Reform yn herio pleidiau i gyhoeddi costau eu haddewidion

Dan Thomas a Nigel Farage Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan Thomas a Nigel Farage yn ymgyrchu ym Merthyr Tudful ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae Reform wedi herio pleidiau eraill i gyhoeddi faint mae eu haddewidion ar gyfer etholiad y Senedd yn eu costio.

Ond bu'n rhaid i gynrychiolwyr y blaid egluro y byddai'n cyhoeddi ei gostau ei hun - ar ôl i arweinydd y blaid yng Nghymru Dan Thomas ddweud na fydden nhw'n gwneud hynny oni bai bod y pleidiau eraill yn cytuno i esbonio eu symiau.

Roedd arweinydd y blaid ar lefel y DU, Nigel Farage wedi dweud y bydden nhw'n gwneud hynny beth bynnag.

Dyma'r eildro i'r ddau arweinydd - fu'n ymgyrchu gyda'i gilydd ym Merthyr Tudful ddydd Iau - ymddangos fel pe baen nhw ag agweddau gwahanol at y mater ers lansio eu maniffesto ym mis Mawrth.

Nid oes unrhyw blaid arall wedi cyhoeddi, nac wedi addo cyhoeddi, costau llawn.

Bydd pleidleiswyr yn ethol 96 Aelod o'r Senedd ar 7 Mai.

Er bod pleidiau'n aml yn honni bod modd cyflawni eu polisïau a'u bod wedi'u costio, mae rhestrau gwirioneddol o brisiau yn anoddach i'w cael.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Fe wnaeth Reform addo torri 1c oddi ar bob band o dreth incwm pan lansiodd ei faniffesto fis diwethaf.

Ar y pryd, dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) y byddai toriadau treth "yn debygol o olygu bod angen toriadau mewn o leiaf rhai gwasanaethau sy'n cael eu defnyddio gan aelwydydd".

Mae pleidiau wedi cael rhybudd dro ar ôl tro y bydd llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu sefyllfa ariannol wahanol, ac efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd ariannu cynlluniau newydd heb wneud toriadau neu godi arian trwy dreth.

Ym mis Mawrth, dywedodd Dan Thomas y byddai Reform yn cyhoeddi'r costau yn dilyn "trafodaeth fewnol".

Yn gynharach y diwrnod hwnnw roedd wedi dweud na fydden nhw yn eu cyhoeddi, er i Mr Farage addo "rhestr lawn o gostau" mewn cyfweliadau ar wahân.

Roedd yr IFS yn "edrych ar ein gwaith cartref a byddan nhw'n ei farcio allan o 10", meddai.

'Cywilyddio' y pleidiau eraill

Dywedodd Mr Farage ddydd Iau fod Reform yn barod i gyhoeddi "popeth" roedd yr IFS wedi'i anfon yn ôl atyn nhw, "os oedd pleidiau eraill yn barod i wneud yr un peth".

Ond roedd hi'n ymddangos bod ei safbwynt wedi newid wrth i'r cyfweliad barhau, pan ddywedodd y byddai'r costau'n cael eu cyhoeddi waeth beth mae pleidiau eraill yn ei wneud.

Pan ofynnwyd iddo am y diffyg cafeat yn ôl ym mis Mawrth, ychwanegodd: "Hoffem herio'r pleidiau eraill yn gyntaf i gyd-fynd â hynny. Dydw i ddim yn dweud na fyddwn ni."

Mynnodd nad oedd wedi newid ei dôn. "Byddwn ni yn eu cyhoeddi ond rydw i'n mynd i herio'r lleill i'w wneud hefyd," meddai.

Dywedodd Mr Farage y bydden nhw'n "cywilyddio" y pleidiau eraill. "Dydw i ddim yn gweld y newid, ydw i'n colli rhywbeth?"

Mewn cyfweliad diweddarach yn yr un digwyddiad, roedd hi'n ymddangos fod Dan Thomas yn fwy cadarn am beidio cyhoeddi'r ddogfen os nad yw pleidiau eraill yn gwneud hynny.

Dywedodd: "Byddan nhw'n cael eu cyhoeddi, yn amodol ar gytundeb y pleidiau eraill i gyhoeddi eu rhai nhw. Felly rydym yn herio'r arweinwyr eraill i gyhoeddi eu costau."

"Mae'r cafeat yno nawr," meddai, gan gyfaddef eu bod wedi newid eu safbwynt "ychydig".

"Does dim byd o'i le â hynny," meddai, gan ychwanegu nad oedd unrhyw beth yn y dadansoddiad yr IFS oedd wedi eu poeni.

Nigel Farage Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nigel Farage y byddai Reform yn "cywilyddio" pleidiau eraill ar gostau polisi

Ar ôl cyfweliad Mr Thomas, dywedwyd wrth BBC Cymru gan ffynhonnell Reform fod yr arweinydd yng Nghymru wedi gwneud camgymeriad pan ddywedodd fod cyhoeddi costau yn ddibynnol ar bleidiau eraill yn gwneud yr un peth, ac y byddai'r costau'n cael eu cyhoeddi.

Aeth Nigel Farage ar daith gerdded ym Merthyr Tudful fore Iau - y tro cyntaf iddo ymweld â Chymru ers lansio'r maniffesto yng Nghasnewydd ym mis Mawrth.

Fe wnaeth Mr Farage wrthod derbyn bod gan y blaid broblemau ynghylch dewis ymgeiswyr, ar ôl i rai aelodau'r blaid ymddiswyddo neu wrthod cynigion am leoedd ar restrau ymgeiswyr.

Honnodd fod gan y blaid "un broblem gwirio ymgeiswyr - un allan o 96" - gan ymddangos ei fod yn cyfeirio at ymddiswyddiad Corey Edwards wedi i lun ddod i'r amlwg ohono oedd yn edrych fel pe bai'n gwneud saliwt Natsïaidd.

"Mae pobl yn taflu eu hunain i wleidyddiaeth, maen nhw'n uchelgeisiol, maen nhw i gyd yn tybio y byddan nhw'n cyrraedd safleoedd lle gellir ennill, a doedd rhai pobl oedd yn is ar y rhestr ddim yn hoffi eu safle," meddai Mr Farage.

"Dyna fywyd. Dyw hynny ddim yn broblem. Doedden nhw ddim mewn sefyllfaoedd lle y gallan nhw fod wedi ennill."

Honnodd fod gan Blaid Cymru "restr mor hir â'ch braich o ymgeiswyr a ddywedodd bethau sy'n destun embaras neu'n ddrwg iawn".

Llafur a Phlaid Cymru yn cystadlu dros ofal plant

Yn y cyfamser, dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, fod ei phlaid wedi costio cynllun gwerth £100 miliwn yn llawn i ymestyn gofal plant i fabanod naw mis oed a chreu 20,000 o leoedd gofal plant ychwanegol dros dymor nesaf y Senedd.

Dywedodd y bydd arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn helpu i ariannu'r cynlluniau a gwrthododd gynlluniau Plaid Cymru fel rhai "anghyflawnadwy".

Mae Plaid Cymru yn addo'r "cynnig gofal plant mwyaf cynhwysfawr yn y DU" ar gost o £400 miliwn ychwanegol y flwyddyn erbyn 2030-31.

Byddai polisi gofal plant Llafur Cymru yn costio £100m ychwanegol y flwyddyn erbyn diwedd y senedd nesaf, wrth i gynnig gofal plant Dechrau'n Deg gael ei ymestyn i'r rhai rhwng naw mis a thair oed, cyn i'r cynnig gofal plant presennol i blant tair a phedair oed ddod i rym.

Dywedodd Morgan: "Bydd arian ychwanegol yn dod i mewn yn y dyfodol.

"Rydym eisoes wedi clustnodi arian ar gyfer pethau fel cynyddu'r swm o arian y gallwn ei dalu i weithwyr y sector cyhoeddus, ein pobl sy'n gweithio yn y GIG, yr athrawon, y glanhawyr, y casglwyr sbwriel, bydd yr holl bobl hynny'n disgwyl codiad cyflog.

"Nid oes dim o hynny wedi'i gostio yng nghynigion Plaid Cymru, felly byddant yn gweld rhewi cyflogau am flynyddoedd a dychmygwch sut y gallai hynny edrych o ran gweithredu diwydiannol yn y dyfodol."

Mae Llafur yn addo ymestyn y cynnig gofal plant mewn ardaloedd Dechrau'n Deg - sy'n cynnig 12.5 awr o ofal plant yr wythnos i blant dwy oed - i fabanod naw mis oed.

Dywed Plaid Cymru ei bod am gynnig o leiaf 20 awr yr wythnos i bob plentyn rhwng naw mis oed a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn, gan gynnal y cynnig presennol o 30 awr i blant tair i bedair oed y mae eu rhieni mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod Reform yn bygwth "twll du" yng nghyllid Cymru, a dywedodd fod Llafur yn "codi bwganod".

"Mae cynlluniau Plaid Cymru i gyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y DU wedi'u costio'n llawn a byddai'n golygu gofal plant am ddim i bob plentyn naw mis i bedair oed - dim eithriadau a dim gwaharddiadau.

"Mae Llafur wedi gorffen. Plaid Cymru yw'r unig blaid sy'n cynnig newid cadarnhaol yn yr etholiad hwn," ychwanegodd.

Dywedodd Cadan ap Tomos o'r Democratiaid Rhyddfrydol mai "ffantasi yn unig" oedd cynnal gwasanaethau cyhoeddus wrth dorri trethi.

"Rydym wedi bod yn onest iawn gyda phobl ac yn dweud bod ein haddewid allweddol o wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi mwy mewn gofal cymdeithasol i leihau amseroedd aros yn y GIG, cael pobl allan o'r ysbyty, yn ôl i'w cartrefi a'u cymunedau, yn mynd i gostio arian. Os oes angen i ni godi treth incwm i dalu amdano, yna dyna'n bendant yr hyn y byddwn yn ei wneud."

Gwrthododd esbonio sut y byddai'r blaid yn ariannu ei hehangu mewn gofal plant - mae'r blaid yn addo 30 awr yr wythnos o naw mis oed i bedair oed am 48 wythnos y flwyddyn.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi amcangyfrif y byddai hyn yn costio £600m.

"Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni edrych arno pan fyddwn yn cyrraedd y sefyllfa os ydym yn dylanwadu ar lywodraeth nesaf Cymru, pan fyddem yn gallu... gweld pa gyflwr y mae'r cyllidebau ynddynt," meddai.

Roedd canghellor cysgodol y Ceidwadwyr, Mel Stride, yn ymgyrchu yn Llandudno, Conwy, ddydd Iau.

"Ni yw'r unig blaid yno sydd â chynllun da, clir a chadarn ar gyfer adfywio Cymru," meddai. "Rydym wedi cael 27 mlynedd o lywodraeth Lafur aflwyddiannus yma, mae gennym eraill allan yna, yn enwedig Reform, gyda phob math o syniadau ffantasi ynghylch yr hyn y maent yn mynd i'w gyflawni a dim cynllun i gefnogi hynny mewn gwirionedd."

Gwrthododd ateb a fyddai'r Torïaid yn cefnogi Reform i arwain llywodraeth nesaf Cymru.

Dywedodd: "Wel, dydw i ddim am gael fy nenu i mewn i hynny. Yr hyn rwyf yma i siarad amdano yw ein bod yn ymladd dros bob pleidlais."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now