Staff dysgu'n delio â materion meddygol ysgolion heb nyrsys arbenigol

Llun teuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Coles yn poeni fel rhiant mai cynorthwywyr dysgu sy'n gorfod ymyrryd mewn materion meddygol yn yr ysgol

GanDafydd Morgan
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i roi cyngor cliriach ar ymyrraeth feddygol mewn ysgolion.

Yn ôl un undeb addysg mae yna sawl enghraifft ar draws Cymru o'r cyfrifoldeb yn cwympo ar ysgwyddau cynorthwywyr dysgu, yn hytrach na nyrsys arbenigol.

Mae athrawon a rheini mewn un ysgol anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Gâr wedi dweud eu bod yn poeni ar ôl i arolwg Estyn nodi bod yna "ddiffyg nyrs ysgol ddynodedig" ar y safle.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn "datblygu cyngor cliriach" ar gyfrifoldebau gwasanaethau addysg ac iechyd.

Llun teuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae mab Hannah Coles, Seb yn anabl - mae'n defnyddio cadair olwyn ac nid yw'n gallu llyncu

Mae gan nifer o ddisgyblion Ysgol Heol Goffa yn Llanelli - sy'n ysgol anghenion dysgu ychwanegol - anghenion iechyd cymhleth ac ar adegau mae angen ymyrraeth feddygol.

Yn aml, cynorthwywyr dysgu sy'n gorfod darparu'r ymyrraeth honno - rhywbeth sy'n poeni rhieni, fel Hannah Coles.

Mae ei mab Seb yn anabl, yn defnyddio cadair olwyn, ac yn methu â llyncu, felly yn defnyddio tiwb i fwyta.

"Mae rhaid i Seb cael support efo popeth," meddai.

"Mae rhaid i rywun rhoi bwyd iddo fe, ma' ganddo fe emergency medication trwy'r tiwb.

"Mae'n cael UTI's (urinary tract infection) trwy'r amser, mae'n epileptig.

"Mae llawer o bethau i ddweud gwir."

'Ma' ofn arna' i'

Os oes rhywbeth yn bod ar Seb, y cynorthwywyr dysgu sy'n gorfod camu i mewn i'w helpu yn ôl Hannah.

"Fi yn lwcus mae staff yma yn ardderchog ac maen nhw yn gallu gwneud e.

"Ond ma' ofn arna' i ddweud gwir.

"Mae'r plant yn dod tu ôl i Seb nawr yn fwy complex. Mae rhai plant hyn yn cael bwyd yn eu veins, tracheostomy care," ychwanegodd.

Huw Jones, Is-lywydd NAHT Cymru a Helen LeyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr + BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Jones yn credu bod cryfder y gefnogaeth yn dibynnu ar ble ydych chi, gyda Helen Ley yn credu bod gormod o bwysau ar gynorthwywyr

Fe wnaeth arolwg diweddar gan Estyn nodi bod yna "ddiffyg nyrs ysgol ddynodedig" ar safle Ysgol Heol Goffa, a bod hynny yn effeithio ar lefel y cymorth meddygol parhaus sydd ar gael i ddisgyblion.

"Mae gormod o bwysau arnyn nhw [cynorthwywyr dysgu]," meddai dirprwy bennaeth yr ysgol, Helen Ley.

"O ran diogelwch y plant a diogelwch y staff. Ni yn pryderu faint o bwysau sydd arnyn nhw ar y funud ac mae Estyn wedi pigo lan ar hynny."

Dryswch o ran cyfrifoldeb pwy yw hi i ddarparu'r gofal yw'r broblem yn ôl cadeirydd y llywodraethwyr, Owen Jenkins.

"Mae'r bwrdd iechyd yn dweud 'wel maen nhw mewn ysgol felly addysg sydd fod i wneud e', mae'r adran addysg yn dweud 'mae'n ddarpariaeth feddygol felly iechyd sydd gorfod gwneud e'.

"I fi mae'r arian yn dod o'r un ffynhonnell o ran Llywodraeth Cymru boed e yn addysg neu iechyd."

'Dibynnu go iawn le ydych chi'

Mae yna bryder am y sefyllfa ar draws Cymru yn ôl arolwg gan undeb prifathrawon NAHT Cymru.

Roedd yn nodi bod 92% o'r rhai a gymerodd rhan yn yr arolwg yn dweud bod staff yn eu hysgolion yn gorfod darparu ymyrraeth feddygol.

Roedd 88% yn dweud eu bod yn cael hyfforddiant - ond dim ond 33% oedd yn credu bod yr hyfforddiant hwnnw'n ddigonol.

"Dros Gymru gyfan mae'r cyngor a'r gefnogaeth yn patchy iawn" medd Huw Jones, Is-lywydd NAHT Cymru, sy'n galw am un cynllun cenedlaethol.

"Mae'n dibynnu go iawn le ydych chi a pha fwrdd iechyd rych chi efo," meddai.

"So byddai canllawiau cenedlaethol yn cefnogi ysgolion a staff dysgu a hefyd yn helpu plant yn y dyfodol hefyd os fydd hynny ar gael."

Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn "gweithio gyda chyflogwyr ac undebau" i sicrhau bod "cyfrifoldebau Cynorthwywyr Dysgu yn glir".

Ychwanegon nhw y bydd y camau nesaf yn cael eu cyhoeddi fis nesaf yn eu Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw'n "datblygu cyngor cliriach" ar gyfrifoldebau gwasanaethau addysg ac iechyd.

Fe ddywedodd Plaid Cymru y bydden nhw'n gorchymyn awdurdodau lleol a byrddau iechyd i weithio'n agosach i ddarparu cymorth iechyd mewn ysgolion.

Mae'r Ceidwadwyr yn credu taw staff proffesiynol fel nyrsys arbenigol ddylai fod yn arwain ymyrraeth feddygol mewn ysgolion.

Tra bod y Gwyrddion yn dweud bod angen gwella'r cyllid i ysgolion i wella hyfforddiant i holl staff ysgolion.

Mae cais wedi ei wneud am ymateb gan y blaid Lafur, Reform a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn achos Ysgol Heol Goffa, fe ddywedodd Cyngor Sir Gâr eu bod nhw wedi "ymgysylltu â'r Bwrdd Iechyd" am y sefyllfa, a'u bod wedi "ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy".

Fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda "eu bod yn cydnabod darganfyddiadau arolwg Estyn" a'u bod yn "gweithio i ddeall anghenion ychwanegol yr ysgol a'r staff".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now