'Mae'r dyn a laddodd fy chwaer wrth rasio ei gar yn dal i gael gyrru'

Aimee Coombes a Sophie BrimbleFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aimee Coombes (dde) wedi siarad am y tro cyntaf am golli ei chwaer, Sophie (chwith) yn 2017

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad ar ôl i geir fod yn rasio yn dweud eu bod yn flin bod y gyrrwr yn parhau i fod wrth y llyw.

Bu farw Sophie Brimble, 20, ar ôl i gar ei chariad, Jay Bayliss, daro polyn lamp ym Mrynmawr, Blaenau Gwent yng Ngorffennaf 2017. Roedd yn gyrru ar bron i dair gwaith y terfyn cyflymder.

Ar y pryd penderfynwyd bod anafiadau Bayliss mor ddifrifol na fyddai'n wynebu achos llys.

Ond cafodd yr ymchwiliad ei ailagor yn 2024 ar ôl i'r heddlu gael gwybod ei fod wedi llwyddo gyda chais am drwydded yrru.

Er hynny, penderfynwyd eto nad oedd yn ddigon da i wynebu camau cyfreithiol - sy'n golygu nad yw'r llysoedd yn gallu cymryd ei drwydded oddi arno.

Ddydd Iau fe gafodd ryddhad llwyr yn dilyn ymddangosiad yn Llys y Goron Casnewydd.

Jay Bayliss yn cyrraedd Llys y Goron Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Jay Bayliss yn cyrraedd Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau

'Dyw e ddim yn gwneud synnwyr'

Mae chwaer Sophie, Aimee Coombes, yn dweud nad yw'r teulu'n gallu credu'r sefyllfa: "Ar ddiwedd y dydd, roedd Sophie yng nghar Jay, ac mae Jay yn dal i yrru o amgylch y lle. Dyw e ddim yn gwneud synnwyr..."

Cafodd Bayliss ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ond ar ddechrau'r achos ym mis Mawrth, penderfynodd y barnwr ar sail tystiolaeth feddygol ei fod yn dal yn rhy wael i'r broses barhau.

Cafodd ffeithiau'r achos eu clywed, ac fe ddaeth rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd i'r canlyniad fod Bayliss yn gyfrifol am achosi marwolaeth Sophie Brimble drwy yrru'n beryglus.

Ond pan fydd y dedfrydu ddydd Iau, nid yw'r opsiynau prin sydd ar gael i'r barnwr yn cynnwys dedfryd o garchar na gwaharddiad gyrru.

Sophie BrimbleFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Sophie Brimble, 20, ar ôl i Bayliss golli rheolaeth o'i gar wrth rasio car arall

Mae teulu Sophie yn credu bod yr opsiynau dedfrydu yn annheg, ac yn peryglu bywydau eraill.

"Mae e [Bayliss] yn berygl. Mae'n gyrru rownd y lle fel ffŵl", meddai Aimee Coombes, sydd o Grucywel.

"Mae gymaint o bobl wedi cysylltu 'da fi i ddweud bod nhw wedi gweld e'n goryrru, yn gorwedd yn ôl yn ei sedd..."

Ychwanegodd fod y teulu wedi cadw'n dawel am bron i naw mlynedd, ond bod gweld Bayliss yn gyrru yn eu cymuned wedi eu gorfodi i siarad yn gyhoeddus.

"Mae pobl angen gwybod bod e ar yr hewl, mae'n berygl i bobl eraill. Os nag yw e'n gallu wynebu achos llys, sut bod e'n iawn i yrru car?"

Yn 2019 clywodd y llys fod y ras arweiniodd at y digwyddiad wedi ei hysgogi gan ffrind Bayliss, Neil Brooks, a gafwyd yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Cafodd ei garcharu am wyth mlynedd a gwaharddiad gyrru am naw mlynedd.

Daeth Heddlu Gwent i'r casgliad bod y ceir yn teithio ar dros 80mya mewn ardal 30mya cyn y gwrthdrawiad.

Mae'r llu bellach wedi gwneud cais i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i ddiddymu trwydded Bayliss.

Mae'r DVLA wedi dweud nad ydyn nhw'n gallu gwneud sylw ar achosion unigol.

Aimee COombes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aimee Coombes yn dweud bod y teulu'n teimlo nad yw Bayliss wedi ei gosbi o gwbl

Yn ôl Comisiwn y Gyfraith cafodd y rheolau sy'n penderfynu a ydy person yn gallu wynebu erlyniad eu ffurfio yn 1836.

Ychwanegon nhw bod y rheolau wedi dyddio, ac nad ydynt yn ystyried dealltwriaeth fodern o allu rhywun i fod yn gyfrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Roedd hon yn farwolaeth drasig, ac mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu Sophie Brimble.

"Er bod achosion o'r fath yn brin, rydym yn deall y boen y gall achos fel hwn ei achosi ac rydym eisoes yn gweithio i ddiwygio'r gyfraith ynghylch gallu i gyflwyno ple.

"Mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnal adolygiadau pellach o feysydd cysylltiedig o'r gyfraith, a byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau i wneud newidiadau fel bod y polisi'n addas at ei bwrpas."

Ychwanegodd chwaer Sophie bod "gwybod ei fod e'n cael cerdded bant, heb gosb" yn mynd i daro'r teulu yn galed.

"Mae'n rhaid i ni fel teulu fyw heb beth mae wedi ei gymryd ganddon ni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now