Y Cymry'n 'troi trwynau' ar bobl busnes, yn ôl entrepreneur o'r Bala

Mae perchennog Celtic Property Group Rhys Jones yn dod o'r Bala yn wreiddiol ond bellach yn rhannu ei amser rhwng Gwlad Pwyl a Norwy
- Cyhoeddwyd
Mae datblygwr eiddo o'r Bala sydd efo 12,000 o denantiaid ar draws Ewrop yn dweud bod y Cymry yn troi eu trwynau ar bobl busnes.
Dywedodd Rhys Jones, sy'n wreiddiol o ardal Sarnau ond bellach yn rhannu ei amser rhwng Norwy a Gwlad Pwyl, fod meysydd eraill yn cael eu hannog fwy nag entrepreneuriaeth.
Er ei fod yn falch iawn o fod yn Gymro a'i blant yn deall Cymraeg mae wedi siomi gyda'r agwedd tuag at fusnes yn y wlad.
Annog canu ac actio
"I fod yn blwmp ag yn blaen dwi'n meddwl bod ni fel Cymry ddim yn rili licio pobl sy'n gwneud busnes - mae dyn busnes efo connotations budur iawn yng Nghymru," meddai ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.
"'Da ni'n annog lot o bobl i wneud pethau gwahanol fel canu, actio, a dwi'n meddwl bod o'n wych y gwaith mae'r Urdd yn neud er enghraifft, ond yn aml iawn os mae rhywun yn neud busnes, mae pawb yn tueddu i droi trwyn yma yng Nghymru."
Fe gafodd Mr Jones ei fagu ar fferm fechan yn Sarnau, tu allan i'r Bala, cyn mynd i astudio yn Llundain.
Wedi cyfnod yn gweithio i gwmnïau ym Mhrydain a dwyrain Ewrop, fe sefydlodd gwmni ei hun yn Warsaw, Gwlad Pwyl, ar ddiwedd yr 1990au.
Mae o bellach yn gydberchennog cwmni Celtic Property Group sydd yn datblygu a rhentu fflatiau, warysau a swyddfeydd yn nwyrain Ewrop. Mae gan y cwmni hefyd eiddo hamdden a fferm olewydd bychan yn yr Eidal.
Hapus yn byw yn Ewrop
Gyda'i waith ar gyfandir Ewrop, ei wraig yn gweithio fel llawfeddyg yn Oslo a'r teulu wedi setlo yn Norwy mae'n dweud nad oedd yn opsiwn realistig iddo fyw yng Nghymru.
Roedd wedi bwriadu symud nôl flynyddoedd yn ôl ond wnaeth hynny ddim digwydd am nifer o resymau.
Fe wnaeth o hefyd ystyried prynu les stad Efyrnwy yn 2011.
"Mae Cymru yn ofnadwy o agos i'n nghalon i a wnaethon ni drio brynu un adeilad yng Nghaerdydd - swyddfeydd," meddai.
"Ond ddaru'r deal ddisgyn ffwrdd a ddaru ni ddim neud hi, wedyn priodi a ballu ac roedd hi'n ddigon cymhleth mod i'n mynd yn ôl a 'mlaen rhwng Warsaw ag Oslo bob wythnos, ac wedyn ers hynny, na dim llawer o siawns a dweud gwir.
"A syth mae'r hen blant yn cael eu geni mae rhywun yn tueddu i symud ar ôl y wraig a'r plant, felly dwi wedi bod lot mwy yn America na dwi wedi bod ym Mhrydain ers i fi symud ffwrdd."
Ychwanegodd ei fod hefyd yn hapus yn byw ar gyfandir Ewrop a bod yn well ganddo'r agwedd yno tuag at entrepreneuriaid na'r farn negyddol mae o wedi ei weld yng Nghymru.
Meddai: "O'n i ddim yn licio'r argraff yna ar fusnes.
"Dwi'n meddwl bod o'n ofnadwy o bwysig mewn cymdeithas i gael busnes ac i gymdeithas gael busnes sy'n lleol ac sy'n edrych ar ôl y cymdeithasau o'u cwmpas nhw.
"Dwi wedi bod yn reit hapus yng Ngwlad Pwyl ac yn andros o hapus yn gwneud pethau gwahanol mewn llefydd dwl rownd Ewrop a 'rioed wedi cael yr awch i fynd yn ôl adra."
Gallwch wrando ar gyfweliad Rhys Jones gyda Beti George am 18:00 ar 29 Mawrth ac ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror

- Cyhoeddwyd18 Mai 2025
