Organydd 'fel ci ag asgwrn' wedi canfod llawysgrif goll

Missa Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith coll yn cael ei berfformio ym mis Hydref eleni

GanAlyssa Upton
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae llawysgrif o waith cerddorol sydd wedi bod ar goll ers dros hanner canrif wedi cael ei chanfod unwaith eto.

Cafodd yr offeren Missa Cambrensis ei chyfansoddi gan Meirion Williams yn 1974 ar gyfer cynulleidfa Eglwys San Bened - yr eglwys Anglicanaidd Gymreig ynghanol Llundain.

John Jones, organydd Capel Cymraeg y Boro, ddechreuodd chwilio am y gwaith wedi iddo ddarllen am hanes yr eglwys.

"Roeddwn i fel ryw gi gydag asgwrn... doeddwn i ddim am roi'r gorau iddi, ond doedd neb yn gwybod dim," meddai.

Mae'r cyfansoddiad yn gwbl wahanol i waith cerddorol Grace Williams a gafodd ei gyfansoddi ychydig flynyddoedd ynghynt - er mai Missa Cambrensis yw enw'r ddau waith.

Roedd y cerddor John Jones yn hynod o falch wedi iddo ganfod y gwaith collFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cerddor John Jones yn hynod o falch ar ôl i'r gwaith coll gael ei ganfod

Wrth ddarllen am hanes Eglwys San Bened daeth John Jones i wybod bod Meirion Williams, y cyfansoddwr o Ddyffryn Ardudwy, wedi bod yn organydd yno o 1951 ymlaen ac wedi cyfansoddi offeren ar gyfer y gynulleidfa.

"Fues i'n chwilio'n ddyfal nes i mi gael paned o goffi gyda ffrind i mi o Gôr Cymraeg Capel y Boro, Trevor Ellis, a dyma fo'n deud bod o'n arfer mynychu St Benet's - mae o wedi canu mewn corau Cymreig ers blynyddoedd maith," meddai John Jones.

"Dyma fo'n mynd adre a ges i neges destun ganddo fo yn dweud bod ganddo fo gopi o'r sgôr.

"Wel, o'n i ar lawr, allwch chi ddychmygu.

"Dwi wedi bod yn andros o lwcus a dweud y gwir gan i fi y bore canlynol gael e-bost gan Eglwys St Benet yn dweud bod ganddyn nhw ddim cofnod o gwbl o hwn.

"Y bwriad rŵan ydy gwneud cyngerdd ac i berfformio hwn.

"Mae o'n mynd i fod yn weddol syml oherwydd ei bod o wedi sgwennu i gynulleidfa, yn hytrach na chôr."

Côr y BoroFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelod o Gôr y Boro'n dweud y bydd hi'n fraint cynnal cyngerdd a pherfformio'r gwaith

Bu farw Meirion Williams yn Ysbyty Middlesex, St Marylebone ar 4 Hydref 1976.

Mae wedi'i gladdu yn Llanenddwyn ac fe gafodd gwasanaeth coffa ei gynnal iddo yn Eglwys San Bened yn Llundain ar 27 Hydref 1976.

"Mi all y perfformiad yma o'i waith fod yn gyngerdd dathlu hanner canrif ers marwolaeth y cyfansoddwr - tan nawr doeddwn i ond yn gwybod am ei ganeuon [a dim am yr offeren]," ychwanegodd John Jones.

Trevor EllisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Trevor Ellis wedi cadw'r gwaith yn ddiogel yn ei fag

Mae Trevor Ellis a ddaeth o hyd i'r llawysgrif bellach yn aelod o Gôr Capel Cymraeg y Boro.

Dywed ei fod wedi cadw y Missa Cambrensis yn ddiogel yn ei fag ers ei ddyddiau yn canu i gôr Eglwys San Bened am iddo feddwl y byddai'n ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol.

"Un bore Llun dyma John a finnau yn cwrdd am goffi," meddai.

"Wnaethon ni ddechrau trafod cerddoriaeth, ac yna dywedodd John ei fod wedi bod yn chwilio am ddarn o'r enw Missa Cambrensis.

"Dywedais wrtho fy mod i'n credu bod gen i gopi. Bu bron iddo neidio allan o'i gadair!

"Es i drwy fy holl gerddoriaeth y noson honno a gweld ynghanol fy mhecyn mawr o gerddoriaeth y Missa Cambrensis.

"Soniais wrth John ac roedd o methu credu."

Mae Olwen Evans yn cofio canu'r gwaith pan yn blentynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Olwen Evans yn cofio canu'r gwaith pan yn blentyn

Roedd Olwen Evans, sydd hefyd yn aelod o Gôr Capel Cymraeg y Boro, yn mynd i Eglwys San Bened pan oedd Meirion Williams yn organydd yno.

"Ges i fy medyddio 'na. O'n i'n mynd ers yn blentyn bach," meddai.

"Meirion Williams, wrth gwrs, oedd yr organydd am flynyddoedd maith, a jyst fel 'Meirion yr organydd' o'n i'n ei adnabod o.

"O'n i ddim yn sylweddoli pryd 'ny a thrwy'r rhan fwyaf o'm mhlentyndod y bri oedd ganddo fel cyfansoddwr a cherddor yn gyffredinol - daeth hwnna yn llawer nes ymlaen.

"Pan o'n i yn fy arddegau - rhywbryd yn 1974, fe wnaeth sgwennu'r Missa Cambrensis a 'naethon ni ganu fe fel rhan o wasanaeth a ddarlledwyd ar y radio.

"Mae Côr y Boro - y côr rwy'n canu ynddo nawr - yn mynd i gynnal cyngerdd coffa iddo fe ym mis Hydref a ni'n gobeithio canu darnau o'r Missa Cambrensis.

"Mae'n fraint taw Côr y Boro sy'n mynd i gynnal y cyngerdd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now