'Tipyn o siwrne' yn ystod pum mlynedd Rob a Ryan yn Wrecsam

Mae Ryan Reynolds a Rob Mac wedi bod yn berchen ar glwb Wrecsam ers pum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd Spencer Harris alwad ffôn yn 2019 a newidiodd popeth yn hanes clwb Wrecsam.
Galwad oedd hi yn ei wahodd i gael sgwrs gyda banciwr o Efrog Newydd oedd yn cynrychioli unigolion â diddordeb prynu'r clwb.
Mi oedd Spencer yn un o'r cyfarwyddwyr ar y pryd, gan mai Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam oedd wedi bod yn berchen ar y clwb ers 2011.
Fe dderbyniodd y gwahoddiad am sgwrs ffôn - ond doedd yr unigolyn ben arall yr alwad ddim yn fodlon datgelu ei enw.
"Doedd o ddim yn mynd i ddweud pwy oedd o, ar wahân mai dweud ei enw oedd Rob," meddai Spencer.
"Ond o beth yr oedd yn ei ddweud, mi wnes i ychydig bach o ymchwil a dyfalu mai Rob McElhenney oedd o."
Yn 2020 fe bleidleisiodd 98.6% o'r cefnogwyr o blaid gadael McElhenney a Ryan Reynolds i gymryd yr awenau - ac am siwrne mae'r clwb wedi bod arni ers hynny.
Gosod seiliau cryf

Llun artist o'r Kop newydd sydd wrthi'n cael ei adeiladu
Mae'r ddau yn mynnu mai nad rhywbeth tymor byr yn unig yw hyn.
Y bwriad yw gweld Wrecsam yn datblygu i fod yn glwb llwyddiannus am flynyddoedd maith i ddod.
I hynny ddigwydd mi oedd angen gwella a moderneiddio'r Cae Ras. Ar ôl bod yn wag am 16 mlynedd mae eisteddle eiconig y Kop wedi cael ei ddymchwel.
Mae 'na eisteddle newydd wrthi'n cael ei adeiladu fydd yn dal 7,500 o gefnogwyr, sy'n golygu y bydd y stadiwm yn gallu dal hyd at 18,000 o bobl.
Y gobaith yw y bydd y gwaith adeiladu wedi cael ei gwblhau erbyn dechrau 2027.
Mae 'na ganmoliaeth o fewn y clwb i sut mae popeth bellach yn llawer "mwy proffesiynol" - o'r bwyd sy'n cael ei baratoi i'r chwaraewyr, i'r trefniadau teithio.
Yn aml bydd y garfan yn hedfan i gemau oddi cartref pell fel eu bod ddim yn gorfod treulio oriau yn eistedd ar fws.
Mae hedfan gartref o gemau wedyn yn gallu bod o gymorth i chwaraewyr sydd wedi dioddef anafiadau.
Mae 'na hefyd ymdrech wedi bod yn ddiweddar i geisio meithrin mwy o dalent lleol.
Mae Gus Williams a Craig Knight wedi treulio cyfnodau yn gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Cymru - ond mae'r ddau bellach ar lyfrau Wrecsam.
Y gobaith yw gweld mwy o chwaraewyr lleol yn torri fewn i garfan y tîm cyntaf dros y blynyddoedd nesaf.
Dyrchafiad ar ôl dyrchafiad ar ôl dyrchafiad

Carfan Wrecsam yn ennill dyrchafiad i'r Bencampwriaeth yn 2025
Mae cyfraniad Ryan a Rob i Wrecsam wedi bod yn enfawr.
Maen nhw wedi codi proffil popeth sy'n gysylltiedig â'r clwb, a diolch i'r gyfres 'Welcome to Wrexham' mae pobl ar draws y byd yn gyfarwydd â'r ddinas.
Ond fel perchnogion clwb pêl-droed mae eu llwyddiant yn mynd i gael ei fesur gyda beth sy'n digwydd ar y cae. Hyd yn hyn mae'r llwyddiant yna wedi bod yn enfawr.
Doedden nhw ddim ofn gwneud penderfyniadau mawr o'r dechrau un.
110 o ddiwrnodau ar ôl prynu'r clwb dyma ddiswyddo Dean Keates fel rheolwr, a phenodi Phil Parkinson yn ei le.
Er iddyn nhw golli yn erbyn Grimsby yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr yn nhymor cyntaf Parkinson wrth y llyw, ers hynny 'dan ni wedi gweld y clwb yn ennill tri dyrchafiad yn olynol.

Mae Phil Parkinson wedi ennill tri dyrchafiad yn olynol fel rheolwr Wrecsam
"Mae'r bum mlynedd ddiwethaf wedi hedfan heibio," yn ôl cyn-chwaraewr canol cae Wrecsam Waynne Phillips.
"Ydw i wedi cael fy synnu gan y llwyddiant? Naddo achos fod Rob a Ryan wedi dweud o'r dechrau eu bod nhw am weld Wrecsam yn yr Uwch Gynghrair mor fuan â phosibl, ac y ffaith eu bod nhw wedi gallu denu chwaraewyr o safon i fewn i'r clwb o'r dechrau un.
"Mae Paul Mullin yn enghraifft berffaith. Fo oedd prif sgoriwr yr Ail Adran, ond mi gafodd ei berswadio i syrthio lawr i Gynghrair Genedlaethol Lloegr.
"Maen nhw bron wedi adeiladu carfan newydd ar gyfer pob tymor ar ôl ennill dyrchafiad.
"Mae 'na 15 neu 16 chwaraewr newydd wedi dod mewn ers diwedd tymor dwetha'.
"Does gen i ddim syniad be' sy'n mynd i ddod dros y bum mlynedd nesa', ond be' dwi'n ei obeithio ydi y bydd 'na fwy o lwyddiant dros y ddau fis nesaf."
Mae dyrchafiad arall yn sicr yn bosibl y tymor yma gan gofio eu bod nhw'n y chweched safle yn y Bencampwriaeth ar y funud.
Fe allwn ni weld breuddwyd Rob a Ryan o weld Wrecsam yn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yn cael ei gwireddu eleni.
Llwyddiant i dîm y merched

Ava Suckley a Rosie Hughes o dîm merched Wrecsam
Mi oedd 'na addewid gan Ryan a Rob i fuddsoddi yn nhîm merched Wrecsam hefyd, ac maen nhw wedi cadw i'w gair.
Mae hi wedi bod yn bum mlynedd lewyrchus i'r tîm, yn ennill dyrchafiad i'r Adran Premier yn 2023 ac yna nhw oedd y clwb cyntaf yn hanes y gynghrair i gynnig cytundebau lled-broffesiynol i'r chwaraewyr.
Maen nhw wedi datblygu i fod yn un o'r timau gorau yng Nghymru, a fel mae pethau'n sefyll ar y funud maen nhw un pwynt tu ôl i Gaerdydd sydd ar frig y tabl.
Nhw bellach sydd berchen ar stadiwm Y Graig ar ôl ei brynu gan y Derwyddon Cefn y llynedd.
Mae Wrecsam hefyd wedi chwarae mewn cystadlaethau yn yr Unol Daleithiau a Hong Kong dros y tair blynedd ddiwethaf.
'Tipyn o siwrne'

Mae Max Cleworth wedi bod yn rhan i garfan Wrecsam ers i Rob a Ryan brynu'r clwb
Mae'r ffigyrau isod yn adlewyrchiad o'r llwyddiant y mae Wrecsam wedi'i brofi dros y bum mlynedd diwethaf.
Mi oedden nhw yn seithfed yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr ym mis Chwefror 2021.
Maen nhw bellach yn chweched yn y Bencampwriaeth - 73 safle yn uwch yn y pyramid pêl-droed.
Ar y cyfryngau cymdeithasol mi oedd ganddyn nhw 41,000 o ddilynwyr yn 2021.
Mae hynny bellach wedi codi i 1.5m.
Ond y ffigwr mwyaf trawiadol o bosibl ydi'r ffaith fod y clwb bellach yn werth £350m, lot mwy na'r £2m y talodd Rob a Ryan amdano yn 2021.
Yng ngeiriau amddiffynnwr Wrecsam, Max Cleworth: "Mae hi wedi bod yn dipyn o siwrne, gobeithio fod 'na fwy i ddod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.