Teyrnged i 'gerddor dawnus' 16 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad

Bu farw Miracle Oladoyinbo yn wedi gwrthdrawiad yn Grangetown, Caerdydd ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen, 16, a fu farw wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Miracle Oladoyinbo, a oedd ar gefn beic ar y pryd, ar ôl gwrthdrawiad gyda char ger cyffordd Heol Penarth a Heol Clare yn Grangetown am 12:27 ddydd Mercher.
Mae ymchwiliad y llu i'r gwrthdrawiad rhwng y seiclwr a'r car SsangYong Tivoli coch yn parhau.
Dywedodd teulu Miracle Oladoyinbo mewn teyrnged ei fod yn "begwn o lawenydd a thrugaredd".
"Roedd ei gariad dwfn at Dduw a'i ymrwymiad diysgog i'w ffydd yn diffinio ei fywyd," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn "gerddor dawnus" a oedd yn "defnyddio ei dalent i godi calon pawb o'i gwmpas".
"Cafodd ei fywyd ei dorri'n fyr ond bydd alaw ei galon garedig yn atseinio am byth yng nghalonnau'r teulu a'r gymuned a oedd yn ei garu gymaint."
Mae'r heddlu'n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu ddelweddau o'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
