Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru i wynebu Portiwgal, Denmarc a Norwy

- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn wynebu Portiwgal, Denmarc a Norwy ym mhrif haen Cynghrair y Cenhedloedd eleni.
Daeth yr enwau allan o'r het mewn seremoni ym Mrwsel nos Iau.
Roedd y timau yn Adran A wedi eu rhannu mewn i bedwar pot - gyda Chymru ym Mhot 4 ar ôl ennill dyrchafiad o'r ail haen ym mis Tachwedd 2024.
Ond o ran detholion y byd, mae'r grŵp yn un o'r rai mwyaf caredig y gallai Cymru fod wedi disgwyl.
Mae Portiwgal yn chweched yn ôl detholion FIFA, gyda Denmarc yn 21ain, Norwy yn 32ain, a Chymru yn 35ain.
Ond Portiwgal yw'r deiliaid, wedi iddyn nhw drechu Sbaen ar giciau o'r smotyn yn haf 2025 i ennill tlws Cynghrair y Cenhedloedd.
Bydd y gemau grŵp yn cael eu cynnal rhwng Medi a Thachwedd 2026, cyn y rowndiau terfynol y flwyddyn nesaf.

Yn ôl Craig Bellamy, y nod i Gymru fydd aros yng nghynghrair A
Yn siarad wedi i'r grwpiau gael eu dewis, dywedodd rheolwr Cymru Craig Bellamy mai'r nod fydd peidio â disgyn o'r brif haen.
"Dwi'n gyffrous ac yn reit hapus gyda'r grŵp," meddai.
"'Da ni wedi bod rhwng haen A a haen B, ac yn yr ymgyrchoedd rhagbrofol 'da ni'n ail. Sut 'da ni'n dod yn rhif un, a chystadlu i fod ar y brig?
"Os allwn ni aros yng nghynghrair A, bydd hynny'n rhoi cyfle gwell i ni fod yn rhif un o ran detholion.
"Byddwn ni wedyn yn mynd i mewn i'r gemau rhagbrofol a gallu aros yn rhif un, a mynd yn syth i bencampwriaeth, ac nid trwy'r gemau ail gyfle."

Mae Noel Mooney wedi awgrymu y gallai Cymru chwarae un o'r gemau yn Stadiwm Principality
Yn y cyfamser mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney wedi awgrymu y gallai o leiaf un o'r gemau yng Nghyngrair y Cenhedloedd gael ei chwarae yn Stadiwm Principality.
Tydi'r tîm cenedlaethol ddim wedi chwarae yno ers colli 4-1 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yn 2018.
Ond fe ddywedodd Mooney bod angen meddwl am "yr amser cywir i chwarae yno" wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Euro 2028.
"Mae'n rhaid i ni fod yn barod gan ein bod ni'n cynnal yr Euros yn Stadiwm Principality a does dim dwywaith amdani, dydyn ni ddim am droi fyny fel twristiaid ar gyfer gêm gyntaf y gystadleuaeth," meddai.
"Dydyn ni heb benderfynu pryd y byddwn ni'n chwarae yno, ond mae gwneud synnwyr pan ry'n ni'n wynebu gwlad fawr iawn... y byddwn ni'n mynd yno."
Ychwanegodd y bydd unrhyw gynlluniau yn deillio o drafodaethau gyda rhanddeiliaid, y tîm rheoli a chefnogwyr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
