Yr Eglwys yng Nghymru i fendithio priodasau un rhyw yn barhaol

- Cyhoeddwyd
Mae corff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi cymeradwyo ymgorffori bendith i briodasau a phartneriaethau sifil o'r un rhyw yn barhaol.
Daw hynny yn dilyn mesur dros dro gafodd ei gyflwyno yn 2021, oedd yn caniatáu bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cwpl o'r un rhyw mewn seremoni eglwysig.
Fe wnaeth sawl ffigwr blaenllaw o fewn yr Eglwys yng Nghymru, gan gynnwys esgobion Llanelwy a Llandaf, ddatgan eu cefnogaeth i'r mesur cyn iddo gael ei basio.
Bydd offeiriaid unigol dal yn gallu dewis peidio cynnig y fendith i gyplau o'r un rhyw os ydyn nhw'n dymuno.
Does gan Yr Eglwys yng Nghymru ddim darpariaeth i briodi cyplau o'r un rhyw.
Ond ym mis Tachwedd 2025 cyhoeddodd Esgobion yr Eglwys lythyr bugeiliol yn nodi bod y broses wedi dangos mwyafrif "o blaid y farn mai dyma'r amser iawn i gynnig priodas gyfartal".
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru y bydd "cynigion pellach yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill 2027 i ganiatáu i gyfraith y wladwriaeth a'r Eglwys gael eu newid i ganiatáu priodas gyfartal yn yr Eglwys yng Nghymru".
'Cam tuag at edifeirwch'
Ym mis Medi 2021 mewn pleidlais hanesyddol, fe wnaeth corff llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru gefnogi caniatáu bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cyplau un rhyw mewn gwasanaeth eglwysig, ond am gyfnod arbrofol.
Ar y pryd dywedodd y sefydliad bod y penderfyniad "yn gam tuag at edifeirwch yn sgil hanes o fewn yr Eglwys sydd wedi cythreulio ac erlid pobl hoyw a lesbiaidd".
Mae'r cyfnod arbrofol o bum mlynedd yn dod i ben ddiwedd 2026.
Yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal cyfarfodydd i drafod priodas un rhyw
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2025
Yr Eglwys yng Nghymru i fendithio cyplau un rhyw
- Cyhoeddwyd6 Medi 2021
Mae'r corff llywodraethol yn cynnwys 143 o aelodau sydd wedi eu rhannu yn dair urdd - esgobion, clerigwyr ac aelodau lleyg.
Mewn pleidlais o gorff llywodraethol yr eglwys yn Venue Cymru Llandudno ddydd Iau, fe wnaeth yr aelodau bleidleisio'n gryf o blaid ymgorffori'r fendith yn barhaol.
Er mwyn pasio, roedd angen mwyafrif o ddau draean gan bob un o'r tair Urdd - esgobion, clerigwyr ac aelodau lleyg.
Fe bleidleisiodd aelodau lleyg o 48 i 8 o blaid (gyda dau yn atal eu pleidlais), gyda chlerigwyr yn pleidleisio o 32 i 7 (gyda phump yn atal eu pleidlais).
Fe wnaeth y pum esgob bleidleisio o blaid, a chadarnhau fod y mesur wedi pasio.
Bydd nawr angen ymgorffori gwasanaeth bendithio awdurdodedig ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil o'r un rhyw yn y Llyfr Gweddi Gyffredin.
'Niwed yn cael ei achosi o wrthod pobl hoyw'
Yn ystod trafodaeth ar y mesur ddydd Mercher, roedd esgobion Llanelwy a Llandaf, Gregory Cameron a Mary Stallard, ymhlith y rheiny wnaeth ddatgan eu cefnogaeth.
Dywedodd yr Esgob Gregory ei fod wedi gweld y "niwed sy'n gallu cael ei achosi o wrthod pobl hoyw yn yr eglwys".
Ychwanegodd yr Esgob Mary ei bod hi'n 'nabod rhywun agos iddi gafodd "eu hel i rywle tywyll iawn oherwydd agweddau tuag at eu rhywioldeb", a bod Yr Eglwys yng Nghymru wedi gwneud "rhywbeth da a phrydferth" wrth ganiatáu'r fendith yn y lle cyntaf.
Dywedodd y Parchedig Rhun ap Robert o esgobaeth Bangor fod Iesu ei hun "erioed wedi siarad yn erbyn perthnasoedd o'r un rhyw", ac mai'r hyn oedd yn bwysig oedd "ansawdd y berthynas".
Ond roedd eraill yn gwrthwynebu, gan gynnwys Andy Grimwood, diacon yn esgobaeth Llanelwy, ddywedodd y byddai hyn yn amlygu rhwygiadau o fewn yr eglwys a golygu bod mwy o aelodau'n gadael.
Ychwanegodd y Parchedig Melanie Prince o esgobaeth Tyddewi ei bod hi wedi bod yn siarad ag aelodau o'r Eglwys Anglicanaidd yn Nigeria ynglŷn â sut allen nhw helpu Cristnogion yn rhan yna'r byd.
"Peidiwch gwanhau'r Ysgrythur dan ni'n marw drosto," oedd yr ymateb.
Dywedodd Julia Schulz, aelod lleyg o esgobaeth Bangor, bod y fendith eisoes "yn edrych fel gwasanaeth priodas mewn popeth ond enw", a bod angen cofio beth oedd y Beibl yn ei ddweud am briodasau ac undod rhwng dyn a dynes.
'Dylai'r Eglwys allu derbyn gwahaniaethau barn' - Archesgob Cymru
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2025
Archesgob Cymru: Rhai wedi gadael yr Eglwys oherwydd fy rhywioldeb
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2025
Mae'r penderfyniad ddydd Iau yn amlygu gwahaniaeth rhwng yr Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys yn Lloegr, ble nad oes bendith gyfatebol.
Mae rhai wedi'i weld fel awgrym posibl ynghylch a allai'r Eglwys yng Nghymru ganiatáu priodasau o'r un rhyw yn y dyfodol.
Ym mis Gorffennaf 2025, daeth Cherry Vann yn Archesgob benywaidd ac Archesgob LHDT+ cyntaf Cymru.
Dywedodd ei bod am i'r Eglwys yng Nghymru gynrychioli'r "amrywiaeth o amgylch y byd ac yn ein cymunedau", ond cafodd y penderfyniad i'w hethol ei feirniadu gan grŵp o Anglicaniaid ceidwadol, a ddisgrifiodd ei phenodiad fel "hoelen boenus arall yn arch uniongrededd Anglicanaidd".
Wedi'r bleidlais dywedodd y Parchedicaf Cherry Vann, Archesgob Cymru ei bod yn "diolch i bawb am y modd y cynhaliwyd y ddadl hon - yn bwyllog, a chyda pharch i'r ddwy ochr".
"Mae Mainc yr Esgobion a minnau'n cydnabod bod hwn yn fater y mae pobl yn dal argyhoeddiadau cryf yn ei gylch.
"Rydym am i bawb allu goleddu eu barn gyda gonestrwydd heb golli golwg ar ddelwedd Duw sy'n trigo ym mhob un ohonom.
"Rydym am adeiladu eglwys a all wneud lle i'n gilydd beth bynnag fo'n safbwyntiau gwahanol."
Safbwynt enwadau crefyddol eraill
O ran yr enwadau eraill, mae'r Undodiaid wedi cefnogi cydraddoldeb llwyr i bobl LHDTC+ ers 1970, a chapel Undodaidd ym Manceinion oedd y man addoli cyntaf i gofrestru fel lle i gynnal partneriaethau sifil.
I'r Bedyddwyr ac Annibynwyr, mater i bob eglwys unigol yw cynnal priodas neu wasanaeth bendithio, ac mae amrywiaeth barn rhwng gwahanol gynulleidfaoedd ar y mater.
Bu trafodaeth ar y mater o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru dros ddegawd yn ôl, ond penderfynu glynu at y traddodiad o briodas heterorywiol yn unig wnaed bryd hynny.
Mae ei chwaer eglwys, y Methodistiaid (Wesleaidd), yn priodi cyplau un rhyw ers 2014, ond gyda chymal cydwybod i weinidog a fyddai yn gwrthod dilysrwydd y gwasanaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.