Chwe Gwlad: Cyfle i Gymru dalu'r pwyth yn ôl wedi blwyddyn anodd

Kate Williams a Rachel MalcolmFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Kate Williams fydd capten Cymru, gyda Rachel Malcolm yn arwain Yr Alban

GanDafydd Jones
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd menywod Cymru yn dechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn, gan geisio talu'r pwyth yn ôl i'r Alban yn dilyn crasfa yng ngêm agoriadol Cwpan y Byd y llynedd.

38-8 i'r Alban oedd hi yn Salford fis Awst - canlyniad oedd yn tanlinellu'r bwlch rhwng y ddau dîm bryd hynny.

Os nad oedd hynny'n ddigon o gymhelliant, mae haen ychwanegol o naratif i'r ornest ddydd Sadwrn.

Mae cyn-brif hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham, bellach yn rhan o dîm hyfforddi'r Alban.

Mae ganddo fewnbwn unigryw i gryfderau a gwendidau ei hen dîm, ac mae eisoes wedi profi llwyddiant ers gadael ei swydd yng Nghymru, gan arwain Fiji at fuddugoliaeth yn erbyn Cymru yng Nghwpan y Byd y llynedd.

Yn sgil perfformiadau siomedig Cymru yn y bencampwriaeth honno, mae'r prif hyfforddwr Sean Lynn wedi ailstrwythuro ei dîm cynorthwyol, gan benodi cyn-ganolwr tîm dynion Cymru Ashley Beck yn hyfforddwr ymosod.

Ar ôl blwyddyn gyntaf anodd iawn wrth y llyw, mae teimlad bod angen gweld gwelliant amlwg wrth i Lynn ddechrau gosod ei stamp ar y tîm.

Sean LynnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sean Lynn wedi pwysleisio bod hyder yn tyfu o fewn y garfan

I Gymru, mae'r gêm yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn yn gyfle i ymateb ar ôl cyfnod anodd iawn.

Fe orffennodd y tîm ar waelod tabl y Chwe Gwlad yn 2024 ac eto yn 2025, gan golli pob gêm y llynedd - y tro cyntaf iddyn nhw fynd drwy'r bencampwriaeth heb fuddugoliaeth.

Ychwanegwch at hynny ymgyrch hynod siomedig yng Nghwpan y Byd, ac mae maint yr her sy'n wynebu'r garfan yn glir.

Mae Lynn wedi pwysleisio bod hyder yn tyfu o fewn y garfan, ond y prawf gwirioneddol fydd trosi hynny'n berfformiad ar y cae.

Ar y llaw arall, mae'r Alban yn dawel hyderus ar ôl ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Cymru, ond maen nhw hefyd yn dechrau pennod newydd o dan drefn hyfforddi newydd.

Ioan CunninghamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ioan Cunningham oedd prif hyfforddwr Cymru tan fis Tachwedd 2024

Mae Cunningham - dirprwy i'r prif hyfforddwr Sione Fukofuka gyda'r Alban - yn cydnabod ei bod hi'n deimlad od bod yn ôl yn Stadiwm Principality gyda'r gwrthwynebwyr, ond dywedodd ei bod hi'n "braf iawn bod 'nol yma" hefyd.

"Ma' pawb mo'yn dechrau'n dda gyda'r Chwe Gwlad, a mae'r gêm gynta' mor bwysig i godi'r momentwm i mewn i'r gystadleuaeth," meddai.

"Mae'r timoedd yn 'nabod ei gilydd yn dda iawn, a mae hi wastad wedi bod yn agos iawn - un cais ynddi efallai.

"Fi'n siŵr bod Cymru yn edrych 'mlaen at y cyfle i fwrw 'nôl yn erbyn Yr Alban ar ôl y gêm Cwpan y Byd, felly mae'n mynd i fod yn sialens enfawr i ni, ond un ni'n edrych ymlaen at."

Beth i'w ddisgwyl

Mae Lynn wedi dangos ei fod yn barod i roi cyfle i wynebau newydd, gan enwi dau chwaraewr heb gap yn y tîm fydd yn dechrau ddydd Sadwrn - y clo Jorja Aiono a'r asgellwr Seren Singleton.

Kate Williams sy'n arwain y tîm yn absenoldeb Alex Callender, tra bydd y cyn-gapten Hannah Dallavalle yn ennill ei 70ain cap os daw hi oddi ar y fainc.

Ond does dim lle yn y 23 i rai o'r enwau profiadol fel Carys Phillips a Jasmine Joyce.

Seren Singleton a Jorja AionoFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Seren Singleton a Jorja Aiono yn ennill eu capiau cyntaf ddydd Sadwrn

Gyda'r ddau dîm mewn cyfnod o drawsnewid, mae'r gêm yn anodd ei darogan.

I Gymru, mae angen gwelliant, yn enwedig yn dilyn profiad chwerw'r llynedd.

Yn syml, rhaid osgoi'r llwy bren am y trydydd tymor o'r bron.

I'r Alban, mae'n gyfle i adeiladu a dangos eu bod yn cau'r bwlch ar Loegr a Ffrainc.

Bydd canlyniad y gêm yma yn gosod naws ymgyrch gyfan i'r naill dîm a'r llall.

Y timau

Cymru: Powell; Singleton, Cox, Keight, Neumann; George; Bevan, G Pyrs, Jones, Tuipulotu, Aiono, Crabb, Lewis, Williams (capt), King.

Eilyddion: Reardon, Davies, Rose, A Pyrs, Evans, Metcalfe, Lockwood, Dallavalle.

Yr Alban: Rollie, Lloyd, Orr, Smith, Campbell, Nelson, Brebner-Holden; Bartlett, Skeldon, Clarke, Wassell, Cunningham, Malcolm, Stewart, Coubrough.

Eilyddion: Martin, Swann, Poolman, Bogan, Donaldson, Darroch, Wills, Scott.

Trefn gemau Cymru

Cymru v Yr Alban, 16:40 dydd Sadwrn, 11 Ebrill

Cymru v Ffrainc, 15:35 dydd Sadwrn, 18 Ebrill

Lloegr v Cymru, 14:15 dydd Sadwrn, 25 Ebrill

Iwerddon v Cymru, 18:30 dydd Sadwrn, 9 Mai

Cymru v Yr Eidal, 12:15 dydd Sul, 17 Mai

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now