Trigolion Caerdydd i gael wythfed bag i wella lefelau ailgylchu

Mae sachau ailgylchu wedi cael eu defnyddio i wahanu gwastraff yng Nghaerdydd ers 2022
- Cyhoeddwyd
Bydd disgwyl i drigolion Caerdydd ddefnyddio bag gwastraff ychwanegol wrth i'r cyngor geisio cynyddu ei gyfradd ailgylchu.
Daw wedi i gabinet y ddinas cytuno i gasgliad pwrpasol ar gyfer plastigau meddal.
Mae'r rhain yn cynnwys plastigau ysgafn a mwy bregus fel clingfilm, bagiau bara a phecynnau creision.
Mae ffigyrau'n dangos bod y ddinas wedi llwyddo i gynyddu ei chyfradd ailgylchu 4% i 64% y llynedd, ond mae hyn yn dal yn is na'r targed o 70%.
Mae'r farn ymysg trigolion am y newid yn gymysg, gydag un person yn dweud bod "bagiau sbwriel ddim yn edrych yn neis iawn, ond mae'n bwysicach bod pobl yn ailgylchu".
Sut fydd y cynllun newydd yn gweithio?
Bydd trigolion yn derbyn rholiau o fagiau 30 litr pwrpasol ar gyfer storio plastigau meddal sy'n lân a sych, ac yna bydd gofyn iddyn nhw roi'r bagiau yn y sachau coch presennol ar gyfer eu casglu ar ochr y ffordd.
Mae'r cyngor yn credu y dylai'r system newydd wneud pethau'n symlach i drigolion, heb orlwytho cynllun ailgylchu presennol y ddinas.
Ni fydd disgwyl i fflatiau sy'n defnyddio biniau cymunedol dilyn y system newydd.
Mae'r cyngor yn bwriadu treialu dull gwahanol ar gyfer casglu plastigau meddal o'r adeiladau hynny.
Bydd y cyngor hefyd yn addasu'r casgliad ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol, fel cewynnau.
Pori drwy'r biniau wrth i Gymru geisio arwain ar ailgylchu
- Cyhoeddwyd20 Medi 2025
Bydd y casgliad yn cael ei newid o ddwywaith yr wythnos i unwaith yr wythnos ym mis Ebrill 2026.
Bydd y newid yn cael ei gyflwyno'r haf hwn, cyn i ofyniad cenedlaethol statudol ddod i rym ym mis Ebrill 2027.
Mae ailgylchu plastigau meddal eisoes ar waith mewn rhai ardaloedd ym Mro Morgannwg, ac o 13 Ebrill bydd pob cartref yn y sir yn cael casgliadau plastigau meddal.
Daw hynny'n dilyn cynllun prawf llwyddiannus gyda mwy na 16,000 o gartrefi yn ardaloedd Penarth, Dinas Powys, Sili a Llandochau.
Mae disgwyl i gasgliadau plastig meddal gael effaith sylweddol ar berfformiad ailgylchu Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr aelod cabinet dros wastraff: "Mae plastigau meddal yn cynrychioli cyfran sylweddol o wastraff dros ben Caerdydd.
"Bydd hyn yn helpu Caerdydd i gyflawni gofyniad statudol Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o wastraff."
Dyma'r wyth math o wastraff mae gofyn i drigolion Caerdydd ailgylchu dan y cynllun newydd:
Papur a chardfwrdd
Eitemau plastig a chaniau
Bwyd
Gwydr
Gwastraff gardd
Gwastraff cyffredinol
Cewynnau
Plastig meddal
Beth yw barn trigolion?
Cymysg yw'r farn ymysg rhai o drigolion Caerdydd am y bagiau ailgylchu newydd.
Mae Andrew yn credu bod ganddyn nhw ddigon o fagiau ailgylchu yn barod, ond mae'n dweud y bydd yn defnyddio'r rhai newydd.
"Dydw i ddim yn gwrthwynebu'r peth, ond mae cymaint o fagiau ailgylchu nawr," meddai.
Doedd Sandra, 27, ddim yn ymwybodol o'r newid, ond mae'n credu na allai ddod yn ddigon buan.
Dywedodd: "Dydy bagiau sbwriel ddim yn edrych yn neis iawn, ond mae'n bwysicach bod pobl yn ailgylchu.
"Y mwyaf o ailgylchu y gallwn ni wneud, y gorau."

Mae Andrew yn credu bod gan y ddinas digon o fagiau ailgylchu yn barod, ond mae'n dal yn bwriadu defnyddio'r bagiau newydd
Mae Ellie, 34, yn teimlo'n niwtral ynglŷn â'r newid.
Dywedodd: "Dydw i ddim yn poeni am fagiau newydd mewn gwirionedd.
"Mae'n amlwg yn bwysig ein bod ni'n ailgylchu ond fi'n gobeithio y bydd yr eitemau yn cael eu hailgylchu go iawn."
Mae Vin a Rhys yn credu y dylai'r arian sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r bagiau ailgylchu newydd gael ei ddefnyddio i wella'r canolfannau ailgylchu.
Dywedon nhw: "Byddai'n creu mwy o swyddi a byddai gwastraff yn cael ei ddidoli'n iawn."
Dywedodd Rhys ei fod wedi gweld y lorïau bin yn cymysgu'r gwastraff ar ôl i drigolion gwahanu nhw, felly mae'n teimlo fel pe bai'n ddibwrpas cael bag arall.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.