Cystadleuydd Y Llais yn galw am fwy o ddealltwriaeth o anabledd anweladwy

- Cyhoeddwyd
Mae cystadleuydd ar gyfres Y Llais ar S4C wedi apelio ar bobl i gael "mwy o ddealltwriaeth" o gyflwr sglerosis ymledol - neu MS.
Dywedodd Grace Sanders, sy'n byw yn y Swistir gyda'i theulu, ei bod hi wedi cael ei herio gan aelod o'r cyhoedd am ddefnyddio lle parcio i'r anabl am nad oedd arwydd allanol bod y cyflwr arni.
Mae arolwg gan Gymdeithas MS Cymru yn awgrymu bod 84% o bobl gyda'r cyflwr gafodd eu holi wedi clywed sylwadau tebyg i "nad oedden nhw yn edrych yn sâl".
Mae'r gymdeithas yn galw ar bobl i ddysgu mwy am y cyflwr yn ystod wythnos ymwybyddiaeth MS.

Gofynnodd Grace Sanders am gadair wrth berfformio yn ystod Y Llais am ei bod hi'n cael trafferth sefyll am gyfnodau hir
Mae sglerosis ymledol yn gyflwr hirdymor ble mae'r system imiwnedd yn ymosod ar y nerfau yn yr ymennydd a llinyn yr asgwrn y cefn, ac mae'n niweidio'r haenen o fyelin sydd yn eu hamddiffyn.
Mae'r cyflwr yn medru effeithio ar deimlad, symudedd, golwg a chydbwysedd.
Mae 150,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda'r cyflwr, ac mae'n effeithio ar dros 6,100 o bobl yng Nghymru.

"O'n i'n teimlo fy mod i yn mynd off fy mhen," meddai Angharad Lloyd
Un arall sydd yn byw gydag MS yw Angharad Lloyd, 49 oed, o Flaen-ffos yn Sir Benfro.
Cafodd hi ddiagnosis yn 2018, er bod y symptomau arni am chwe blynedd a hanner cyn hynny.
Dywedodd ei bod hi'n anodd cael meddygon yn yr ysbyty i gredu bod ganddi ddiffyg teimlad yn ei chymalau.
"We ni'n byw gyda rhannau o'r corff yn mynd yn numb. Ac unwaith roedd y numbness yna, doedd e ddim yn mynd bant," meddai.
"Un extreme oedd we ni moyn defnyddio rhywbeth, torri croen, i ddangos bod fi ffili teimlo.
"Wnes i ddim o hynny ond roedd e'n mynd mor bell â hynny. Roedd e'n ofnadwy. O'n i'n teimlo fy mod i yn mynd off fy mhen."
Byw gyda MS: 'Newidiodd ein bywydau ni dros nos'
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
Daf Wyn: MS ‘wedi agor lan sut dwi’n edrych ar y byd’
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
Y gofalwr ifanc sydd eisiau 'newid y byd i bobl fel fi'
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2025
Mae Angharad yn mwynhau cadw'n heini ac yn paratoi ar gyfer Her y Tri Chopa ym mis Mehefin.
Ond mae'n dweud bod MS yn glefyd anodd i fyw gydag oherwydd mae'r symptomau yn "anweladwy".
"Fi'n credu bod rhai pobl yn meddwl, wel mae hi'n mynd mas i redeg neu mae hi yn mynd i'r gym, mae hi'n mynd i nofio. 'Drych beth mae hi'n neud. Sdim byd yn bod.
"So nhw yn gorfod gweld beth dwi'n gorfod gwneud i gyrraedd y pwynt yna. Dwi wedi gweithio yn galed ers 14 mlynedd i gyrraedd ble ydw i nawr, a sai moyn colli fe.
"Se ni ddim wedi gwneud y ffitrwydd am y chwe mlynedd a hanner yn ymladd am ddiagnosis bydden ni ddim cystal â beth ydw i nawr."

Dywedodd Grace Sanders (chwith) mai'r broblem ydy ei bod hi'n edrych yn iach a bod neb yn gallu dweud bod ganddi broblemau weithiau
Dywedodd y gantores Grace Sanders ei bod hi wedi gofyn am gael cadair wrth berfformio yn ystod Y Llais am ei bod hi'n cael trafferth sefyll am gyfnodau hir.
"Dyna'r problem really, achos dwi yn edrych yn healthy ac mae neb yn edrych arna i a meddwl o mae rhywbeth yn digwydd yna fan'na ond dwi yn cael problem sefyll i fyny am lot o amser a felly mae'n bwysig i fi deimlo yn comfortable," meddai.
"Dyna pam wnes i ofyn am gadair i gael eistedd i lawr. Mae'n ddim problem, mae'n normal."
Cafodd 90 o bobl gydag MS eu holi gan Gymdeithas MS Cymru ar gyfer yr wythnos i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.
Mae arolwg Cymdeithas MS Cymru yn awgrymu bod:
57% yn osgoi defnyddio cyfleusterau arbennig fel toiledau i bobl anabl rhag ofn y byddan nhw'n cael eu herio neu eu beirniadu
31% yn dweud eu bod nhw'n ofni gadael y tŷ am eu bod yn ofni cael eu beirniadu
73% yn dweud eu bod yn teimlo eu bod nhw'n cael eu beirniadu neu eu trin yn wahanol oherwydd eu cyflwr
24% wedi cael eu herio neu eu beirniadu am ddefnyddio tŷ bach i'r anabl
22% wedi cael eu herio am ddefnyddio lle parcio ar gyfer bathodynnau glas yn unig.

"Mae MS yn fwy aml na pheidio yn un o'r cyflyrau yna ble mae'r symptomau yn anweledig," medd Dafydd Wyn
Mae'r cyflwynydd teledu, Dafydd Wyn, yn byw gyda'r cyflwr ers pum mlynedd ac mae'n llysgennad i Gymdeithas MS Cymru.
"Mae'n rhaid i fi ddweud - pan wnes i ddarllen yr ystadegau - ges i dipyn o sioc.
"Dwi'n meddwl mai'r ystadegyn wnaeth sefyll mas i fi fwyaf oedd bod rhywun wedi poeri arno am barcio mewn gwagle bathodyn glas.
"Sai'n meddwl mewn unrhyw sefyllfa bod hwnna'n iawn. Mae MS yn fwy aml na pheidio yn un o'r cyflyrau yna ble mae'r symptomau yn anweledig.
"Chi ffili gweld os mae rhywun yn byw mewn poen. Chi ffili gweld os mae rhywun methu sefyll neu gerdded achos bod nhw'n eistedd lawr.
"Mae wythnos fel hon yn bwysig. Mae'n rhoi cyfle i bobl - i ni - feddwl, falle, ok, efallai nad yw'r person yma cweit yn iawn. Pam maen nhw yn parcio yn fa'na?
"Pam maen nhw yn defnyddio'r toiled hygyrch? Mae'n gyfle i ail-asesu ac ail feddwl a falle ddim barnu a pharchu pobl yn fwy wrth wneud hynny.
"Gobeithio wrth addysgu pobl byddwn ni yn gallu parchu pobl bach mwy yn y dyfodol."
'Anabledd anweladwy'
Dywedodd Grace ei bod hi wedi cael ei herio unwaith gan aelod o'r cyhoedd am barcio mewn lle i bobl anabl.
"Mae fe wedi digwydd i fi. Roeddwn i yn y car efo fy ffrind... ac oherwydd dwi yn cael problemau gyda fy nghoesau roeddwn i yn gorfod mynd mewn i disabled space ac roedd gen i fathodyn ond wnes i ddim rhoi fe lawr yn yr eiliad honno ac mewn shot roedd rhywun yn dod i'r car ac edrych arna i a dweud 'beth ti'n neud? Ti ddim yn gallu dod yma.'
"Roedd e'n gweld rhywun oedd yn edrych yn healthy ond ddim yn gwybod fy mod i yn cael problemau cerdded."
Mae Grace wedi apelio ar bobl i ddangos "mwy o ddealltwriaeth" i bobl sydd ag MS - sylw sydd yn cael ei gefnogi gan Angharad.
"Mae fe'n anabledd anweladwy a mae hwnna mor greulon ar ben gorfod cael yr anabledd yn y lle cyntaf.
"Dwi yn deall byddai pobl yn camu bant o lefydd achos hynny. So ni yn gwybod beth mae pobl yn gorfod mynd trwyddo.
"Fi'n lwcus ar y funud ond sdim i ddweud na allai hynny newid yn yr wythnos, mis, blwyddyn, 10 mlynedd. Sdim un ohonom ni'n gwybod."
Mae Cyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru, Shelley Elgin yn dweud bod byw gyda'r cyflwr yn gallu bod yn "flinedig ac yn anwadal" ac mae'n bwysig bod pobl yn cymryd yr amser i wrando, dysgu a deall mwy am yr afiechyd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.