Achos trywanu Ysgol Dyffryn Aman yn dymchwel ar ôl 'anghysondeb'

Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dwy athrawes a disgybl eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae'r achos yn erbyn merch 14 oed a drywanodd tri pherson mewn ysgol yn Sir Gâr wedi dymchwel ar ôl "anghysondeb mawr" yn y rheithgor.

Cafodd dwy athrawes - Liz Hopkin a Fiona Elias - a disgybl eu trywanu yn ystod amser egwyl yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill.

Roedd merch - nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoed - wedi cyfaddef ei bod wedi trywanu ond wedi gwadu ceisio llofruddio.

Ond yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC y bydd achos arall yn dechrau o'r newydd ar 27 Ionawr, 2025.

Dywedodd y barnwr ei bod yn "anfoddhaol iawn rhyddhau'r rheithgor, yn enwedig i'r ferch 14 oed a fydd yn gorfod sefyll ei phrawf eto".

Ychwanegodd: "Mae anghysondeb mawr wedi bod yn y rheithgor ac rydyn ni i gyd yn cytuno fod hyn wedi amharu yn anadferadwy ar ein gallu ni i ystyried y mater hwn.

"Gyda'r amharodrwydd mwyaf posib, bydd yn rhaid i mi ryddhau’r rheithgor hwn."

Gofynnodd y barnwr i un aelod o'r rheithgor aros ar ôl wrth i aelodau'r cyhoedd adael y llys.

Liz Hopkin a Fiona Elias
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Liz Hopkin a Fiona Elias eu hanafu yn y digwyddiad

Ar ddiwrnod yr ymosodiadau, cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys dau hofrennydd ambiwlans awyr, eu galw i'r lleoliad.

Roedd cyllell wedi ei chanfod ar dir yr ysgol.

Cafodd y tri dioddefwr anafiadau nad oedd yn fygythiad i fywyd ond bu'n rhaid i Ms Hopkin, a gafodd ei thrywanu yn ei gwddf, gael ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.

Cafodd yr ysgol ei rhoi dan glo ac arhosodd ar gau'r diwrnod canlynol er mwyn cynnal ymchwiliadau.

Trending Now