Cofio Tony Jones: 'Tony ac Aloma oedd y ddeuawd orau'

Tony Jones
Disgrifiad o’r llun,

Tony Jones

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i Tony Jones, y canwr oedd yn un hanner o'r ddeuawd Gymraeg boblogaidd Tony ac Aloma, sydd wedi marw yn 86 oed.

Wedi'i fagu yn Rhos-meirch ar Ynys Môn, bu'n swyno cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt am dros hanner canrif.

Roedd y ddeuawd yn gyfrifol am rai o glasuron y Gymraeg, fel 'Dim Ond Ti A Mi' a 'Tri Mochyn Bach', ond bu hefyd yn perfformio fel artist unigol.

Y canwr Dylan Parry, y cyflwynydd Glan Davies a'r gantores Margaret Williams fu'n rhannu eu hatgofion ohono ar Dros Frecwast, Radio Cymru.

'Wnes i erioed feddwl y baswn i'n cael cyd-ganu efo Tony ac Aloma'

Mae gan Dylan Parry o'r ddeuawd Dylan a Neil a Traed Wadin atgofion melys o gydganu gyda Tony ac Aloma yng ngwesty'r Gresham yn Blackpool:

Oeddwn i tua 12 oed pan wnes i glywed nhw gyntaf, oeddan nhw yn ddylanwad mawr arna i.

Oeddan nhw mor dda, oeddan nhw yn gwpl smart, oedd yr harmonies ganddyn nhw ac oedd caneuon oedd Tony yn ei sgwennu yn mynd i'r galon, a phobl Cymraeg yn licio hynna. Maen nhw yn neud i chdi chwerthin a chrïo a mae'n noson dda wedyn.

Pan wnes i glywed 'Wedi Colli Rhywun Sy'n Annwyl', dyna'r gân wnaeth ddylanwadu arna i a wedyn pan es i ffwrdd i'r llynges yn 14 oedd y record yna gynna'i a o'n i yn chwara' hwnna ar y cwch ac o'n i yn ffan mawr ohonyn nhw.

Pan wnes i adael y môr yn 22 wnes i ymuno efo grŵp or enw Castaways a wedyn Traed Wadin a wnes i erioed feddwl y baswn i'n cael y cyfle i ganu efo Tony ac Aloma.

Dylan a Neil Ffynhonnell y llun, Dylan a Neil
Disgrifiad o’r llun,

Dylan a Neil yn canu gyda Tony yn Y Gresham

Naethon ni ddipyn o gyngherddau efo nhw a dod i nabod nhw reit dda a wedyn pan nath Neil ddechrau canu efo fi nathon ni ddechrau mynd i'r Gresham. Oeddan ni yna am tua pymtheg mlynadd i gyd efo llond bys o Gymry ac oeddan ni yn cael croeso.

Ar ôl gorffan canu oeddan ni yn siarad am oriau tan y bora ac oedd Tony yn medru bod yn reit ddoniol. Oedd o'n dderyn y nos. Oedd o ar ei draed tan tua 3-4 y bora.

Oedd Tony ac Aloma yn dda ofnadwy efo'r gynulleidfa, oedd o fatha tylluan, ar ei draed drwy nos ac yn cysgu yn dydd.

Roedd yna lond bys yn mynd efo ni i'r Gresham am 15 mlynedd. Oedd y Cymry wrth ei bodd efo ni. Ac o'n i yn gofyn i Tony 'ti ddim yn hiraethu am Sir Fôn ac oedd o'n deud 'na dwi'n gweld mwy yn fanma o Gymry na dwi'n ei weld adra'. Oedd o'n hoff iawn o Blackpool.

Y gân 'nath ddechra dylanwadu arna i oedd 'Wedi Colli Rhywun Sy'n Annwyl'. O'n i jest yn hoff iawn o sgwennu Tony. Oeddach chi'n clwad nhw ac oedd o'n neud chdi isio crïo, y ddau ohonyn nhw efo'i gilydd, oedd yr harmoni yn ffantastig.

Roedd eu lleisiau nhw'n asio yn berffaith.

Tony ac AlomaFfynhonnell y llun, Aloma Jones
Disgrifiad o’r llun,

Tony ac Aloma yn canu yng ngwesty'r Gresham yn Blackpool. Buont yn rhedeg y gwesty yn Blackpool am flynyddoedd

'Oedd hi'n amlwg bryd hynny eu bod nhw'n llwyddiannus dros ben'

Glan Davies, cyflwynydd y rhaglen canu ysgafn boblogaidd Hob y Deri Dando sy'n cofio darganfod Tony ac Aloma wrth chwilota am dalent newydd i'r gyfres:

Oedden ni yn gwneud dwy raglen o Fangor, Ruth Price a Meredydd Evans yn cynhyrchu. O'n i wedi bod trwy Gymru gyfan yn chwilota am dalent newydd a mi ddoth Tony ac Aloma hefyd ar yr un pryd, yr un penwythnos a Hogia'r Wyddfa a Hogia Bryngwran.

Oedd lot o bobl newydd wedi dod ar y sîn a roedd y rhaglen yn mynd nos Sadwrn a'r canlyniad oedd fod y cwmni recordiau yn awyddus iawn i siarad â Ruth Price ar fore dydd Llun i ffeindio allan pwy oedd y grwpiau yma.

Tony ac AlomaFfynhonnell y llun, Aloma Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tony ac Aloma yn cael eu hedmygu am eu harmonïau clir ac alawon cofiadwy

Dyna'r cychwyn ar amser prysur iawn yng Nghymru pryd welon ni y Cambrian a Recordiau'r Dryw yn Llandybïe yn cynhyrchu recordiau, a datblygiad pellach oedd Y Pinaclau, Y Tribanau Pop a Pop y Sosban.

Oedd yr artistiaid wedyn i gyd yn perfformio yn y nosweithiau yma o flaen cynulleidfa ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid o flaen dwy i dair mil o bobl.

Dyna'r tro cyntaf i ni ddod ar eu traws nhw. Oedd hi'n amlwg bryd hynny eu bod yn llwyddianus dros ben ym myd canu a byd y recordiau ac ym myd adloniant ysgafn yng Nghymru.

'Rhyfeddu at ddawn 'sgwennu Tony'

Y gantores Margaret Williams sy'n cofio dyddiau cynnar y ddeuawd ac ymddangosiad cyntaf Tony ac Aloma ar raglen Hob y Deri Dando:

O'n i yn nabod Aloma ers blynyddoedd ers dyddiau'r Eisteddfodau. O'n i ryw 16 a chriw fengach yn dod tu ôl i mi gan gynnwys Aloma a Christine Lee.

Byddai Aloma a Christine Lee yn canu deuawd wedyn mi ddaru y diweddar, hyfryd Idris Charles ddechrau nosweithia hefo Aloma a Christine a Tony. Wedyn mi nath Christine adael a mi ddechreuodd Tony ac Aloma efo'i gilydd efo Idris Charles.

Dwi'n cofio Tony ac Aloma yn dwad ar raglen Hob y Deri Dando am y tro cynta' ac oeddan nhw mor boblogaidd ac oedd eu delwedd nhw yn berffaith.

Aloma efo'i gwallt melyn hir a bŵts y 60au a wedyn Tony wrth ei hochr hi yn edrych arni mor gariadus.

margaretFfynhonnell y llun, Margaret Williams
Disgrifiad o’r llun,

Y gantores Margaret Williams

Oedd gan Tony ddawn anhygoel i ysgrifennu, dwi dal i ryfeddu at ei ddawn o.

Pam 'dach chi'n meddwl am y gân Wedi Colli Rhywun Sy'n Annwyl i Mi, wel faint ohonon ni sydd wedi gofyn y cwestiwn yna gymaint o weithia'. Roedd Tony wedi medru rhoi hynny i lawr ar bapur a doedd gynno fo ddim ofn i fod yn sentimental.

Wnaeth y caneuon 'sgwennodd o pan oedd o'n diodda yn yr ysbyty yn 'Diolch i Ti' a wedyn 'Cloch Fach yr Eglwys', dwi'n meddwl fod honna'n fendigedig pan mae o'n sôn am gael gwella.

Dwi wir yn rhyfeddu at ei ddawn 'sgwennu fo. Wedyn rhowch chi'r ddau at ei gilydd, y lleisiau yn asio yn berffaith, y ddau'n edrych yn berffaith, a'r caneuon gwych yma o 'sgwennu Tony. Fedran nhw ddim methu a deud y gwir. Nhw oedd y ddeuawd orau drwy'r 60au a 70au i mi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

Trending Now