Symud i Awstralia i ddechrau swydd gyda thîm seiclo'r wlad

Rhys Llywelyn
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr o ogledd Cymru ar ei ffordd i Adelaide i helpu tîm seiclo Awstralia baratoi at y Gemau Olympaidd fydd yn cael eu cynnal yno yn 2032.
Mae'n uchafbwynt gyrfa i'r dyn 29 oed o Wynedd sydd wedi gwirioni gyda'r gamp ers yn blentyn ac wedi magu profiad yn y maes dadansoddi perfformiad dros y blynyddoedd diwethaf.
Ac er ei fod yn gam mawr i symud i ochr arall y byd, mae'n dweud bod helpu tîm i geisio ennill medalau mewn Gemau Olympaidd ar eu tomen eu hunain yn gyfle rhy dda i'w golli.

Rhys gyda'i gydweithwyr British Cycling - gan gynnwys hyfforddwyr, physios, meddygon, ffisiolegwyr a gweithwyr cyfryngau - yng Ngemau Olympaidd Paris 2024
Fe ddechreuodd diddordeb Rhys Llywelyn mewn seiclo pan oedd o yn Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen - yr un ysgol gynradd ag un o ffigurau amlyca'r byd beicio, Syr David Brailsford.
Roedd Rhys yn edmygu ac yn dilyn enwogion y gamp a dechreuodd y teulu fynd ar wyliau i Wlad Belg i wylio rasys y Ronde van Vlaanderen (Tour of Flanders) ac i Ffrainc i wylio'r Paris-Roubaix a Tour de France.
Wedi iddo fynd i Ysgol Brynrefail fe ddechreuodd deithio o gwmpas rasys triathlon gyda'i frawd mawr Owain.
"Roedd o'n gwneud triathlons a ro'n i'n mynd o gwmpas y rasys efo fo a Mam a Dad ac isio bod fel y brawd mawr a copïo be' oedd o'n 'neud," meddai wrth Cymru Fyw.
"O'n i'n hoples yn nofio ac felly bob tro yn y cefn felly nesh i newid sport i redeg.
"Ond o'n i'n obsessed efo seiclo pan o'n i'n fach. Do'n i'm yn rasio beics ond o'n i'n mynd lot i feicio - jest enjoio mynd."
Aeth i'r brifysgol yng Nghaerdydd i astudio dadansoddi perfformiad chwaraeon. Yn ei drydedd flwyddyn fe anwybyddodd gyngor i wneud ei draethawd estynedig ar bêl-droed neu rygbi a chanolbwyntio ar seiclo.

Rhys ym Mharis, a gyda Medal Aur am fuddugoliaeth y tîm gwybio merched - oedd yn cynnwys y Gymraes Emma Finucane
Ar ôl graddio yn 2018 fe gafodd swydd gyda Beicio Cymru - lle'r oedd o wedi bod yn gweithio rhan amser tra'n fyfyriwr - fel swyddog digwyddiadau.
Ond wedi tair blynedd yn trefnu ac yn helpu mewn rasys a digwyddiadau beicio ar draws Cymru fe gafodd swydd gyda British Cycling yn dadansoddi data.
Felly fe symudodd i'w pencadlys ym Manceinion lle'r oedd yn gweithio gyda sêr y byd seiclo, fel Jason Kenny, sydd bellach wedi ennill saith medal aur a dwy fedal arian yn y Gemau Olympaidd.
Meddai Rhys: "O'n i'n star-struck i gychwyn efo ond fel ma' amser yn mynd ti'n sylwi bod nhw jyst yn berson fel chdi a fi sydd efo talent da.
"Dydd i ddydd, y gwaith ydi edrych ar be' maen nhw wedi ei wneud o ran perfformiad wrth ymarfer. Ti'n edrych ar bethau gwahanol fel pŵer a cadence - pa mor sydyn maen nhw'n troi'r pedal - bob dim maen nhw wedi 'neud.
"Dwi hefyd yn edrych ar footage ohonyn nhw'n mynd rownd y trac i weld os oes unrhyw beth allwn ni wneud i wella perfformiad."

Rhys yn y Gemau Olympaidd ym Mharis gyda'i gyfrifiadur a chamera er mwyn casglu data fydd yn cael ei anfon yn syth at yr hyfforddwyr ar ôl y ras er mwyn gwella'r perfformiad nesaf
Mae teithio yn rhan fawr o'r swydd a Rhys wedi cael y cyfle i fynd i nifer o wledydd Ewrop a thu hwnt - gan gynnwys Canada, yr Aifft, Chile ac Awstralia.
"Do'n i'm yn gwybod os oedd teithio yn rhan o'r swydd i gychwyn - os oedden nhw eisiau pobl oedd yn gwneud fy swydd i i deithio efo'r athletwyr - ond mae 'na lot o deithio a dyna un o rannau gorau'r swydd," meddai.
"Helpu athletwyr i wneud eu gorau ydi'r job, be' bynnag ydi hynny - os ydyn nhw'n ennill neu beidio a lle bynnag maen nhw. Felly 'da ni yna i'w helpu nhw yn y rasys a gweld lle mae gwledydd eraill arni a sut yda ni'n cymharu."
Mae'r byd seiclo yn un bychan, meddai, gyda phawb yn adnabod pawb. Fis Hydref diwethaf fe gafodd ei annog gan bennaeth tîm seiclo Awstralia - sy'n dod o Fanceinion - i geisio am swydd oedd ar fin cael ei hysbysebu.

Rhys gyda seiclwyr sydd wedi ennill 18 medal Olympaidd rhyngddyn nhw, yng ngwesty'r Celtic Manor yn 2021 wrth iddyn nhw baratoi at Gemau Olympaidd Tokyo. O'r chwith i'r dde: Ryan Owens, Katy Marchant, Rhys, Jack Carlin, Jason Kenny, a Phil Hindes
Er ei fod yn mwynhau ei waith gyda British Cycling ac wedi prynu tŷ yn ardal Manceinion gyda'i bartner roedd y swydd yn apelio.
Meddai: "Nesh i feddwl waeth i fi drio amdani, mae'n beth da dangos diddordeb - ac alla i bob tro ddeud na. A do'n i ddim yn meddwl baswn i'n cael cynnig y swydd - ond mi nesh i.
"Nesh i siarad efo fy rheini a fy mhartner a ffrindiau ac roedd pawb yn deud 'go for it' - tydi'r cyfleoedd yma ddim yn dod fyny yn aml, yn enwedig efo Awstralia'n paratoi at Gemau Olympaidd 2032 yn Melbourne.
"Fydd o'n grêt gallu bod yn rhan o hynny. Mae o hefyd yn rhywbeth i'w roi ar fy CV os ydw i isio job yn rhywle arall rhywbryd.
"Mae'r job union 'run fath â be' dwi'n 'neud rŵan ond fydda i'n gweithio efo'r tîm trac endurance, dim sprint.
"Dwi'n nabod eitha' lot o'r tîm yn barod. I fi mae'r bobl dwi'n gweithio efo nhw yn bwysig iawn ac roedd 'nabod nhw, a gwybod bod nhw'n bobl iawn, yn help i fi wneud y penderfyniad i fynd amdani."
Felly'r bwriad ydi symud yno ddiwedd Mawrth, gyda'i bartner yn ymuno ag o ymhen blwyddyn.
Meddai: "Dwi a fy mhartner yn 30 blwyddyn nesa ac roedda ni wedi sôn am fynd i deithio i Awstralia a Seland Newydd i ddathlu - ond rwan fydda i'n byw yna.
"Faswn i'n licio aros tan o leia'r Gemau Olympaidd yn 2032, ac wedyn... pwy a ŵyr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2023

- Cyhoeddwyd2 Medi 2025

- Cyhoeddwyd27 Awst 2025
