Cynnwys gwydr mewn cynllun arian am ddychwelyd poteli diod

Potel gwydrFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd gwydr yn cael ei gynnwys yng nghynllun dychwelyd poteli Llywodraeth Cymru ar ôl derbyn cefnogaeth mewn pleidlais yn y Senedd.

O'r flwyddyn nesaf, fe fydd pobl yn cael cynnig arian neu dalebau am ddychwelyd poteli a chaniau gwag i'w hailgylchu.

Dan gynlluniau sy'n berthnasol ar draws y DU, fe fydd Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer poteli plastig a chaniau metel yn unig.

Ond yng Nghymru fe fydd gwydr hefyd yn rhan o'r cynllun.

Yn y Senedd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies y byddai'r newid yn "taclo'r cynnydd mewn sbwriel gwydr ar ein strydoedd a'n traethau".

Ond mae'r sector lletygarwch wedi rhybuddio y gallai'r cynllun olygu codi prisiau i gwsmeriaid.

Fe wnaeth Aelodau'r Senedd gymeradwyo'r cynllun o 41 pleidlais i 17.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now