Dyn yn euog o lofruddio ei frawd mewn 'ffit o gynddaredd'

Clywodd y llys fod Martin Steel yn "dad balch i ddwy ferch"
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 41 oed wedi cael ei ganfod yn euog o lofruddio ei frawd hŷn yn ystod ffrae.
Fe wnaeth Darren Steel ymosod ar Martin Steel, 48, a'i adael i farw o'i anafiadau difrifol ym Mai 2023.
Dywedodd yr erlynydd yn Llys y Goron Abertawe fod y llofruddiaeth wedi digwydd mewn "ffit o gynddaredd eithafol", er bod Darren Steel yn honni ei fod wedi lladd ei frawd tra'n ceisio amddiffyn ei hun.
Bydd Darren Steel, o ardal Treforys yn Abertawe, yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.

Bu farw Martin Steel mewn eiddo ar Hill View Crescent yn ardal y Clâs yn Abertawe
Clywodd y llys fod gan y brodyr "berthynas o gariad a chasineb" a'u bod wedi bod yn ffraeo cyn yr ymosodiad angheuol ym Mai 2023.
Dywedodd yr erlynydd Andrew Jones fod mam y ddau wedi dod o hyd i Martin yn farw ar ôl i gymdogion pryderus ei galw i'r tŷ.
Ffoniodd 999 ar ôl gweld yr "olygfa erchyll" o Martin "wedi plygu mewn cadair yn ei ystafell fyw, yn debygol o fod yn farw ac wedi'i orchuddio mewn gwaed".
Dywedodd Mr Jones: "Roedd wedi cael ei guro'n erchyll yn ei gartref ei hun a'i adael i farw."
Ychwanegodd fod Darren Steel "wedi gwneud dim i helpu ei frawd" ac iddo "redeg i ffwrdd gan adael ei fam i ddelio â'i mab".
Clywodd y llys fod Martin wedi dioddef "anafiadau trwm i'w wyneb a'i wddf", gan gynnwys "briwiau, crafiadau a chleisiau".
Teyrnged i ddyn a chyhuddo dyn arall o lofruddio
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Abertawe
- Cyhoeddwyd20 Mai 2023
Cafodd Martin Steel ei ddisgrifio fel "tad balch i ddwy ferch".
Dywedodd Andrew Jones nad oedd honiadau Darren Steel ei fod yn amddiffyn ei hun yn cyd-fynd â difrifoldeb anafiadau ei frawd.
Pwysleisiodd Mr Jones fod y gyfraith yn cydnabod y gall person "ddefnyddio grym rhesymol i amddiffyn eich hun", ond "na ellid ystyried bod yr anafiadau hyn yn ganlyniad i rym rhesymol o dan unrhyw amgylchiadau".
Ychwanegodd: "Nid oedd gan Darren Steel unrhyw anafiadau amlwg pan gafodd ei arestio."
Clywodd y llys fod Darren Steel, ar ôl yr ymosodiad, wedi dweud wrth gymydog fod ei frawd wedi "ei ddyrnu ddwywaith" a'i fod "efallai wedi mynd yn rhy bell", gan ychwanegu nad oedd yn gwybod a oedd wedi ei ladd.
Dywedodd Mr Jones fod Steel hefyd wedi ymosod ar ddyn a menyw yn y dyddiau cyn yr ymosodiad ar ei frawd, ac wedi dangos "trais cynyddol" cyn y llofruddiaeth.