Mae gan y Cymry 'broblem' gyda delio â methiant, yn ôl gŵr busnes

Geraint HughesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Hughes wnaeth sefydlu brand Jones Crisps

  • Cyhoeddwyd

Mae angen i'r Cymry ddysgu o fethiant a'i weld fel rhan o fentro, yn ôl un gŵr busnes.

Dywedodd Geraint Hughes, sydd wedi bod yn gweithio yn y diwydiant bwyd a maeth ers dau ddegawd, fod gan Gymru "broblem" gyda methiant.

Er ei fod o wedi methu yn y gorffennol a cholli arian, meddai, mae'n ei weld fel rhan bwysig o ddysgu ar gyfer y dyfodol.

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd fod "methu'n rhan o fentro" a bod "gennym ni broblem yng Nghymru, bosib ym Mhrydain, efo'r term methu. Mae o mor negyddol".

Colli 'swm anferthol' o arian

Geraint Hughes ydi perchennog cwmni Jones Crisps a chadeirydd cwmni ymgynghori Lafan.

Fo ydi'r unig un yng Nghymru hyd yma i ddal trwydded y Swyddfa Gartref i dyfu canabis ac mae o wedi plannu'r llannerch olewydd (olive grove) mwyaf gogleddol yn Ewrop.

Roedd o'n arfer rhedeg siop fwyd ym Mhwllheli - busnes, meddai, wnaeth fethu oherwydd sawl camgymeriad ganddo wnaeth arwain at golli swm o arian fyddai "rhai yn ei alw yn anferthol".

"Dwi'm yn teimlo'n chwerw o gwbl am hynny. I mi mae o jyst yn rhan o'r broses o ddysgu a bwrw ymlaen," meddai.

"Dwi'n meddwl 'mod i'n eitha' ymwybodol o risg ond dwi wedi trio sefydlu pethau fel os ydy pethau'n mynd i lawr, mond fi sy'n mynd lawr."

Ychwanegodd ei fod o, fel "y rhan fwyaf o bobl busnes", wedi bod yn agos iawn at fod yn fethdalwr.

"Dwi wedi bod yn lot rhy agos i hynny yn y blynyddoedd cyntaf, ond yn ffodus, fel cwmni bach 'da chi'n gallu symud yn sydyn a newid ac addasu a 'da chi'n dysgu o hynny a symud ymlaen."

Fe wnaeth y gŵr busnes, gafodd ei fagu ar fferm ym Mhen Llŷn, astudio coed amaeth ym Mhrifysgol Bangor ac enillodd ysgoloriaeth Nuffield.

Fel rhan o'i ymchwil fe dreuliodd gyfnod yn yr UDA lle gwelodd agwedd hollol wahanol at fethiant.

Methiant yn rhan o ddysgu

"Pan o'n i'n America os oedda chi'n rhannu stori methiant fasa chi'n cael eich addoli - efallai fod o bach gormod i'r pegwn arall yn y fan yna.

"Ond heb eithriad bron tasa chi'n siarad efo rhywun sydd yn ymddangos wedi llwyddo mewn busnes, mae o ei hun wedi cael sawl sialens a methiant ar hyd y daith.

"Mae methiant yn rhan o'r broses o ddysgu. Mae gen i blant ifanc ac maen nhw'n methu mewn rhywbeth bob dydd ac maen nhw jyst yn bwrw 'mlaen.

"Dysgu allan ohono fo a dyna sydd rhaid i chi wneud mewn byd masnachol."

Fe fydd Geraint Hughes yn cael ei holi ar Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 dydd Sul, 8 Chwefror ac ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now