Diffyg cyflwynwyr benywaidd hŷn yn dangos rhagfarn - Angharad Mair

Angharad MairFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dylai'r cyfryngau "fod yn ddrych ar reality" ac felly "fyswch chi'n disgwyl bod menywod hŷn yn cael parhau ar y sgrin", meddai Angharad Mair

  • Cyhoeddwyd

Mae angen mwy o gyflwynwyr benywaidd hŷn "i ddangos bod menywod cystal â dynion ar unrhyw oedran", yn ôl y cyflwynydd Angharad Mair.

Mae adolygiad annibynnol o record y BBC ar gynrychiolaeth yn dangos bod mwy o gyflwynwyr benywaidd nag o ddynion o dan 50 oed - ond ar ôl cyrraedd 60 oed mae 'na bedwar cyflwynydd teledu gwrywaidd i bob menyw.

Yn ôl yr adroddiad, mae dynion wrth fynd yn hŷn yn cael eu gweld yn ennill gravitas a doethineb, ond bod menywod hŷn yn fwy tebygol o droi at yrfa ar y radio.

Mae'r BBC wedi nodi fod yr adolygiad yn dangos fod 'na gynnydd wedi'i wneud wrth bortreadu a chynrychioli'r Deyrnas Unedig ar draws eu cynnwys a bod nhw wedi ymrwymo i wella'r ffordd o fesur y gynrychiolaeth yn ôl cefndir economaidd, daearyddiaeth ac oedran.

Dywedodd Angharad Mair na ddylai menywod "orfod teimlo bod rhaid edrych yn iau i gadw i gyflwyno neu cael eu tynnu oddi ar y sgrin".

'Rhagfarn yn erbyn menywod'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y cyflwynydd: "Be sy'n fwyaf rhyfeddol o'r adroddiad 'ma yw'r canlyniad bod dynion hŷn yn ymddangos yn ddoethach, ond bod rhaid i fenywod i gadw i edrych yn ifanc - achos mae honno'n hen, hen gŵyn byswch chi'n meddwl bysa wedi hen ddiflannu yn 2026."

Mae diffyg cyflwynwyr benywaidd hŷn sy'n cael ei amlinellu yn yr adroddiad yn dangos "gwastraff talent" a "rhagfarn yn erbyn menywod", meddai.

Angharad MairFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r syniad y dylai ymddeoliad gael ei orfodi ar unrhyw un yn teimlo'n od," medd Angharad Mair

Ychwanegodd "dyw teledu ddim yn dilyn yr hyn sy'n digwydd mewn cymdeithas ar hyn o bryd".

"Mae mwy o bobl yn byw yn hŷn. Mae oedran ymddeol nawr yn 67, mae 1.5 miliwn o bobl yn gweithio dros 65 oed ac mae'r syniad y dylai ymddeoliad gael ei orfodi ar unrhyw un yn teimlo'n od," meddai.

Dywedodd y dylai'r cyfryngau "fod yn ddrych o reality" ac felly "fysech chi'n disgwyl bod menywod hŷn yn cael parhau ar y sgrin".

"Felly pan rydych chi'n gweld pobl ar y sgrin fel Prue Leith, neu Mary Berry - neu Nigella Lawson fydd yn dechrau nawr - dwi meddwl fod angen rôl modelau fel 'na i ddangos bod menywod cystal â dynion ar unrhyw oedran ac yn gallu edrych cystal hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now