Allai lluniau digidol helpu i ddatrys dirgelwch corff cronfa Claerwen?

Defnyddiodd arbenigwyr luniau, cofnodion deintyddol a sganiau arbennig i greu wyneb y dyn yn ddigidol
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n gobeithio y bydd llun digidol yn gallu bod o gymorth i ddatrys pwy yw'r dyn gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr yn y canolbarth.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod yn y gronfa'n gwisgo siwt wlyb, werth £200.
Fe ysgogodd y darganfyddiad archwiliadau eang ac apêl ryngwladol; ond does neb wedi dweud eu bod nhw'n ei adnabod.
Bellach, mae arbenigwyr mewn prifysgol yn Lerpwl wedi defnyddio lluniau, cofnodion deintyddol a sganiau o benglog y dyn i greu'r delweddau newydd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, o Heddlu Dyfed-Powys, ei bod hi'n gobeithio y byddan nhw'n arwain at ddatrys y dirgelwch.
Apêl newydd er mwyn adnabod corff Cronfa Ddŵr Claerwen
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2024
"Yn ei hanfod, ry'n ni'n ceisio gwneud cymaint â phosibl i geisio'i adnabod a'i ddychwelyd i unrhyw aelodau o'i deulu efallai sy'n ei golli," meddai.
"Ry'n ni'n credu mai dyma'n cyfle gorau i adnabod y dyn."
Apeliodd yr heddlu am gymorth gan y cyhoedd yn ôl ym mis Hydref 2024.
Yn gynharach yn y mis, roedd cerddwr wedi gweld corff y dyn yn arnofio ychydig fetrau o'r lan yng nghronfa ddŵr Claerwen.
Hon yw'r gronfa fwyaf o ran maint, a mwyaf gwledig Cwm Elan ym Mhowys.
Oherwydd dyfnder y gronfa, mae'r dŵr oer yn gallu achosi sioc i'r corff ac mae arwyddion ar y lan yn rhybuddio pobl i beidio â nofio neu fynd i mewn i'r dŵr.
Yn dilyn y darganfyddiad, aeth timau chwilio'r heddlu ar droed ac ar y dŵr, i chwilio am unrhyw eiddo gafodd ei adael ar y lan.
Cafodd hofrennydd yr heddlu hefyd ei ddefnyddio, fu'n hedfan yn isel dros y bryniau ac ar draciau cyfagos - yn chwilio am gerbydau neu bebyll.

Oherwydd lleoliad gwledig y gronfa, a'r dŵr oer yno, dydy cronfa Claerwen ddim yn aml yn denu twristiaid yn ôl rhai sy'n byw'n lleol
Ond dydy'r heddlu erioed wedi dod o hyd i unrhyw eiddo. Doedd gan y dyn chwaith ddim gemwaith nac unrhyw nodweddion amlwg fel creithiau na thatŵau.
Er bod yr ardal tua 12 milltir o'r dref agosaf, a dim gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol, does dim gwybodaeth chwaith ynglŷn â sut y daeth y dyn i fod yno.

Mae'r heddlu'n credu mai defnyddio sgiliau arbenigwyr Prifysgol John Moores Lerpwl yw eu cyfle gorau i geisio adnabod y dyn
Gofynnodd ditectifs i heddlu lleol edrych ar eu cronfeydd bas data o bobl sydd ar goll, a gwirio DNA ac olion bysedd y dyn gyda chofnodion.
Pan na lwyddodd yr ymholiadau hynny, fe chwilion nhw yng nghofrestr pobl goll yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Yn y diwedd, fe ofynnon nhw am gymorth asiantaeth Interpol, wnaeth apêl ryngwladol mewn 24 o wledydd Ewropeaidd.
"Bob tro ry'n ni'n cysylltu â'r cyhoedd, ry'n ni wedi cael rhai pethau i'w dilyn yn yr ymchwiliad, ond yn anffodus does dim o'r rheiny wedi profi'n allweddol i ddarganfod pwy oedd y dyn, " meddai'r Ditectif Arolygydd Anthea Ponting.
Hi oedd ar alwad pan gafodd y corff ei ddarganfod, ac mae wedi arwain yr ymchwiliad ers hynny. Dywedodd bod y tîm yn benderfynol o ddatrys yr achos.

Cafodd y gronfa'i hagor yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth II yn 1952
Mae'r heddlu'n credu bod y corff wedi bod yn y dŵr am hyd at 12 wythnos cyn cael ei ddarganfod.
Yn ôl yr heddlu does dim tystiolaeth i awgrymu bod trosedd wedi ei chyflawni.
Clywodd cwest, gafodd ei agor a'i ohirio fis Chwefror 2025, nad oedd y farwolaeth "yn cael ei hystyried yn amheus ar hyn o bryd".
Yn ôl Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, mae'n nhw'n "cadw meddwl agored, ond mae'n rhaid i ni gael ein tywys gan y wybodaeth sydd ar gael i ni.
"Bach iawn ry'n ni'n ei wybod amdano heblaw'r hyn ry'n ni wedi gallu ei ddarganfod o'r archwiliadau post-mortem."

Y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting sydd wedi arwain yr ymchwiliad ers i'r corff gael ei ddarganfod
Hyd yn hyn, mae'r ymchwiliad wedi cadarnhau bod y corff gafodd ei ddarganfod yn ddyn gwyn, rhwng 30 a 60 oed, a'i fod tua 6 throedfedd o daldra (1.8 metr).
"Roedd y siwt wlyb roedd e'n ei wisgo yn faint XXL sy'n rhoi amcangyfrif pwysau o ryw 200 i 220 pwys," meddai'r Ditectif Arolygydd Anthea Ponting.
"Dyna'r cyfan ry'n ni wedi gallu ei gadarnhau o'n hymchwiliadau cychwynnol."
Mae hi'n gobeithio y bydd y lluniau digidol gan dîm Prifysgol John Moores Lerpwl yn gallu newid hynny.
Rhoddodd yr heddlu luniau, adroddiadau post-mortem, adroddiad deintyddol fforensig a sganiau i'r tîm Face Lab. Defnyddiodd yr arbenigwyr y rhain i greu model 3D gyda meddalwedd ddelweddu feddygol.
Defnyddion nhw'r adroddiad deintyddol a lluniau i greu siâp gwaelod wyneb a cheg y dyn a darganfod bod ei ddannedd yn gam a'u bod yn gwthio allan.
Fe wnaethon nhw ddyfalu siâp wyneb y dyn drwy ychwanegu cyhyrau i'r model, a chasglu bod ganddo ên gron ac asgwrn gên sgwâr.
'Gofyn am gymorth y cyhoedd'
Mae'r Ditectif Arolygydd Anthea Ponting yn gobeithio y bydd y darluniau'n arwain at gael "gwybodaeth bositif":
"Mae'r llun eisoes wedi ei brosesu gan system Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu... ac wedi ei rannu gydag Interpol. Ry'n ni unwaith eto'n gofyn am gymorth y cyhoedd.
"Mae hwn yn aelod o deulu rhywun... a byddwn i'n dymuno mwy na dim i'w ddychwelyd i'w anwyliaid sydd efallai'n ei golli."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.