Mab 17 oed 'annwyl iawn' wedi marw o anaf trywanu - cwest

Tristan Shae KerrFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tristan Shae Kerr yn 17 oed ac yn byw yn Abertridwr

  • Cyhoeddwyd

Bu farw bachgen yn ei arddegau o anaf trywanu i'w ganol, mae cwest wedi clywed.

Clywodd Llys y Crwner Gwent fod Tristan Shae Kerr, 17, wedi cael ei ganfod yn farw ar 5 Chwefror 2026 y tu allan i adeilad ar Stryd Isaf Francis, Abertridwr, Sir Caerffili "ar ôl derbyn anafiadau difrifol".

Cafodd yr heddlu ac ambiwlans eu galw ac mi glywodd y llys fod ei gorff wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd achos marwolaeth amodol ei nodi fel "anaf trywanu i'r corff gan gynnwys yr ysgyfaint chwith a'r galon".

Dywedodd y crwner, Rose Farmer, fod ymholiadau'r heddlu yn parhau a gohiriodd y cwest er mwyn cynnal gwrandawiad llawn ar 24 Tachwedd 2026.

Rhoddodd teulu Tristan Kerr deyrnged iddo'n dilyn ei farwolaeth, gan ei alw'n "fab, ŵyr, nai, cefnder a ffrind annwyl iawn".

Mae pedwar o bobl wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth mewn perthynas â marwolaeth y bachgen ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn y llys eto fis nesaf.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now