Angen 'newid sylfaenol' yn niwylliant Cyngor Gwynedd wedi troseddau Foden

Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyfarfod arbennig ddydd Iau yn gyfle i aelodau ystyried ymateb y cyngor i droseddau Neil Foden

GanGareth Wyn Williams
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cyfarfod arbennig o Gyngor Gwynedd wedi clywed bod angen newid sylfaenol yn niwylliant y cyngor os am osgoi mwy o achosion fel un Neil Foden.

Dyna oedd barn mwy nag un aelod wrth i gynghorwyr graffu cynllun ymateb yr awdurdod yn sgil troseddau cyn-bennaeth Ysgol Friars ym Mangor.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024 am gam-drin pedair merch yn rhywiol rhwng 2019 a 2023.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys eu bod "ar siwrnai" ond mai'r uchelgais oedd i "ragori ym maes diogelu ein plant".

Daeth adolygiad Ymarfer Plant - a gafodd ei gyhoeddi y llynedd - i'r casgliad bod awdurdodau wedi colli 52 o gyfleoedd i atal Foden dros nifer o flynyddoedd.

Gan ddisgrifio Foden fel "pedoffeil soffistigedig" a "greodd ddiwylliant oedd yn galluogi iddo droseddu yn gwbl agored", fe wnaeth yr adolygiad hefyd ddarganfod "gwendidau mawr" o fewn y trefniadau diogelu "o fewn yr ysgol, ymhlith y llywodraethwyr ac o fewn yr awdurdod lleol".

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi lansio cynllun ymateb ers mis Ionawr 2025.

Roedd y cyfarfod arbennig ddydd Iau yn gyfle i'r holl gynghorwyr graffu'r gwaith hyd yma - gyda'r ddogfen yn cael ei ddisgrifio fel "cynllun byw" gan fod canfyddiadau'r adolygiad bellach yn hysbys.

Ond er i'r aelodau bleidleisio bron yn unfrydol o blaid derbyn yr adroddiad a'r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma, roedd rhybudd gan rai bod angen newid diwylliant mewnol y cyngor os am weld llwyddiant ar lawr gwlad.

Roedd galwadau parhaus hefyd am ymchwiliad cyhoeddus llawn i droseddau Foden.

Yn ymateb i'r galwadau hynny dywedodd Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth yr Adolygiad Ymarfer Plant estynedig nifer o argymhellion ledled Cymru, ond nid yw'n argymell cynnal ymchwiliad pellach.

"Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau'r newid sydd ei angen, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r argymhellion yn yr adroddiad.

"Rydym yn cydnabod bod pryderon cryf a pharhaus ymhlith aelodau'r cyhoedd mewn perthynas â throseddau Foden.

"Dyna pam rydym yn canolbwyntio ar weithredu'r argymhellion a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na all achos fel hwn ddigwydd eto."

'Beth fydda'n digwydd yn wahanol heddiw?'

Dywedodd y cynghorydd Cai Larsen, cadeirydd pwyllgor craffu addysg ac economi'r awdurdod: "Os ydan ni'n dweud bod y diwylliant wedi newid, rhaid i ni allu ateb y cwestiwn yn onest... beth fydda'n digwydd yn wahanol heddiw pe bai'r un pryderon yn cael eu codi?

"A fyddai'r staff yn teimlo'n ddiogel i herio? A fyddai arweinwyr yn barod i wrando? Nid dim ond nodi, ond gweithredu.

"A fyddai penderfyniadau yn cael eu gwneud yn gynt, yn gadarnach ac yn syrthio ar ochr diogelu bob tro? Hyd yn oed pan mae hynny'n anodd ac yn gwneud rhywun yn amhoblogaidd.

"Gellir ysgrifennu cynllun ymateb da, ond methu newid diwylliant."

Dyn yn cerdded allan o ddrws fan tuag at ddrws llys. Ochr ei ben sydd i'w gweld, gyda'i glust dde yn wynebu'r camera. Mae'n gwisgo siaced glas.Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu yn 2024

Fe ddaeth cwestiynau hefyd dros benderfyniad yr awdurdod yn 2021 i wneud Foden yn bennaeth strategol ar Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.

Gan gyfeirio at Foden yn cael ei ganfod yn euog gan gyngor gweithlu addysg o fwlio aelod o staff yn 2020, dywedodd y cynghorydd Peter Thomas: "Heb sôn am y sibrydion am ei ymddygiad gyda phlant Ysgol Friars... sut ar wyneb y ddaear wnaeth adran addysg Cyngor Gwynedd ddod i'r penderfyniad mai hwn oedd y person gorau i ddod i Ysgol Dyffryn Nantlle?"

Mewn ymateb dywedodd prif weithredwr y cyngor, Dafydd Gibbard: "Yn amlwg doedd hyn ddim y penderfyniad cywir ac mae'r adroddiad yn gwneud yn glir bod cyfle wedi ei golli yn sicr."

Pennaeth newydd i ddod â 'sefydlogrwydd' i Ysgol Friars

Yn y cyfamser, daeth cadarnhad ddydd Iau bod pennaeth newydd parhaol bellach wedi ei phenodi yn Ysgol Friars.

Mae Margaret Davies wedi bod yn gweithio ar secondiad fel pennaeth dros dro ers tymor y Pasg y llynedd.

Dywedodd y cyngor y byddai'n dod â "sefydlogrwydd a chyfeiriad newydd cadarnhaol i'r ysgol".

Nia Jeffreys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nia Jeffreys ei bod yn hyderus fod y cyngor "wedi cymryd cam arall ar y daith i ddysgu gwersi ac i weithredu"

Yn dilyn y cyfarfod dywedodd arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys, mai "geiriau gwag ydi ymddiheuro i'r goroeswyr os nad ydym o ddifri am weithredu".

"Mae'r dioddefwyr ar flaen fy meddwl a dwi'n ymddiheuro'n ddiffuant i bawb gafodd eu heffeithio gan y troseddau erchyll hyn," meddai.

"Yn syml, nid yw'n ddigon da na chafodd eu lleisiau eu clywed.

"Mae Cyngor Gwynedd ar siwrnai – o fethiant tuag at ein huchelgais o fod yn rhagori ym maes diogelu ein plant."

Ychwanegodd Ms Jeffreys: "Ni fydd methiannau o'r math a amlygir yn yr adolygiad yn digwydd eto.

"Trwy weithio gyda'n gilydd – gyda phawb yn rhwyfo i'r un cyfeiriad – gallwn wneud cynnydd gwirioneddol ac amserol yn y maes hanfodol bwysig yma.

"Ni all unrhyw adran, plaid nag unigolyn gyflawni newid ar eu pennau eu hunain, mae'n rhaid gweithio gyda'n gilydd ar draws ffiniau er mwyn sicrhau dyfodol diogel i blant a phobl ifanc y sir.

"Dwi'n ffyddiog fod y cyngor heddiw wedi cymryd cam arall ar y daith i ddysgu gwersi ac i weithredu er mwyn sicrhau fod trefniadau diogelu plant y sir yn hollol gadarn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Trending Now