'Dwi'n tynnu fy ngwallt allan - mae angen siarad am y cyflwr Trichotillomania'

Dywedodd Ruben ei fod wedi cael canmoliaeth am siarad am fyw gyda Thrichotillomania
- Cyhoeddwyd
Mae crëwr cynnwys ar-lein sy'n byw gyda chyflwr tynnu gwallt cymhellol yn dweud na ddylai unrhyw un sydd â'r cyflwr "deimlo cywilydd" na "theimlo embaras".
Mae Ruben Chorlton-Owen, 24, o Abersoch, Gwynedd wedi byw gyda Thrichotillomania ers 10 mlynedd. Mae'r cyflwr yn ei achosi i dynnu gwallt o'i farf a'i aeliau pan y mae'n teimlo'n bryderus neu'n ddiflas.
Y gred ydy bod Thrichotillomania yn effeithio rhwng 1% a 2% o'r boblogaeth yn ôl ymchwil gafod ei gyhoeddi gan y cylchgrawn wyddoniaeth, Nature.
Dywedodd Claire Mackay, sy'n Athro niwro-wyddoniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen y gallai'r cyflwr fod yn ddifrifol iawn gan arwain at bobl yn tynnu eu holl wallt allan.
Mae Ruben yn gobeithio y bydd rhannu ei brofiad yn helpu eraill a allai fod â'r anhwylder.

Dywedodd Ruben, sydd wedi tynnu gwallt o'i aeliau yn y gorffennol, ei fod arfer gwneud esgusodion am yr hyn oedd wedi digwydd
Dywedodd Ruben, ei fod wedi tynnu'r rhan fwyaf o'r gwallt allan o'i aeliau pan roedd yn teimlo ar ei isaf: "Rwy'n cofio edrych yn y drych a meddwl 'beth ydw i wedi'i wneud?'
"Dechreuais osgoi lluniau ac weithiau roeddwn i'n gwisgo cap i guddio'r mannau oedd yn teneuo."
Os oedd pobl yn ei holi beth oedd wedi digwydd, dywedodd ei fod yn aml yn dweud jôc am gamgymeriad siafio "yn hytrach na chyfadde'r gwir reswm".
Mae gan Ruben dros filiwn o ddilynwyr ar TikTok ac mae'n gobeithio y bydd siarad am ei gyflwr yn dangos i eraill nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.
"Mae'n beth real iawn a dylai pobl ddim teimlo cywilydd amdano.
"Byddwch yn hapus gyda chi'ch hun ac os ydych chi eisiau edrych ar-lein neu gysylltu â rhai elusennau neu hyd yn oed fi, mae croeso i chi."
‘Tynnu fy ngwallt allan’ – byw gyda Trichotillomania
Dywedodd partner Ruben, Amber Phillips, iddi ddod yn ymwybodol o gyflwr Trichotillomania Ruben pan roedden nhw'n gwylio'r teledu.
"Byddwn i'n sylwi ei fod bob amser yn tynnu ei wallt, a byddwn i'n gofyn, 'beth wyt ti'n ei wneud?' ac roedd yn digwydd yn eithaf aml."
Dywedodd fod Ruben yn dweud nad oedd yn gallu stopio ei hun.
Mae Amber yn falch ei fod bellach yn gallu siarad yn gyhoeddus amdano: "Dwi'n credu ei bod hi'n dda iawn bod e'n codi ymwybyddiaeth.
"Rwy'n falch iawn ohono ac mae'n beth dewr iawn i'w wneud, dod allan a siarad am rywbeth chi'n ansicr amdano ac yn ei gadw'n gudd."

Mae'r Athro Clare Mackay wedi ysgrifennu am ei phrofiad hi gyda'r cyflwr
Mae Claire Mackay yn gweithio mewn partneriaeth â'r grŵp cymorth BFRB UK ac Iwerddon ac mae wedi byw gyda Trichotillomania ers 40 o flynyddoedd.
Mae ei llyfr newydd 'Keep Your Hair On, Understanding Urges to Pick, Pull and Bite' yn seiliedig ar ei phrofiad personol a blynyddoedd o ymchwil i ymddygiadau ailadroddus sy'n ymwneud â'r corff.
Dywedodd: "Mae'n ymddygiad arferol i bigo a thynnu a chnoi rhywfaint.
"Ond gall fod yn ddifrifol iawn", ychwanega, "gall pobl dynnu eu holl wallt allan".
"Mae gwahanol bobl yn cael eu sbarduno gan wahanol bethau.
"Yn y bôn, mae'n ymddygiad hunan-leddfu," meddai. Dywedodd ei fod yn gyflwr cronig ond bod modd ei reoli.
"Mae yna therapyddion sy'n cynnig therapïau penodol, ond gall strategaethau hunan-gymorth fod yr un mor effeithiol.
"Un o'r rhai gorau yw dod o hyd i bobl eraill sy'n dioddef o'r un peth."

Mae partner Ruben, Amber, yn dweud ei bod hi wedi dysgu ffyrdd o helpu Ruben i reoli ei gyflwr
Mae Meryl Da Costa-Rohland yn gweithio i TrichStop sy'n trin Trichotillomania.
Dywedodd y gall llawer o dechnegau gwahanol helpu pobl i dorri eu harfer.
"Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod am therapi gwybyddol ymddygiadol (cognitive behavioral therapy) a all helpu i fynd i'r afael â'r meddyliau a'r patrymau sydd gennym o ran tynnu gwallt.
"Mae hefyd Therapi Derbyn ac Ymrwymo neu ACT ar gael - mae hyn yn helpu pobl i wahanu'r ysfa a'r ymddygiad ychydig, ac mae hefyd yn ein helpu i ymateb yn wahanol i'r ysfa honno."
'Doeddwn i ddim yn gallu edrych yn y drych'
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022
Angen mwy o wybodaeth am golli gwallt
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
Creu ffilm 'wrth i golli fy ngwallt ddechrau rheoli fy mywyd'
- Cyhoeddwyd5 Medi 2025
Ychwanegodd Ruben fod tynnu blew o'i wyneb yn boenus "i ddechrau" ond bod ei groen wedi dod "i arfer" dros amser.
Dywedodd fod cael ei aeliau wedi'u microlafnu (microbladed) - techneg tatŵio cosmetig lled-barhaol sy'n eu siapio a'u llenwi - wedi lleihau ei awydd i dynnu gwallt.
Mae'n bwriadu gwneud mwy o fideos am y cyflwr ar ôl cael ymateb cadarnhaol i'w benderfyniad i siarad am ei brofiad.
"Cysylltodd dyn â mi yn dweud diolch yn fawr iawn am hyn, mae wedi rhoi'r hwb i mi gael help gyda fy sefyllfa fy hun."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.