'Paratoi am fy marathon cyntaf wedi rhoi bywyd newydd ar ôl ymddeol'

Fe wnaeth Rhian Kenny ymddeol o'i swydd fel pennaeth ysgol yn Sir Gâr yn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-brifathrawes a fydd yn rhedeg Marathon Llundain am y tro cyntaf ddydd Sul yn dweud bod paratoi am yr achlysur wedi bod yn help wrth iddi ymdopi â bywyd ar ôl ymddeol.
Fe wnaeth Rhian Kenny, sy'n 60 ac o Lanelli, ymddeol o'i swydd fel pennaeth Ysgol yr Hendy yn Sir Gâr yn 2024.
Blwyddyn yn ddiweddarach, tra ar wyliau yn Tenerife, cafodd wybod bod ei chais i gymryd rhan ym Marathon Llundain 2026 wedi cael ei dderbyn.
Ond daeth y newyddion yn sioc i'w gŵr, meddai, gan nad oedd hi erioed wedi rhedeg marathon yn ei bywyd, nac wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn rhedeg.
'Roedd e'n meddwl fy mod i am ei adael e!'
"Dwi erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o'r blaen," meddai Rhian wrth Cymru Fyw.
"Do'n i ddim yn rhedwraig, ro'n i'n nofio dipyn, ond o'n i'n gwylio'r marathon llynedd a nes i feddwl 'swn i'n gallu gwneud hyn' a wnes i ymuno â'r balot."
Dywedodd ei bod wedi cadw ei phenderfyniad i roi ei henw yn y balot i'w hun i ddechrau, gan boeni am ymateb ei gŵr.
"Wnes i ddim dweud wrtho i ddechrau, ond tra oedden ni mas yn Tenerife, roedd rhaid i mi dorri'r newyddion fy mod i wedi cael lle.
"Dywedais i 'mae rhaid i fi ddweud rhywbeth i ti' ac roedd e'n meddwl fy mod i am ei adael e!
"Wnes i ddweud 'na, dwi 'di entro'r London Marathon' a gath o andros o sioc!"
2,500 o fenywod yn cystadlu mewn ras elusennol yn Llŷn
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
O redeg yn y cyfnod clo i ddod yn 7fed yn y She Ultra
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Marc Lloyd Williams: 'O'n i'n meddwl bod strôc yn digwydd i bobl hŷn'
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
Ar ôl hynny, fe wnaeth Rhian lawrlwytho'r ap rhedeg 'Couch to 5K' ac aeth hi ymlaen i ymuno â chlwb rhedeg cyn gwneud hanner marathon.
Mae'n dweud bod rhedeg wedi rhoi "bywyd newydd" iddi ar ôl ymddeol o'i swydd brysur fel pennaeth ysgol.
"Mae wedi bod fel rewiring yn lle retiring, fel maen nhw'n dweud.
"Roedd gwaith yn arfer bod eitha' full on felly o'n i wedi gadael i'r ochr yna o fy mywyd fynd.
"Ond mae gwneud hyn yn bendant wedi rhoi bywyd newydd. Dwi'n llawer mwy ffit a iach na be o'n i."
Mae canolbwyntio ar redeg a chadw'n heini wedi helpu wrth iddi addasu i'w bywyd newydd y tu allan i'w gwaith.
"Mae o wedi bod yn help mawr o ran dod i arfer i'r bywyd newydd 'ma. Byse ymddeol wedi gallu bod yn beth anodd i fi," meddai.
"Roedd rhaid i fi fynd drwy'r broses o ddarganfod pwy o'n i achos ti'n uniaethu gymaint yn dy swydd a dwi wedi gorfod meddwl am bwy ydi Rhian Kerry nawr - a fi di dysgu lot amdanaf i fy hunain."
'Gwerthfawrogi'r achlysur'
Ers ymddeol, mae Rhian hefyd wedi bod yn gwirfoddoli hefo elusen i blant sy'n colli anwyliaid, Sandy Bear.
Dywedodd ei bod wedi gweld y cymorth all elusennau o'r fath ei roi i deuluoedd wedi i'w nith, sy'n byw yn Lloegr, golli ei gŵr a thad ei phlant.
"Os ni'n gallu helpu plant i alaru yn dda ac yn bositif mae'n lleihau'r risg bod nhw'n datblygu problemau iechyd meddwl yn y dyfodol," meddai.
"Pan mae rhywun yna i deuluoedd sy'n galaru - er does neb yn gallu trwsio pethau - mae'n gallu bod yn help mawr.
"Dwi wedi enwi pobl ar gyfer pob un filltir fyddai'n ei wneud sydd wedi derbyn cefnogaeth ac sydd ddim wedi derbyn cefnogaeth - felly pan mae'r marathon yn mynd yn galed fyddai'n gallu edrych ar eu henwau ar fy llaw a chofio pam mod i'n gwneud hyn. Mae'n fraint cael gwneud hynny."
Dywedodd bod y filltir gyntaf yn mynd i wraig ei ffrind a oedd yn gefnogwr y tîm pêl-droed West Ham United, ac y byddai'n chwarae anthem y clwb, 'I'm Forever Blowing Bubbles', wrth gychwyn y ras.
Nid oes targed ganddi o ran amser, ond dywedodd ei bod eisiau "mwynhau a gwerthfawrogi'r achlysur, a gorffen y marathon gyda gwen".

Dyma'r 10fed tro i Elen Hughes roi ei henw yn y balot ar gyfer Marathon Llundain
Un arall fydd yn cymryd rhan yn y marathon am y tro cyntaf yw Elen Hughes o Aberdaron.
Penderfynodd y fam-i-dri y llynedd mai dyma'r tro olaf y byddai'n rhoi ei henw yn y balot, ar ôl bod yn aflwyddiannus naw gwaith.
"Hwn di'r degfed tro i fi drio a'r tro cynta' i fi gael fy nerbyn felly oedd o'n bach o syrpreis," meddai.
Mae Elen, 42, wedi bod yn hel arian i'r Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion, neu Sands.
"Mae Sands yn bwysig i ni fel teulu achos yn 2012 roedd fy ail fab, Daniel, yn farwanedig pan o'n i'n 37 wythnos.
"Mae'r gefnogaeth 'da ni wedi'i gael yn amhrisiadwy, yn enwedig yn y dyddiau tywyll cynnar, ac mae'n braf i allu rhoi rhywbeth yn ôl."
Er mai dyma yw Marathon Llundain cyntaf Elen, mae hi wedi gwneud hanner marathon a marathon ultra yn y gorffennol i hel arian i Sands.
Mae cael amser i baratoi ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn her yn ei hun, meddai.
"Dwi wedi ffeindio fo'n anodd, yr oriau sy'n mynd i mewn i'r trainio.
"Dwi'n gweithio llawn amser a mae gennai dri o hogia sy'n brysur efo pêl-droed a rygbi - mae trio ffitio fo i mewn wedi bod yn anodd, codi'n ofnadwy o fuan neu mynd yn hwyr yn y nos.
"Ond mae'n foddhad i allu hel arian at achos mor dda."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.