Her gyfreithiol i'r gwaharddiad ar rasio milgwn wedi methu

Fe wnaeth aelodau'r Senedd bleidleisio nos Fawrth o blaid gwneud rasio milgwn yn anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Mae her gyfreithiol i'r mesur a gafodd ei basio yn y Senedd yr wythnos hon i wahardd rasio milgwn yng Nghymru wedi methu.
Roedd Bwrdd Milgwn Prydain wedi honni bod yr ymgynghoriad cyn i'r mesur gael ei gyflwyno wedi bod yn frysiog ac yn anghyfreithlon.
Ond mae dau farnwr Uchel Lys wedi dyfarnu bod y mesur wedi cael ei gyflwyno'n gyfreithlon, ac y byddai'n amhriodol i'r llys ymyrryd yn y broses ddemocrataidd.
Dywedodd Bwrdd Milgwn Prydain eu bod yn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw i barhau i herio'r ddeddfwriaeth, gan gynnwys eu hawl i apelio.

Un trac rasio milgwn sydd yng Nghymru - Valley Greyhounds yn Ystrad Mynach
Nos Fawrth, fe wnaeth aelodau'r Senedd bleidleisio o 39 pleidlais i 10 i gyflwyno'r gwaharddiad, gyda dau AS yn ymatal.
Mae bellach yn aros i gael cydsyniad brenhinol.
Y cynharaf y gallai gwaharddiad gael ei gyflwyno yw mis Ebrill 2027, a'r dyddiad olaf ar gyfer ei gyflwyno fyddai Ebrill 2030.
Mae'n cael ei gefnogi gan grwpiau hawliau anifeiliaid, sy'n dweud bod miloedd o gŵn yn y DU wedi marw yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd rasio.
Dywedodd Owen Sharp o'r Ymddiriedolaeth Cŵn ei bod yn "garreg filltir arwyddocaol" i les cŵn.
Dim ond un trac rasio milgwn sydd yng Nghymru, yn Ystrad Mynach ger Caerffili.
Ond fe aeth y Bwrdd Milgwn â Llywodraeth Cymru i'r llys, gan honni nad oedd digon o ymgynghori wedi bod ar y mesur.
Beth ddywedodd y barnwyr?
Yn eu dyfarniad ddydd Gwener, dywedodd y ddau farnwr, Yr Arglwydd Ustus Lewis a Mr Ustus Chamberlain, bod yna ddau brif reswm pam na allen nhw ganiatáu yr her gyfreithiol.
Dywedon nhw: "Hyd yn oed os oedd gweinidogion Cymreig wedi torri'r disgwyliadau cyfreithiol yn y camau cyn-deddfu, mae hynny bellach wedi mynd heibio, ac rydym wedi dod i'r casgliad bod y mesur wedi cael ei gyflwyno'n gyfreithlon.
"Y gwirionedd ydy bod y mesur bellach wedi cwblhau'r camau deddfu (gan gynnwys y cam o flaen pwyllgor lle cafodd tystiolaeth ei chymryd gan gynrychiolydd yr hawliwr), a does gan weinidogion Cymreig ddim grym i'w dynnu yn ôl."
Ychwanegon nhw: "Nawr bod y mesur yn ddilys o flaen y Senedd, ac yn enwedig o dan amgylchiadau lle mae wedi cwblhau'r camau deddfu - yn ein barn ni fe fyddai derbyn honiadau bod yna wall gweithredol yn y camau cyn-deddfu, yn ymyrraeth na ellir ei ganiatáu gyda gwaith y Senedd, ac yn groes i bwerau cyfansoddiadol."
Y Senedd yn pleidleisio o blaid gwahardd rasio milgwn
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
Rhybudd yn erbyn gwahardd rasio milgwn wedi ei anwybyddu gan y llywodraeth
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
Gwleidyddion yn beirniadu deddf gwahardd rasio milgwn
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
Wrth ymateb dywedodd Bwrdd Milgwn Prydain (GBGB) eu bod yn parhau o'r farn nad ydy'r gwaharddiad yn gyfreithlon.
Dywedodd y prif weithredwr, Mark Bird: "Fe aeth gweinidogion yn groes i gyngor swyddogion, a ddywedodd wrthyn nhw nad oedd ganddyn nhw'r dystiolaeth ddigonol, nac wedi ymgynghori'n ddigonol i gyfiawnhau gwaharddiad.
"Fe wnaethon nhw hefyd anwybyddu eu cydweithwyr pan wnaeth dau bwyllgor trawsbleidiol feirniadu'r broses, gyda phleidlais lle roedd y chwip wedi ei gosod ar aelodau er mwyn ei basio drwy'r Senedd.
"Mae GBGB yn edrych ar bob opsiwn posib i ni barhau i frwydro yn erbyn y ddeddfwriaeth yma, gan gynnwys ein hawl i apelio.
"Rydym yn gobeithio y bydd y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd yn gwneud y peth cywir, ac yn diddymu'r ddeddfwriaeth wallus yma."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.