Her argyfwng tai Cymru 'yn anferth i'r llywodraeth nesaf' medd elusen

Stad Felinheli
GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Dydy pleidiau gwleidyddol Cymru "ddim yn deall maint yr her" wrth fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn ôl elusen Shelter Cymru.

Rhybuddio mae'r elusen fod y prinder tai yn creu sefyllfa argyfyngus yng Nghymru gyda mwy na 94,000 o aelwydydd yn aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd.

Yn ôl gwaith ymchwil newydd gan Sefydliad Bevan y disgwyl yw y bydd angen codi dros 150,000 o dai dros yr ugain mlynedd nesaf i ddiwallu'r angen.

Wrth siarad â Newyddion S4C, mae un dyn o Sir y Fflint yn dweud nad yw prynu tŷ yn realiti na chwaith o fewn cyrraedd i nifer o bobl ifanc beallch.

Dafydd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd yn credu bod angen cefnogaeth ar bobl ifanc i brynu tai er mwyn eu cadw yma yng Nghymru

Yn wreiddiol o ardal Bethesda mi symudodd Dafydd Roberts i Bagillt, Sir y Fflint dros ddwy flynedd yn ôl gyda'i bartner wrth chwilio am dŷ i'w rhentu.

Ar ôl treulio misoedd yn chwilio yn agosach at adref, mae'n dweud mai gadael Gwynedd oedd yr unig opsiwn i gael tŷ rhent.

Mae e bellach yn ceisio cynilo am flaendal er mwyn prynu tŷ ond yn dweud fod hynny bron yn amhosib.

"Ar hyn o bryd 'da ni'n talu £800 y mis ar rent ond mae hwnna yn cael ei gynyddu mis nesa wan i £950... mae'n reit siriys efo'r ffordd mae pethau yn mynd ar y funud.

"Mae wedi bod yn amser bryderus, da ni wedi bod yn poeni a 'da ni jest yn gorfod stretchio, torri pethau allan i neud yn siŵr ein bod ni'n gallu talu rhent ni.

"'Di o ddim o fewn golwg y byddwn ni'n gallu prynu tŷ... mae 'na waith angen ei wneud i gefnogi bobl ifanc i gadw nhw yma yng Nghymru."

Yn ôl gwaith ymchwil gan elusen Shelter Cymru, mae eu hystadegau diweddaraf yn awgrymu fod 94,000 o bobl yng Nghymru yn aros am dŷ cymdeithasol.

Mae Sefydliad Bevan hefyd yn darogan y bydd angen dros 150,000 o dai dros yr ugain mlynedd nesaf i ddiwallu'r angen.

Addewid Llywodraeth Cymru oedd i godi 20,000 o dai fforddiadwy, carbon isel i'w rhentu o fewn y tymor seneddol diwethaf.

Mae Archwilio Cymru yn dweud mai 18,652 fydd yn llwyddo i gael eu codi yn ystod y tymor seneddol hwn gyda rhai sefydliadau wedi dweud wrth Newyddion S4C nad yw bob un cartref yn adeilad newydd gyda rhai yn cael eu hailbwrpasu.

Heddyr Gregory
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddyr Gregory'n credu bod "yr her yn anferth i'r llywodraeth nesaf yng Nghaerdydd"

Ym mis Ionawr mi oedd 10,627 o bobl yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru, - llefydd fel gwestai a glwey a brecwast - ac mae Shelter Cymru yn galw am weithredu.

"Dwi ddim yn credu bod y pleidiau yn deall maint yr her sydd o'u blaenau nhw," meddai Heddyr Gregory o'r elusen.

"Maen nhw'n deall fod 'na broblem, mae nhw'n gwybod fod digartrefedd ar gynnydd ac yn ffrwydro ond mae addewidion yn un peth, mae cael y maen i'r wal yn beth arall.

"Mae'r her yn anferth i'r llywodraeth nesaf yng Nghaerdydd er mwyn darparu y tai cymdeithasol pan 'da ni'n ystyried fod 94,000 ar restr aros am dŷ cymdeithasol."

Iwan TreforFfynhonnell y llun, Adobe
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iwan Trefor fod angen mwy o fuddsoddiad yn y stoc bresennol o dai gyda rhai yn bron i gant oed yn y gogledd

Yn y Felinheli mae cymdeithas dai Adra wrthi'n cwblhau cynllun o 23 o dai fforddiadwy sy'n gymysg eu natur a darpariaeth.

Yn ôl y prif weithredwr mae'n rhaid i dai fod yn flaenoriaeth i lywodraeth nesaf Cymru.

"Mae wir angen cefnogaeth ar lefel llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol," medd Iwan Trefor Jones o Adra.

"Mae'n bwysig bod ni'n cael mwy o adnoddau, mae datblygiadau fel hyn yn gostus, mae chwyddiant yn effeithio ar y sector yn sylweddol."

Ychwanegodd fod angen mwy o fuddsoddiad yn y stoc bresennol o dai hefyd, gyda rhai yn bron i gant oed yn y gogledd.

Stad Felinheli

Yn ôl Reform UK, "mae Cymru'n wynebu prinder tai ac mae'n cynlluniau yn glir yn eu maniffesto i godi mwy o dai".

Mae'r Blaid Werdd yn dweud fod "tai yn flaenoriaeth ac y byddan nhw'n rhewi prisiau i bobl sy'n rhentu a chyflwyno rheolau tynnach".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol am godi "30,000 yn rhagor o dai cymdeithasol a buddsoddi yn y stoc bresennol".

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig am godi "40,000 o dai newydd a thorri treth stamp".

Yn ôl Llafur Cymru mi fydden nhw'n "darparu 100,000 o gartrefi dros ddeng mlynedd a hynny'n cynnwys 40,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu" hefyd.

Dweud mae Plaid Cymru fod ganddyn nhw "bolisïau uchelgeisiol a blaengar i daclo'r argyfwng tai, yn cynnwys drwy sefydlu Unnos - corff fydd yn cyflymu'r broses o ddarparu tai cymdeithasol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now