Bil tanwydd cwmni cludo yn codi £64,000 yr wythnos yn sgil rhyfel Iran

Ers dechrau'r rhyfel yn Iran mae costau tanwydd Owens Group wedi codi 30%
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd ym mhrisiau olew yn sgil y rhyfel yn Iran wedi ychwanegu £64,000 yr wythnos at gost tanwydd wythnosol cwmni cludo o Gymru, gyda phryderon y bydd cwsmeriaid yn wynebu prisiau uwch am fwyd a dillad yn y pendraw.
Dywedodd Huw Owen, a sefydlodd gwmni cludo nwyddau mwyaf Cymru - Owens Group - yn 1972, fod prisiau disel wedi codi 30% ac yn dal i godi.
Rhybuddiodd y Gymdeithas Cludo Nwyddau Ffyrdd y byddai'n "anochel" bod costau uwch yn cael eu pasio ymlaen, gan alw ar Lywodraeth y DU i gadw'r toriad o 5c yn y dreth tanwydd sydd fod i ddod i ben ym mis Medi.
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys y byddai gweinidogion yn sicrhau bod gyrwyr yn cael "bargen deg" wrth y pwmp petrol.

Sefydlodd Huw Owen ei gwmni cludo nwyddau yn 1972, ac mae ganddo 600 o lorïau a faniau ar y ffyrdd erbyn hyn
"Mae'n £64,000 yn ychwanegol yr wythnos ar hyn o bryd," meddai Huw Owen.
Dywedodd y cwmni fod ei gyflenwyr tanwydd wedi rhoi'r gorau i'r gallu i archebu tanwydd wythnos o flaen llaw, ac mae bellach angen trafod cost ddyddiol i sicrhau digon o ddisel i'w canolfannau.
Pan aeth prisiau olew i fyny yn sgil y rhyfel yn Iran, dywedodd Mr Owen: "Fe wnaethon ni deimlo hynny ar unwaith fel cwmni," ac mae'r pris tua 30% yn uwch na chostau tanwydd cyn y rhyfel.
Mae Owens Group yn gyfrifol am 600 o lorïau a faniau, sy'n teithio ar draws y Deyrnas Unedig yn cludo nwyddau ar ran busnesau eraill.
"Gyda fleet o'r maint yna, rydyn ni'n llosgi tancer [o danwydd] y dydd. Felly cyn hyn, roedden ni'n archebu tanwydd wythnos neu bythefnos o flaen llaw.
"Unwaith daeth [y rhyfel] hwn, roedd toriad ar unwaith [i'r gallu i archebu] ac aeth y prisiau i fyny dros nos."
Er bod rhai o gytundebau'r cwmni yn cynnwys ffyrdd o ymateb i brisiau tanwydd, gan ganiatáu i'r pris amrywio yn dibynnu ar gost disel, dyw hynny ddim yn wir ar gyfer y mwyafrif o waith y cwmni.

Mae'n "anochel" bydd costau nwyddau yn codi yn sgil y cynnydd yng nghostau tanwydd, yn ôl Geraint Davies
Mae prisiau olew wedi mynd yn uwch na $100 y gasgen ar ôl ansicrwydd ynghylch cyflenwadau.
Aeth y pris yn uwch yn dilyn targedu llongau o amgylch y llwybr allweddol ar gyfer tanceri ar hyd Culfor Hormuz.
Mae'r rhyfel yn Iran "yn cael effaith ddofn eisoes" ar gost tanwydd lorïau, faniau a choetsys, yn ôl y Gymdeithas Cludo Nwyddau Ffyrdd.
"Rydym wedi gweld yr effaith hon yn symud yn gyflym iawn, iawn trwy'r cyflenwad tanwydd," meddai Geraint Davies o'r gymdeithas.
Mae cynnydd mewn prisiau yn anodd ei amsugno, meddai Mr Davies, gan ychwanegu mai dim ond "rhai gweithredwyr sy'n gallu trosglwyddo hyn" i'w cwsmeriaid ar hyn o bryd.
Rhybuddiodd y bydd prisiau tanwydd uchel parhaus "yn cael effaith chwyddiant anochel" ar gostau nwyddau.
Byddai cynllun Llywodraeth y DU i ddod â'r toriad 5c i dreth tanwydd i ben ym mis Medi yn gwaethygu'r sefyllfa, meddai Mr Davies, a alwodd am wrthdroi'r penderfyniad.
'Dio'm yn lot nadi?' - Teuluoedd yn ymateb i gymorth olew gwresogi
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
'Heriau digynsail' y diwydiant olew gwresogi wrth i brisiau ddyblu
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi "etifeddu" system ariannol oedd wedi torri, ac oedd wedi cynnwys cynlluniau i gynyddu'r dreth tanwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys fod y llywodraeth wedi "ymestyn y toriad treth tanwydd 5c i fis Medi i arbed £49 i yrwyr, a bydd ein chwiliwr tanwydd newydd yn sicrhau bod gyrwyr yn cael bargen deg wrth y pwmp".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.