Plaid Cymru yn cyhoeddi cynllun 'beiddgar' wrth lansio maniffesto

Mae Rhun ap Iorwerth yn addo "tegwch" ac "uchelgais" petai'n brif weinidog
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi rhannu eu gweledigaeth "beiddgar" ar gyfer Cymru "decach, mwy uchelgeisiol", wrth gyhoeddi maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd.
Yn y maniffesto mae addewidion i wella rhestrau aros y GIG, ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, gwella safonau mewn ysgolion, cynnig cymorth gyda chostau gofal plant ac adolygu rheolau ar ail gartrefi.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd y blaid, fod Cymru yn "genedl â photensial enfawr, ond yr hyn sydd ar goll yw llywodraeth sydd â'r uchelgais a'r cynllun i'w wireddu".
Bydd Cymru'n pleidleisio yn etholiad y Senedd ar 7 Mai ac ar hyn o bryd mae arolygon barn yn awgrymu bod Plaid Cymru'n fwy tebygol nag unrhyw blaid i fod mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth - boed hynny fel gweinyddiaeth leiafrifol neu mewn clymblaid â phlaid arall.
Yn ôl y blaid, y blaenoriaethau "fydd yn diffinio llywodraeth Plaid Cymru" fydd:
Torri amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd;
Cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant;
Codi safonau mewn addysg;
Datgloi potensial llawn economi Cymru;
Sicrhau bargen decach gan San Steffan.
Mae'r maniffesto yn dweud bod gan Blaid Cymru "gynllun pwrpasol wedi'i gostio" ar gyfer torri rhestrau aros y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai llywodraeth o dan ei arweinyddiaeth yn sicrhau nad oes unrhyw un yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth ac yn sicrhau hefyd bod y rhestrau aros yn gyffredinol yn dychwelyd i ble roedden nhw cyn y pandemig.
Bydden nhw'n gwneud hynny drwy greu 10 hwb llawfeddygol newydd i gynnig triniaethau yn gynt.
Yn ôl y maniffesto byddai llywodraeth Plaid Cymru yn "datblygu cynllun pwrpasol i ddelio â'r gamreolaeth barhaus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr".
Byddai hynny'n cynnwys "archwilio'r holl opsiynau ar gyfer diwygio".
Etholiad 2026: Beth sy'n newid?
Roedd addewid hefyd i sicrhau fod 50% o ddisgyblion yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
O edrych ar ystadegau diweddar, mae nifer y plant yng Nghymru sydd mewn addysg Gymraeg yn tua 20%.
Gwella safonau mewn ysgolion ydy un o'r blaenoriaethau eraill. Mae'r system bresennol yn "annheg i'r rhai sy'n dysgu a'r rhai sy'n eu dysgu nhw", meddai Rhun ap Iorwerth.
Mi fydden nhw'n canolbwyntio ar wella llythrennedd a rhifedd sylfaenol a "phroses olrhain cynnydd dryloyw ar gyfer pob myfyriwr".

Mae Plaid Cymru hefyd yn addo'r "cynnig gofal plant mwyaf cynhwysfawr yn y DU" ar gost o £400m ychwanegol y flwyddyn erbyn 2030-31.
Maent eisiau ystyried y posibilrwydd o gael Taliad Plant Cymru o £10 yr wythnos i blant dan chwech oed mewn teuluoedd sy'n cael credyd cynhwysol, er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r broblem barhaus o dlodi plant yng Nghymru.
Mae hyn yn debyg i'r drefn yn Yr Alban, ond mae gan Yr Alban fwy o bwerau dros y system fudd-daliadau nag sydd gan Lywodraeth Cymru yma.
Maen nhw hefyd yn cynnig cynllun peilot i archwilio ymarferoldeb y cynllun, ond efallai y bydd angen cefnogaeth gan Lywodraeth y DU i'w gyflwyno'n effeithiol.

Doedd dim sôn o gwbl am annibyniaeth yn ei araith ond roedd sylw iddo yn y maniffesto
Roedd addewid i osod rhyw fath o reolaeth rhenti, gyda'r blaid eisiau "gosod rhent teg" a fyddai'n cyfyngu cynnydd rhent blynyddol i'r isafswm o ran twf cyflogau, y mesur chwyddiant CPI neu lefel gyfatebol sydd "wedi'i ddiffinio'n glir".
Hefyd, mae Plaid Cymru yn addo "adolygu effeithiolrwydd" y rheolau ar ail gartrefi a llety twristiaeth.
Un o'r rhai mwyaf dadleuol yw bod rhaid rhentu llety gwyliau hunanarlwyo am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn, neu mae'n ofynnol talu treth gyngor arno - mewn rhai achosion ar gyfradd premiwm.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod yr economegydd uchel ei barch, Gerry Holtham, wedi edrych ar ymrwymiadau Plaid a'u canfod yn "fanwl, yn ofalus ac yn gyraeddadwy".
Ond dydy hynny ddim yn golygu na fydd unrhyw doriadau i wariant presennol.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai deddfau Plaid Cymru yn sicrhau bod gan bawb yr hawl i'r gartref diogel a gweddus. Ychwanegodd y bydd y teithiau bws £1 yn parhau i bobl ifanc a'r pas bws i bobl dros 60.
Mae'r blaid yn dweud na fyddai'n ceisio cynnal refferendwm annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, ond y byddai'n sefydlu comisiwn cenedlaethol i Gymru a fyddai, ymhlith pethau eraill, yn gosod y sylfeini ar gyfer Papur Gwyn yn y dyfodol ar annibyniaeth i Gymru.
Roedd addewid o adolygiad o addysg uwch a'r model ariannu, ond doedd dim sôn penodol am gynllun a drafodwyd yn flaenorol i dorri'r grant costau byw o £1,000 ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio y tu allan i Gymru.

Cyn cyhoeddi'r maniffesto, roedd Rhun ap Iorwerth eisoes wedi dweud ei fod eisiau newid pethau yng Nghymru.
"Mae'n fwy 'na mynd i'r afael â'r hyn sydd ddim yn gweithio", meddai, gan addo "Cymru hyderus, yn sefyll ar ei thraed ei hun, ac yn barod i lwyddo".
"Mae'r etholiad hwn yn drobwynt. Gallwn barhau â mwy o'r un peth, neu gallwn ddewis llwybr newydd i'n cenedl."
Mae arolygon barn yn awgrymu bod Plaid Cymru yn brwydro yn erbyn Reform i ddod yn gyntaf yn etholiad y Senedd.
Dydy Plaid Cymru erioed wedi ennill etholiad y Senedd, ond mae hi wedi cefnogi llywodraethau Llafur yn y gorffennol.
Mae Plaid eisoes wedi dweud mai'r gobaith yw ennill digon o seddi i ffurfio llywodraeth leiafrifol - sef llywodraethu ar ben eu hunain ond gyda chefnogaeth pleidiau eraill i basio deddfau yn y Senedd.
Nid oes unrhyw blaid wedi ennill fwy na hanner y seddi yn y Senedd o'r blaen, ond mae'r system newydd fwy cyfrannol yn golygu ei bod hi'n anoddach fyth ennill mwyafrif.
Bydd pleidleiswyr Cymru'n ethol 96 o Aelodau'r Senedd eleni, sy'n gynnydd o'r 60 yn flaenorol, drwy'r system newydd o gynrychiolaeth gyfrannol.
Mae pob etholaeth yn newid hefyd, gyda 16 o etholaethau, a phob un yn ethol chwe aelod.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2025

- Cyhoeddwyd7 Mai 2025

- Cyhoeddwyd7 Mai 2025
