Menyw'n ddieuog o losgi bwriadol yn dilyn tân difrifol mewn tŷ

Tân Glynrhedynog
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar dyn wedi pledio'n euog i gyhuddiadau amrywiol yn ymwneud â'r tân yng Nglynrhedynog

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw wedi ei chael yn ddieuog o losgi bwriadol yn dilyn tân mewn tŷ yng Nglynrhedynog ym mis Gorffennaf 2025.

Roedd Storm Truman, 19 oed, wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o losgi bwriadol a bod yn ddi-hid ynghylch a oedd bywyd mewn perygl.

Mae'r achos yn cyfeirio at dân ar Stryd Protheroe, Glynrhedynog yn oriau man 28 Gorffennaf, pan fu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher fe ddaeth rheithgor i'r casgliad fod Ms Truman yn ddieuog.

Mae tri dyn - Connor Pitt, 23, Auryn Guster, 19, ac Alfie Wheeler, 19 - wedi pledio'n euog i losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd mewn gwrandawiad blaenorol.

Mae dyn arall, Lewis Manito, 32, hefyd wedi pledio'n euog i losgi bwriadol, bod yn ddi-hid ynghylch a oedd bywyd mewn perygl a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe fydd y pedwar yn cael eu dedfrydu ar 10 Ebrill.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now