Sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru 150 mlynedd yn ôl

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed eleniFfynhonnell y llun, BBC Sport
GanOwain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Chwefror 2, 1876.

Dyna pryd y cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei ffurfio, a hynny yn dilyn cyfarfod yng Ngwesty'r Wynnstay Arms yn Wrecsam gyda chyfreithiwr o'r enw Llewelyn Kenrick yn cael ei benodi yn gadeirydd.

Mae 'na lawer wedi digwydd yn y 150 mlynedd ddiwethaf wrth i'r Gymdeithas fynd o nerth i nerth.

Dyma rai o'r dyddiadau a'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol dros y ganrif a hanner ddiwethaf.

1876 - y gêm ryngwladol gyntaf

Gwesty'r Wynnstay yn WrecsamFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Gwesty'r Wynnstay yn Wrecsam lle gafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei sefydlu

Mae'r ffaith iddi gael ei sefydlu yn 1876 yn ei gwneud hi y drydedd Gymdeithas Bêl-droed hynaf yn y byd, tu ôl i Loegr a'r Alban.

Yn 1876 hefyd y chwaraeodd tîm y dynion eu gêm gyntaf erioed gan golli 4-0 oddi cartref yn erbyn Yr Alban.

Fe gollon nhw yn erbyn Yr Alban unwaith eto y flwyddyn ganlynol 2-0 yn eu gêm gartref gyntaf, a hynny ar Y Cae Ras yn Wrecsam.

Mi oedd yn rhaid iddyn nhw aros tan 1881 ar gyfer eu buddugoliaeth gyntaf, yn llwyddo i guro Lloegr 1-0 yn Blackburn gyda John Vaughan yn sgorio'r unig gôl.

1958 - cyrraedd Cwpan y Byd

Tîm pêl-droed Cymru cyn wynebu Israel yn 1958Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru yn 1958 gyda John Charles yr ail o'r chwith

Mi oedd y 1950au yn gyfnod euraidd i dîm y dynion gyda sêr fel John a Mel Charles, Ivor Allchurch, Cliff Jones, Trevor Ford a Terry Medwin.

Fe lwyddon nhw i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl curo Israel mewn gêm ail-gyfle i sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol yn Sweden yn 1958.

Mi oedden nhw yn yr un grŵp â Hwngari, Mecsico a Sweden - ac fe orffennodd pob un o'r tair gêm yn gyfartal.

Mi oedd yn rhaid iddyn nhw chwarae'n erbyn Hwngari eto mewn gêm ail-gyfle am le yn rownd yr wyth olaf.

Er i Gymru ennill mae'r gêm yn cael ei chofio am y ffordd y cafodd John Charles ei anafu gan chwaraewyr Hwngari.

Disgrifiad,

Pele yn sgorio'n erbyn Cymru yng Nghwpan y Byd 1958

Yn sgil yr anafiadau doedd Charles ddim yn ffit ar gyfer y gêm yn erbyn Brasil yn rownd yr wyth olaf.

Brasil enillodd 1-0, gyda Pele yn sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf ac yntau'n 17 oed.

Fe roedd breuddwyd Cymru ar ben, ond tybed beth fyddai wedi digwydd pe bai John Charles wedi gallu cymryd rhan.

1973 - tîm y merched yn cael ei ffurfio

Mi gymerodd hi dros 100 mlynedd i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gydnabod tîm y merched.

Mi gafodd y tîm ei sefydlu yn 1973, ond heb unrhyw gymorth o gwbl mi oedd yn rhaid i'r chwaraewyr dalu am bopeth eu hunain, yn ogystal â threfnu gemau a sesiynau ymarfer.

Fe chwaraeon nhw eu gêm gyntaf yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Llanelli y flwyddyn honno, gyda thorf o 3,500 yno i wylio'r gêm.

Mi oedd yna rhaid i Gymru gael methyg kit gan dîm dynion Abertawe, ac oherwydd hynny mi oedd y crysau yn llawer rhy fawr i rai o'r chwaraewyr.

Gaynor Blackwell a Gloria O'Connell sgoriodd y goliau dros Gymru, ond colli 3-2 fu eu hanes.

Disgrifiad,

O'r archif: Cymru 2-3 Gweriniaeth Iwerddon (does dim sain gyda'r fideo)

Fe barhaodd y chwaraewyr i drefnu popeth ar eu liwt eu hunain am 20 mlynedd arall.

Ond yn 1993 fe lwyddodd y chwaraewyr Laura McAllister, Michele Adams a Karen Jones i ddwyn perswâd ar ysgrifennydd y Gymdeithas, Alun Evans, i gymryd rheolaeth o'r tîm.

1992 - sefydlu Cynghrair Cymru

Y Seintiau Newydd yn dathlu ennill y Cymru Premier ar ddiwedd tymor 2024-25Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Y Seintiau Newydd yw'r tîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y Cymru Premier

Mi oedd 'na bryder am ddyfodol Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystod yr 1980au.

Mi oedd statws Cymru fel gwlad bêl-droed annibynnol dan fygythiad, gan fod prif glybiau Cymru yn chwarae pêl-droed yn Lloegr.

Dyma felly benderfynu ffurfio Cynghrair Cymru yn 1992.

Mi oedd 'na 20 tîm yn y gynghrair yn wreiddiol, gyda Chwmbrân yn bencampwyr ar ddiwedd y tymor cyntaf.

Mae 'na sawl newid wedi bod i'r gynghrair dros y blynyddoedd. Cymru Premier yw ei henw bellach, gyda 12 tîm yn rhan ohoni.

Y Seintiau Newydd ydi'r tîm mwyaf llwyddiannus, yn ennill y gynghrair ar 17 achlysur.

Euro 2016

Hal Robson-Kanu yn sgorio ym muddugoliaeth Cymru o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg yn Lille yn Euro 2016Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hal Robson-Kanu yn sgorio un o goliau mwyaf eiconig Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn Euro 2016

Mi oedd haf 2016 yn un hudolus dros ben yn Ffrainc.

Gyda Chris Coleman wrth y llyw fe lwyddodd tîm y dynion i gyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf ers 58 o flynyddoedd.

Mi oedd y garfan yn cael ei disgrifio fel y 'genhedlaeth euraidd' gyda chwaraewyr talentog fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen ac Ashley Williams – ac fe lwyddon nhw i wireddu eu potensial.

Fe orffennon nhw ar frig eu grŵp oedd yn cynnwys Slofacia, Lloegr a Rwsia. Curo Gogledd Iwerddon wedyn ym Mharis yn rownd yr 16 olaf, cyn synnu'r byd pêl-droed yn y chwarteri.

Mi oedd Gwlad Belg yn un o'r timau gorau yn y byd, ond Cymru aeth â hi 3-1 ar noson ar arbennig yn Lille gyda Hal Robson-Kanu yn sgorio un o'r goliau gorau yn hanes Cymru.

Gyda Aaron Ramsey a Ben Davies wedi eu gwahardd, mi oedd Portiwgal a Cristiano Ronaldo yn rhyf gryf yn y rownd gynderfynol.

Mae'r 10 mlynedd ddiwethaf wedi bod yn rhai llewyrchus iawn i'r tîm cenedlaethol - cyrraedd Euro 2016 sydd wedi bod wrth wraidd hynny

Euro 2025

Chwaraewyr Cymru cyn y gêm gyntaf yn Euro 2025 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn LucerneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cymru cyn y gêm gyntaf yn Euro 2025 yn erbyn Yr Iseldiroedd

Mi oedd cyrraedd Euro 2025 yn foment arbennig i bêl-droed merched yng Nghymru.

Fe lwyddon nhw i dorri tir newydd wrth gyrraedd yr Euros, ac mae'r rheolwr Rhian Wilkinson a'r chwaraewyr yn saff o'u lle yn y llyfrau hanes am byth.

Doedd 'na ddim stori dylwyth teg i fod ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi yn y grŵp anoddaf posibl gyda Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd - ond er eu bod nhw wedi colli'r tair gêm mi oedd bod yn rhan o'r twrnamaint yn Y Swistir yn dipyn o gamp ynddo'i hun.

Disgrifiad,

Kath Morgan yn dathlu gôl Jess Fishlock yn erbyn Ffrainc

Mi oedd 'na eiliadau hynod o gofiadwy - yr anthem cyn y gêm gyntaf yn erbyn Yr Iseldiroedd, gôl Jess Fishlock yn erbyn Ffrainc a chefnogaeth Y Wal Goch.

Y gobaith rŵan ydi y bydd Euro 2025 yn ysbrydoli mwy o ferched i chwarae'r gêm yng Nghymru, ac mae'r arwyddion cynnar yn rhai positif.

Mae 'na dros 20,000 o ferched a menywod wedi cofrestru i chwarae pêl-droed, sef y nifer uchaf ar gofnod.

Y nod nesaf yw ceisio cyrraedd Cwpan y Byd yn 2027 er mwyn ychwanegu pennod gofiadwy arall i hanes tîm y merched.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now