablau un plasty yn ganolbwynt byd y ddrama yng Nghymru.

Roedd plasty Garthewin yn Llanfair Talhaiarn yn enwog am roi llwyfan i rai o ddramâu enwocaf y Gymraeg.

Mae'r plasty bellach ar werth am swm sylweddol o arian, ac yn rhan o'r stad mae modd dod o hyd i'r hyn sy'n weddill o'r theatr.

Aled Hughes aeth draw i'r plasty yn Llanfair Talhaiarn gyda Trystan Lewis i glywed hanes y theatr a'r dramâu gafodd eu llwyfannu yno.

Trystan Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trystan Lewis yn byw ym mhentref Llanfair Talhaiarn

Meddai Trystan: "Roedd y plasty yn gartref i'r Wynniaid am dros 1000 o flynyddoedd.

"Ac wrth gwrs, tu ôl ni fan hyn mae yna dalp mawr o hanes pwysig ein cenedl ni, a dwi'n deud os y base ni'n genedl wâr, y base ni'n diogelu'r adeilad 'ma i'r oes a ddêl oherwydd bod y lle mor bwysig i'n treftadaeth ac i'n diwylliant ni."

Yng nghanol y 1930au, daeth y stad i chwarae rôl bwysig ym myd y ddrama cyn eu llwyfannu nhw yng nghanol y 1950au.

Richard Wynn, neu ROF Wynn oedd berchen y stad bryd hynny, ac roedd ganddo gariad at ddrama.

Dywedodd Trystan: "Y trobwynt oedd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1933 a ffurfio chwaraedy cenedlaethol i'r Cymry.

"Ond doedd ganddon nhw ddim cartre mewn gwirionedd.

"Dyma ROF Wynn yn penderfynu, be' am i ni osod a threfnu dramâu yn y gofod ardderchog yn Gartherin."

Y ddau awdur sy'n cael eu cysylltu fwyaf â'r plasty yw Kate Roberts a Saunders Lewis.

Ar y pryd, Kate Roberts oedd yn gyfrifol am bapur newydd Y Faner a hithau hefyd oedd yn adolygu dramâu'r cyfnod ar gyfer y papur.

Mewn llythyrau at ei gilydd sydd bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, roedd Kate Roberts wedi ysgrifennu at Saunders Lewis pan welodd hi berfformiad o ddrama Blodeuwedd, gan ganmol y perfformiad yn fawr.

Fe ddisgrifiodd Kate Roberts berfformiad yr actorion yn y ddrama fel un "caboledig wych, mewn drama anodd".

Tu fewn i'r theatr
Disgrifiad o’r llun,

Gweddillion y theatr a'r llwyfan ble berfformwyd sawl drama enwog

Roedd cysylltiad Saunders Lewis â'r plasty wedi'i wreiddio drwy ei gyfeillgarwch gyda'r perchennog a'r ffaith fod y ddau yn Babyddion ac yn genedlaetholwyr pybyr.

"Mi oedd Saunders yn dod yma yn aml iawn ar wyliau, ac wedyn gosod y theatr, ac wrth gwrs dramâu pwysig fel Siwan.

"Mi oedd y nosweithiau llawen yn digwydd yma, yn ogystal â dramâu ffurfiol ac wrth gwrs am fod y ROF ychydig bach o ecsentrig, mi oedd o'n wahanol i'r helyw o bobl yn Nyffryn Elwy, sef Pabydd.

"Roedden nhw'n cynnal gwylnos a gwasanaeth hanner nos a'r noswyl gwyliau yma.

"Mi fyddai pobl yn tyrru yma gydag elfen o chwilfrydedd."

Yn Theatr Garthewin roedd sawl actor lleol i'r ardal yn cael eu defnyddio yn y perfformiadau, fel yr eglurai Trystan:

"Ond, yn ogystal â bod yn le cenedlaethol, roedd ROF a Chwmni Garthewin yn rhoi pwyslais ar bobl leol i gymryd rhan."

Dramâu poblogaidd eraill cafodd eu perfformio yno oedd Brad, Esther, Gymerwch Chi Sigarét, a'r dramâu yma'n cael eu perfformio am y tro cyntaf yng Ngarthewin.

Fe werthwyd y stad yng nghanol y 1990au a drwy wneud hynny daeth perchnogaeth teulu'r Wynniaid ohoni i ben.

Ni chafodd y theatr ei defnyddio wedi hynny ond mae'r atgofion a phwysigrwydd hanesyddol y safle yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

Trending Now