Llywodraeth Cymru yn ystyried 'galw i mewn' cynllun hydro dadleuol yn Eryri

Llun Rhaeadr y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadwraethwyr yn poeni am yr effaith ar Bont yr Afon Gam a Rhaeadr y Cwm

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried gwneud penderfyniad eu hunain ar gymeradwyo cynllun trydan dŵr dadleuol dros afon boblogaidd yn Eryri.

Mae'r brodyr Elis Dafydd, Moi Dafydd a Dafydd Elis o'r Bala yn ceisio cael caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun 600-cilowat ar Afon Cynfal ger Llan Ffestiniog.

Byddai'n darparu digon o bŵer ar gyfer 700 o gartrefi.

Fe wnaethon nhw gais cyntaf yn 2024, ac roedd eu hail gais i fod i gael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Ionawr.

Roedd swyddogion wedi argymell cymeradwyo'r cynllun, ond fe benderfynodd y pwyllgor y dylid oedi cyn gwneud penderfyniad.

Ond mae Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried "galw'r prosiect i mewn", fyddai'n golygu mai gweinidogion fyddai'n gwneud penderfyniad terfynol ar y cynllun.

Mae 'na wrthwynebiad cryf wedi bod gan gadwraethwyr sy'n poeni am yr effaith ar Bont yr Afon Gam a Rhaeadr y Cwm, lle mae'r afon yn plymio trwy geunant cul.

Mae pryderon hefyd wedi'u codi am yr effaith ar fyd natur yn yr ardal, a gafodd ei disgrifio fel "lle sydd wedi ysbrydoli storïwyr, artistiaid a beirdd ers dros fileniwm".

Cyn cyfarfod mis Ionawr roedd 592 o ymatebion wedi dod i law - 453 ohonyn nhw'n gwrthwynebu'r cynllun.

Ymhlith y gwrthwynebwyr roedd Cymdeithas Parc Eryri a'r sefydliad Save Our Rivers.

O'r 139 oedd yn cefnogi'r cynllun, roedd y mwyafrif yn dadlau na fyddai'n rhy amlwg, ac y byddai'n cyfrannu at gynlluniau ynni gwyrdd y llywodraeth a chynnig cyfle i dirfeddianwyr amrywio eu hincwm.

Yn y cyfarfod gofynnodd y swyddogion am ohirio'r mater oherwydd bod angen ystyried cannoedd o sylwadau hwyr.

Mae hi bellach wedi dod i'r amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i oedi ymhellach, wrth iddyn nhw ystyried a ddylai gweinidogion benderfynu ar y cais.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now