Pryderon am gynllun i godi mwy o dai mewn pentref yng Ngheredigion

Llun o arwydd Llanilar wrth fynd fewn i'r pentref
Disgrifiad o’r llun,

Mae tri gwahanol gynllun posib i adeiladu mwy o dai yn Llanilar

GanMari Grug
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'n bosib bydd 33 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu ym mhentref Llanilar, pe bai cais cynllunio yn cael ei gymeradwyo gan Gyngor Ceredigion.

Mae gwrthwynebiad cryf wedi bod i'r cynllun, gydag ymgyrchwyr yn dweud nad oes capasiti o fewn isadeiledd y pentref i ddelio gyda thri gwahanol gynllun posib i adeiladu tai.

Mae ystâd Dol Meillion yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd, sydd yn ddatblygiad 44 eiddo.

Mae caniatâd amlinellol arall ar gynllun i adeiladu 84 eiddo yng nghanol y pentref, yn ogystal â'r cynllun 33 tŷ sydd yn mynd gerbron Cyngor Ceredigion ar hyn o bryd.

Yn ôl y datblygwr, mae'r cais yma yn ceisio "ymateb yn uniongyrchol i'r angen lleol a gofnodwyd, trwy ddarparu cartrefi sydd yn wirioneddol fforddiadwy".

Llun o gae gwyrdd lle all 33 o dai gael eu hadeiladu yn Llanilar
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r safle allai weld 33 o dai yn cael eu hadeiladu ar dir Fferm Tanrallt yn Llanilar

Yn eu cais cynllunio, mae cwmni Tair Chwaer Cyf yn cynnig adeiladu cyfanswm o 33 o dai newydd, pob un yn dai fforddiadwy, ar dir Fferm Tanrallt.

Mae'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y datblygiad - gan gymdeithas dai Barcud - er mwyn adeiladu 11 cartref un ystafell wely, 15 tŷ dwy ystafell wely, pum cartref tair ystafell wely, a dau dŷ mwy â phedair ystafell wely.

Yn ôl dogfennau cynllunio, byddai'r safle'n cael ei ddatblygu er mwyn "darparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel, wedi'u dylunio'n dda ac sy'n apelio'n weledol, i wasanaethu cymuned Llanilar a'r ardaloedd cyfagos".

Melanie Cargill
Disgrifiad o’r llun,

Mae Melanie Cargill yn dweud fod y "datblygiad yma yn y lle anghywir"

Mae Melanie Cargill yn byw yn Llanilar ac yn dweud bod bwrw 'mlaen gyda'r datblygiad yn golygu adeiladu y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol (LDP).

"Mae'n bwysig nodi nad yw'r gymuned yn erbyn datblygu tai fforddiadwy, ond mae Llanilar wedi gweld twf sylweddol ac mae 'na fwy i ddod," meddai.

"Mae'r datblygiad yma yn y lle anghywir, ac o'r maint anghywir.

"Mae 65 o dai wedi cael eu hadeiladu yn barod, gyda safle arall o fewn yr LDP sydd â chaniatâd amlinellol i adeiladu 84 o dai.

"Os ydyn nhw'n cario 'mlaen gyda datblygiad Tanrallt hefyd, bydd Llanilar dros yr housing allocation o 30%.

"Mae hwnna'n dwf sydd heb ei gynllunio, sydd yn anghynaladwy ac yn anghyfiawn.

"Mi fyddai'n mynd yn erbyn pob polisi cynllunio, a ni'n gwybod na fydd gwasanaethau lleol yn gallu ymdopi gyda'r twf yma."

Nerys Owen
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Nerys Owen, byddai'r datblygiad yn cael effaith ar fusnes fel cartref preswyl Cysgod y Coed

Mae Nerys Owen yn berchennog ar gartref preswyl yn Llanilar.

Mae'n dweud bod "yr ardd yn rhan bwysig o fywyd dyddiol" y preswylwyr sy'n byw yno, ac mae hi felly yn bryderus am y sŵn fyddai'n dod o'r datblygiad yn ystod y cyfnod adeiladu, ac wedi hynny.

"Mae'n mynd i gael effaith ar fusnes fel Cysgod y Coed," meddai.

"Mae 15 o breswylwyr yma, i gyd yn dod o Geredigion.

"Os na alla i gynnig yr ardd i bobl ddod i fyw yma, mae'n mynd i gael effaith fawr ar y preswylwyr - nifer sydd yn byw gyda dementia.

"Mae'n bwysig bod pobl oedrannus yn cael cyfle i gael llonyddwch, tawelwch ac awyr iach.

"Dwi'n 'nabod fy musnes i. Dwi ddim yn gwybod llawer am gynllunio ond dwi'n gwybod beth yw rhedeg cartref preswyl.

"Dwi'n gwybod fydd y sŵn yn cael niwed difrifol ar bobl yma sydd yn byw gyda dementia.

"Dwi'n teimlo yn gryf, os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, y bydd 'na ofid mawr y bydd drysau y cartref yma yn cau."

Llun o du allan i adeilad cartref preswyl Cysgod y Coed
Disgrifiad o’r llun,

Mae preswylwyr cartref Cysgod y Coed "angen llonyddwch", medd y perchennog

Dywedodd elusen flaenllaw y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) bod angen gweledigaeth strategol yng Nghymru er mwyn datblygu tai ar y raddfa a'r cyflymder sydd ei angen.

Yn ôl Matt Dicks, cyfarwyddwr cenedlaethol CIH Cymru: "Mae angen sgwrs genedlaethol o gwmpas y stigma sy'n gysylltiedig â thai cymdeithasol a fforddiadwy.

"Un o'r rhwystrau mwyaf i ganiatâd cynllunio yw ymateb lleol i dai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu."

Ychwanegodd Mr Dicks fod "tua thri chwarter o bobl yn cefnogi cyfraith i roi yr hawl i dai digonol i bawb, ond pan ofynnwch chi a ddylai'r tai hynny gael eu hadeiladu yn agos atoch chi, mae'r ffigwr hwnnw'n gostwng yn sylweddol".

"Mae gan y mwyafrif helaeth o bobl sydd wedi byw mewn tai cymdeithasol brofiad positif iawn.

"Dim mynd i'r afael â manion sydd ei angen, ond dod â'r cyfan ynghyd mewn strategaeth – a chael gweledigaeth strategol.

"Mae angen asiantaeth ddatblygu sydd hyd braich o'r llywodraeth yng Nghymru, yn debyg i'r hyn sydd ganddyn nhw yn Lloegr, sy'n dod â darnau o dir strategol at ei gilydd er mwyn gyrru y graddfa a'r cyflymder o ddatblygiadau sydd ei angen."

Llun cae gwyrdd yn Llanilar
Disgrifiad o’r llun,

Y safle allai gael ei ddatblygu yn Llanilar

Mae'r cais cynllunio wedi ei gyflwyno gan Sion Jenkins o Tair Chwaer Cyf, ddywedodd: "Mae sir Ceredigion yn wynebu argyfwng tai sydd wedi ei ddogfennu yn gyson, gyda dros 4,000 o gartrefi ar gofrestr tai Cyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd.

"Mae llawer ohonynt o fewn cymunedau gwledig fel hyn yn Llanilar.

"Mae'r cais hwn yn ceisio ymateb yn uniongyrchol i'r angen lleol a gofnodwyd, trwy ddarparu cartrefi sydd yn wirioneddol fforddiadwy i bobl leol, ac mae'n cael ei gydnabod bod llawer yn cefnogi cynlluniau o'r fath oherwydd y rôl y maent yn ei chwarae yn y broses o gydnabod yr anghenion tai lleol.

"Un buddiant allweddol o ddarparu tai lleol a fforddiadwy yw y gall roi blaenoriaeth i bobl sy'n byw ac yn gweithio o fewn cymunedau gwledig.

"Mae hyn yn helpu i gwrdd ag anghenion tai a nodwyd, tra hefyd yn cefnogi'r iaith Gymraeg a'r gwead cymdeithasol a diwylliannol yn ein pentrefi gwledig."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cymryd camau gweithredu ar draws systemau cynllunio, eiddo a threthu i ddarparu cartrefi ar y raddfa a'r cyflymder sydd eu hangen ar Gymru".

"Er gwaethaf heriau economaidd digynsail, rydym wedi buddsoddi mwy na £2bn yn nhymor y Senedd hon mewn tai cymdeithasol ac rydym yn gweld rhai o'r cyfraddau darparu uchaf mewn bron i 20 mlynedd.

"Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn chwilio am dir ychwanegol i'w ychwanegu at ei phortffolio presennol, a fydd yn darparu 7,000 o gartrefi - y bydd hyd at 50% ohonynt yn fforddiadwy."

Galw am sefydlu Unnos mae Plaid Cymru, fel corff i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflymu'r broses o ddarparu tai cymdeithasol.

Edrych ymlaen at "gyflwyno polisïau uchelgeisiol" mae Reform UK, er mwyn rhoi "hwb i economi Cymru i dyfu".

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn disgrifio'r angen "am atebion difrifol, cynaliadwy sy'n darparu diogelwch hirdymor" i'r farchnad yng Nghymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now