Dysgu Cymraeg i'r fyddin fel bod yr iaith yn 'annatod i fywydau milwyr'

Ar ôl gyrfa lwyddiannus yn y byd actio, mae Ruth Lloyd wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae tiwtor Cymraeg i'r Fyddin yn dweud ei bod wedi ei syfrdanu gan y "brwdfrydedd a'r nifer o bobl o bob rheng sy'n ymrwymo i ddysgu'r iaith" ers cychwyn ei swydd eleni.
Mae Ruth Lloyd wedi cael gyrfa lwyddiannus fel actores, gan ymddangos mewn cyfresi fel Rownd a Rownd, Pobol y Cwm a Pen Talar, a ffilmiau fel Streetlife gyda Rhys Ifans a Helen McCrory.
Ond ers hynny mae wedi treulio blynyddoedd yn dysgu Cymraeg i blant ac oedolion yn y gweithle, ac erbyn hyn mae hi'n gweithio fel tiwtor llawn amser i'r Fyddin yng Nghymru.
Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i hamser yn dysgu milwyr o bob rheng ym marics Aberhonddu.
Ers cychwyn y swydd ym mis Ionawr, mae Ruth yn dweud iddi gael ei synnu gan y pwyslais y mae wedi'i weld ar hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig fel "rhan annatod o fywydau'r milwyr, yn broffesiynol ac yn bersonol".

Ruth Lloyd gyda Brigadydd Mark Davis (dde) a Cyrnol Sion Walker (chwith)
Nid yw dysgu Cymraeg yn orfodol i filwyr yng Nghymru, ond mae Ruth yn dweud bod "llawer iawn, iawn" o filwyr, gan gynnwys rhai di-Gymraeg, yn mynd ati i ddysgu'r iaith trwy'r Fyddin.
Dywedodd y fam-i-bump o Lanwrtyd, Powys, fod y pwyslais ar ddysgu'r iaith yn dod o'r top, gyda'r Brigadydd Mark Davis yn awyddus i Gymreictod fod yn ganolog i ddiwylliant y Fyddin yng Nghymru.
"Mae'r parch tuag at Gymreictod yn fawr iawn yma. Mae pawb mor frwdfrydig dros yr iaith - maen nhw'n ymfalchïo," meddai Ruth.
"Y gobaith ydi i fwy o filwyr allu mynd mas i'r gymuned yn siarad Cymraeg wrth wneud eu gwaith.
"Mae 'na gydnabyddiaeth hefyd o'r pwysigrwydd bod teuluoedd sydd yn Gymry Cymraeg yn cael mynediad i'r un gefnogaeth drwy'u hiaith eu hunain a theuluoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg."

Mae rhwydwaith ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn y broses o gael ei sefydlu i filwyr ble bynnag y maen nhw yn y byd
Mae rhwydwaith ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob safon yn y broses o gael ei sefydlu, yn ôl Ruth.
"Maen nhw'n chwarae gyda'r enw Trafod y Ddraig ar hyn o bryd lle mae unrhyw un sydd yn gweithio yn y fyddin sydd eisiau siarad Cymraeg yn cyfarfod yn fisol.
"Maen nhw'n rhwydweithio gyda'i gilydd, boed nhw yn Estonia, boed nhw yn Yr Almaen, ble bynnag yn y byd maen nhw'n gweithio."
Y Gymraeg wedi achub bywydau yn Kosovo
Ond yn ogystal â hyrwyddo'r Gymraeg er lles yr iaith, mae 'na fanteision ymarferol o ddysgu Cymraeg i filwyr, meddai Ruth.
Stori sy'n cael ei adrodd yn aml yn y barics yn Aberhonddu ydy hanes yr Is-gyrnol Nick Locke yn Kosovo yn y 1990au.
"Roedd e'n filwr ifanc yn y rhyfel fyna, a ro'n nhw wedi mynd i ryddhau pentre'," meddai Ruth.
"Roedd y trigolion yn y pentre' dan berygl ofnadw, a chethon nhw eu hamgylchynu.
"Doedd e ddim yn edrych fel y byddai nhw'r milwyr neu drigolion y pentref yn mynd i ddod mas yn fyw tan i rywun benderfynu mai dim ond pobl oedd yn siarad Cymraeg oedd yn cael defnyddio'r radio.
"Ro'n nhw'n gatrawd oedd yn siarad Cymraeg a wnaethon nhw wneud hynny, a llwyddon nhw gael bob milwr a bob un o'r trigolion mas yn fyw.
"Ond bydden nhw ddim wedi heb law am hynny achos roedd pobl oedd yn amgylchynu nhw wedi intercepto'r radio a'n deall Saesneg."

Dywedodd Ruth fod dysgu Cymraeg yn "cryfhau perthnasau" a bod milwyr "o bob oedran, os yn dod o Gymru neu beidio" yn dysgu
Yn amlwg dydy achosion o'r fath ddim yn digwydd pob dydd, ond mae dysgu Cymraeg i filwyr yn "cryfhau'r teimlad o berthyn, sy'n bwysig iawn", meddai Ruth.
"Ro'n i'n siarad gydag un o Ogledd Iwerddon a ddywedodd doedd hi byth wedi sylwi cymaint mae dysgu iaith yn gallu creu ymdeimlad o undod gyda chydweithwyr.
"Dywedodd bod pobl yn dod i nabod ei gilydd trwy'r iaith, yn dysgu am ei gilydd, a wnaeth hi ddweud wrtha i mai dysgu Cymraeg yw'r ymarfer adeiladu tîm gorau y mae hi erioed wedi'i gael."
Dywedodd Ruth fod dysgu Cymraeg yn "cryfhau perthnasau" a bod milwyr "o bob oedran, os yw'n dod o Gymru neu beidio" yn dangos brwdfrydedd tuag at siarad yr iaith.
Mae hyd yn oed un milwr o Seland Newydd wedi dechrau dysgu Cymraeg, meddai, oherwydd ei ddiddordeb mewn dysgu Maori - sef iaith frodorol ei wlad.
'Dwi'm yn gyrru i'r maes parcio heb glywed shwmae'
Mae'r Fyddin yng Nghymru yn ymwybodol o'r ddelwedd o'i ddiwylliant fel un Prydeinig yn bennaf ond "maen nhw'n ymdrechu yn anferthol i newid hynna", meddai Ruth.
Dywedodd ei bod wedi cael sioc yn ddiweddar ar ôl bod i ddigwyddiad Dydd Gŵyl Dewi ym marics Aberhonddu.
"Roedd band y Royal Welsh yna a pan wnaeth o ddod i chwarae'r anthemau, fe ddechreuon nhw gyda God Save the King.
"Canodd neb, roedd pawb yn ddistaw wrth i'r gerddoriaeth chwarae - doedden nhw ddim yn amharchu'r anthem Saesneg ond wnaethon nhw ddim ei chanu hi.
"Ac wedyn pan gafodd Hen Wlad Fy Nhadau ei chwarae roedden nhw i gyd yn canu, pob un ohonyn nhw - roedd hynna'n foment i mi."
"Nawr dwi ddim yn gyrru mewn i'r maes parcio heblaw bod y dynion ar y giât, y bois diogelwch, yn dweud 'shwmae' neu 'pnawn da'," ychwanegodd.

Ruth (trydydd o'r dde) yn seremoni Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026 nos Fawrth
Cafodd Ruth wobr am ei gwaith fel tiwtor mewn digwyddiad yn y Senedd nos Fawrth.
Roedd hi'n un o chwe thiwtor o Gymru oedd yn cael eu dathlu yn seremoni Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026.
Dywedodd Ruth fod ennill y wobr am ddysgu Cymraeg yn y gweithle yn "fraint ac yn anrhydedd".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020
