Dedfrydu dyn ifanc am fygwth lladd myfyrwyr a staff coleg

Oliver BeynonFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Oliver Beynon ei arestio ar ôl i'w dad alw'r heddlu

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 21 oed wedi cael ei ddedfrydu i chwe mis yn y carchar, wedi'i ohirio am 18 mis, ar ôl cyfaddef postio fideo yn bygwth lladd myfyrwyr a staff mewn coleg ym Merthyr Tudful.

Cafodd Oliver Beynon o Fochriw, Caerffili, ei arestio ar 31 Awst 2025 ar ôl i'w dad alw'r heddlu.

Roedd Beynon wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol i'r cyhuddiad o anfon negeseuon yn bygwth marwolaeth neu niwed difrifol.

Yn y fideo, a gafodd ei wylio fwy na 2,500 gwaith, roedd Beynon yn galw ei hun yn 'The Welshman', gan wisgo mwgwd Y Coleg Merthyr Tudful a het fedora wen, ac yn bygwth "torri, trywanu a sleisio" pobl yn y coleg.

Yn ôl y gwrandawiad, fe wnaeth y fideo achosi "panig a gofid" ymysg myfyrwyr a staff, ac fe gafodd sawl fideo arall eu darganfod ar ddyfais symudol Beynon oedd heb eu postio ar YouTube.

Y ColegFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Oliver Beynon wedi bygwth "torri, trywanu a sleisio" pobl yn Y Coleg Merthyr Tudful

Clywodd y llys fod Beynon yn awtistig a'i fod wedi astudio yn y coleg yn y gorffennol.

Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar wedi'i ohirio, mae'r llys wedi gosod gorchymyn goruchwyliaeth iechyd meddwl ar Beynon, ac mae wedi'i wahardd o'r coleg am 18 mis.

Trending Now