Cyhuddo dyn o geisio llofruddio yng Nghaerfyrddin

James McKennaFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i James McKenna ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 57 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yng Nghaerfyrddin yr wythnos diwethaf.

Cafodd menyw "anafiadau trywanu" mewn ymosodiad honedig yn ardal Heol Picton a Pharc Caerfyrddin ddydd Iau, 29 Ionawr.

Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Llun fod unigolyn wedi cael ei arestio.

Dywedodd y llu nos Fercher fod James McKenna, 57 ac yn dod o Gaerfyrddin, wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio, bod â llafn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, a stelcian.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau.

Trending Now