£200 i gartrefi incwm isel sy'n dibynnu ar olew neu nwy

Bydd pobl ar incwm isel sy'n defnyddio olew gwresogi neu LPG yn gymwys am y taliad
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer cartrefi incwm isel, wrth i brisiau tanwydd barhau i godi.
Bydd pobl ar incwm isel sy'n defnyddio olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol (LPG) yn gymwys am daliad o untro £200, os ydyn nhw ar gynllun gostyngiadau Treth Cyngor.
Mae amcangyfrif y bydd rhwng 20,000 a 25,000 o gartrefi yng Nghymru yn gymwys am y taliad.
Mae'r arian yn rhan o £3.8m a gafodd ei roi i Gymru gan Lywodraeth y DU fis yma.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gefnogaeth hefyd yn cael ei ymestyn i'r rheiny sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol, ond nad ydyn nhw'n gymwys ar gyfer y taliad.
'Teimlo fel gwlad trydydd byd'
Dyw Pat Bedford o Lanwenog yng Ngheredigion ddim yn gymwys ar gyfer y taliad, ac mae'n dweud nad yw hi'n gallu fforddio'r cynnydd ym mhris olew.
"Mae gen i hanner tanc ar ôl, ond fi ddim yn defnyddio fe," meddai.
"Fi'n dibynnu ar y log burner s'da fi yn y cyntedd, a fi'n gwisgo tair layer gyda'r nos, a het.
"Fi'n caru fy mywyd i yma - mae'n fodolaeth berffaith - ond ar adegau fel hyn mae'n teimlo fel gwlad trydydd byd.
"Dydw i ddim yn siŵr pam wnes i weithio 40 mlynedd fel gwas cyhoeddus i orfod dioddef hyn yn 2026."
Mae tua 7% o gartrefi yng Nghymru yn dibynnu ar olew fel eu prif ffynhonnell wresogi, ond mae'r canrannau yn llawer uwch mewn ardaloedd gwledig.
Mae tua thraean o gartrefi Ceredigion a Phowys yn ddibynnol ar olew, a thua chwarter yn Sir Gaerfyrddin.
"Mae gorllewin Cymru yn dechrau teimlo fel rhywle ble mai dim ond pobl gyfoethog all fyw yma," meddai Ms Bedford.
"Bydden ni wrth fy modd yn cael rhywbeth gwahanol i olew, ond does dim.
"Mae 'na boblogaeth wledig sy'n heneiddio yma, sy'n ei chael hi'n anodd.
"Mae angen i rywun ddechrau cefnogi pobl sy'n byw yma yng Nghymru."

Mae prisiau tanwydd yn parhau i godi ar draws y byd
Mae disgwyl i awdurdodau lleol gysylltu gyda phobl sy'n gymwys, yn eu gwahodd i wneud cais.
Bydd angen i bobl gadarnhau eu math o danwydd gwresogi a'u manylion banc, gyda'r taliadau'n cael eu gwneud yn syth i'w cyfrifon.
Bydd chwe mis o lansiad y cynllun i wneud cais.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun gostyngiadau Treth Cyngor mae angen i bobl dderbyn un o'r canlynol, yn ogystal â chael llai na £16,000 mewn cynilion ac eiddo:
Credyd Cynhwysol
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
Cymhorthdal Incwm
Trwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, mae'r cymorth uchaf ar gyfer olew gwresogi wedi cynyddu o £500 i £750, a gall pobl bellach wneud cais hyd at ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis.
'Cefnogaeth sylweddol'
Dywedodd yr ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol, Jane Hutt: "Mae costau byw yn parhau i roi pwysau ar lawer o aelwydydd ledled Cymru, ac mae'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn cynyddu prisiau, gan ychwanegu at y pryder y mae llawer o bobl eisoes yn ei deimlo ynghylch talu eu biliau a gwresogi eu cartrefi.
"Mae cefnogi pobl yn ystod y cyfnod hwn o bwysau yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai sydd ei angen fwyaf.
"Bydd cyhoeddiadau heddiw yn darparu cymorth ychwanegol ar unwaith i'r rhai sydd â'r angen mwyaf, ac yn adeiladu ar y gefnogaeth sylweddol yr ydym eisoes wedi'i rhoi ar waith."
'Dio'm yn lot nadi?' - Teuluoedd yn ymateb i gymorth olew gwresogi
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
Bil tanwydd cwmni cludo yn codi £64,000 yr wythnos yn sgil rhyfel Iran
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Rhybudd am ladrad tanwydd yng nghefn gwlad wrth i brisiau godi
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru bod "Llafur, fel y Ceidwadwyr, wedi tanseilio ein diogelwch ynni gyda gwallgofrwydd sero net".
"Mae gan Reform gynllun i dorri biliau a thorri treth tanwydd i leddfu'r pwysau ar deuluoedd sy'n gweithio."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y bydd "miloedd o deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn anghymwys oherwydd natur gul y gefnogaeth".
"Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio nawr i sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn ymwybodol o'r taliad sydd ar gael, ac yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynllun sydd ei angen yn fawr."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig bod y blaid ar lefel y DU wedi lansio cynllun ynni glan a fydd yn "torri biliau ynni £200 i helpu teuluoedd a chostau byw".
"Gyda Llafur yn cynyddu biliau ynni, dim ond y Ceidwadwyr sydd â chynllun i dorri'r costau ynni uchel sy'n wynebu teuluoedd fel rhan o'n cynllun i Gael Prydain i Weithio Eto ac adeiladu economi gryfach."
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.