Dwy i ennill capiau cyntaf yn erbyn Yr Alban yn y Chwe Gwlad

Bydd Jorja Aiono a Seren Singleton yn ennill eu capiau cyntaf
- Cyhoeddwyd
Bydd Jorja Aiono a Seren Singleton yn ennill eu capiau cyntaf dros Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Sean Lynn, wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer gêm agoriadol y bencampwriaeth yn erbyn Yr Alban.
Daw y capiau cyntaf i Aiono a Singleton ar ôl serennu'n ddiweddar i Brython Thunder.
Kate Williams fydd yn gapten ar y tîm, gyda'i chyd-gapten Alex Callander allan o'r gystadleuaeth oherwydd anaf.
Yn y rheng flaen bydd Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones a Sisilia Tuipulotu, gyda Gwen Crabb yn ymuno ag Aiono yn yr ail reng.
Keira Bevan a Lleucu George yw'r haneri, gyda Kayleigh Powell yn cael ei dewis fel cefnwr.
Mae Carys Cox a Courtney Keight yn cael mwy o amser i ffurfio partneriaeth yng nghanol y cae wedi Cwpan y Byd, tra bod Lisa Neumann a Singleton wedi'u dewis fel asgellwyr.
Cwpan Rygbi'r Byd y Merched... Beth aeth o'i le?
- Cyhoeddwyd11 Medi 2025
Cymru 'mewn lle gwell' er gwaethaf colli pob gêm yng Nghwpan y Byd - Lynn
- Cyhoeddwyd7 Medi 2025
Mae Cymru yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Chwe Gwlad o dan Lynn, sydd bellach wedi bod yn y swydd ers 12 mis.
Maen nhw wedi gorffen gyda'r llwy bren yn y ddwy bencampwriaeth ddiwethaf gydag ymgyrch siomedig yng Nghwpan y Byd yr haf diwethaf.
Ond gyda staff newydd yn ymuno, a naw chwaraewr heb gap yn y garfan, mae na obaith am welliant yn y canlyniadau.
"Mae hwn yn ddechrau newydd i Gymru ac yn gam cyntaf i'r grŵp newydd hwn o chwaraewyr, hyfforddwyr a staff, ac fe gawson ni lawer o ddadlau ynghylch dewis y tîm hwn," meddai Lynn.
"Mae'n fraint rhoi cap cyntaf i Jorja Aiono a Seren Singleton. Mae'r ddwy yn haeddu'r cyfle'n llwyr.
Ychwanegodd: "Mae'r chwaraewyr yn gwybod ein bod ni'n cynrychioli'r genedl, ein teuluoedd a'n hunain ac mae hwn yn gyfle i ddangos pwy ydym ni a beth mae'n ei olygu i wisgo'r crys coch."
Tîm Cymru
Powell; Singleton, Cox, Keight, Neumann; George; Bevan, G Pyrs, Jones, Tuipulotu, Aiono, Crabb, Lewis, Williams (capt), King.
Eilyddion: Reardon, Davies, Rose, A Pyrs, Evans, Metcalfe, Lockwood, Dallavalle